聖經新譯本

Welsh

1 Corinthians

15

1基督照聖經所記的復活了弟兄們,我要把我從前傳給你們的福音向你們講明。這福音你們已經領受了,並且靠著它站立得穩。
1 Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd
2你們若持守我所傳給你們的道,就必靠這福音得救,不然就是徒然相信了。
2 ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch.
3我從前領受了又傳交給你們那最要緊的,就是基督照著聖經所記的,為我們的罪死了,
3 Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn �l yr Ysgrythurau;
4又埋葬了,又照著聖經所記的,第三天復活了;
4 iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn �l yr Ysgrythurau;
5並且曾經向磯法顯現,然後向十二使徒顯現。
5 ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg.
6以後又有一次向五百多個弟兄顯現。他們中間大多數到現今還在,也有些已經睡了。
6 Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith � ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno.
7以後也向雅各顯現,再後又向眾使徒顯現,
7 Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion.
8最後也向我顯現;我好像一個未到產期而生的人。
8 Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol.
9我原是使徒中最小的,本來沒有資格稱為使徒,因為我曾經迫害 神的教會。
9 Oherwydd y lleiaf o'r apostolion wyf fi, un nad wyf deilwng i'm galw yn apostol, gan imi erlid eglwys Dduw.
10然而靠著 神的恩典,我得以有了今天,而且他賜給我的恩典並沒有落空;我比眾使徒格外勞苦,其實不是我,而是 神的恩典與我同在。
10 Ond trwy ras Duw yr wyf yr hyn ydwyf, ac ni bu ei ras ef tuag ataf yn ofer. Yn wir, mi lafuriais yn helaethach na hwy i gyd � eto nid myfi, ond gras Duw, a oedd gyda mi.
11因此,不論是我,或是眾使徒,我們這樣傳,你們也這樣信了。
11 Ond prun bynnag ai myfi ai hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwithau.
12死人都要復活我們既然傳基督從死人中復活了,你們中間怎麼有人說沒有死人復活呢?
12 Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw?
13倘若沒有死人復活的事,基督也就沒有復活了。
13 Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith.
14如果基督沒有復活,我們所傳的就是枉然,你們的信也是枉然,
14 Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi,
15我們也會被人認為是替 神作假見證的了,因為我們為 神作過見證說,他使基督復活了。如果死人沒有復活, 神也就沒有使基督復活了。
15 a ninnau hefyd wedi ein cael yn dystion twyllodrus i Dduw, am ein bod wedi tystiolaethu iddo gyfodi Crist � ac yntau heb wneud hynny, os yw'n wir nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi.
16因為如果死人沒有復活,基督也就沒有復活。
16 Oherwydd os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith.
17基督若沒有復活,你們的信就是徒然,你們仍在你們的罪裡。
17 Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd.
18那麼,在基督裡睡了的人也就滅亡了。
18 Y mae'n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt.
19如果我們在基督裡只在今生有盼望,就比所有人更可憐了。
19 Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb.
20現在基督已經從死人中復活,成為睡了的人初熟的果子。
20 Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.
21死既藉著一人而來,死人復活也藉著一人而來。
21 Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw.
22在亞當裡眾人都死了,照樣,在基督裡眾人也都要復活;
22 Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist.
23只是各人要按著自己的次序:初熟的果子是基督,以後,在他來的時候,是那些屬基督的人。
23 Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist.
24再後,末期到了的時候,基督把所有的統治者、掌權者和有能者都毀滅了,就把國度交給父 神。
24 Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar �l iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu.
25因為基督必要作王,直到 神把所有的仇敵都放在他的腳下。
25 Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed.
26最後要毀滅的仇敵就是死,
26 Y gelyn olaf a ddil�ir yw angau.
27因為經上記著說:“他使萬物都服在他腳下。”既然說萬物都服了他,顯然那使萬物服他的就不包括在內了。
27 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, "darostyngodd bob peth dan ei draed ef." Ond pan yw'n dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae'n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef.
28等到萬物都服了他,那時子自己也要服那位叫萬物服他的,好使 神在萬有之上。
28 Ond pan fydd pob peth wedi ei ddarostwng i'r Mab, yna fe ddarostyngir y Mab yntau i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, ac felly Duw fydd oll yn oll.
29不然,那些為死人受洗的,是為了甚麼呢?如果死人根本不會復活,那麼為甚麼要為他們受洗呢?
29 Os nad oes atgyfodiad, beth a wna'r rhai hynny a fedyddir dros y meirw? Os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi o gwbl, i ba bwrpas y bedyddir hwy drostynt?
30我們又為甚麼時刻冒險呢?
30 Ac i ba ddiben yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr?
31弟兄們,我是天天冒死的,這是我憑著我在我們的主耶穌基督裡,因你們而誇口說的。
31 Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired � bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
32我在以弗所和野獸搏鬥,如果照著人的意思來看,那對我有甚麼益處呢?如果死人不會復活,“我們就吃吃喝喝吧,因為我們明天就要死了。”
32 Os fel dyn cyffredin yr ymleddais � bwystfilod yn Effesus, pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw, "Gadewch inni fwyta ac yfed, canys yfory byddwn farw."
33你們不要自欺,“濫交朋友是會敗壞品德的。”
33 Peidiwch � chymryd eich camarwain: "Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da."
34你們理當醒悟過來,不要犯罪,因為你們中間有人不認識 神;我說這話是要你們羞愧。
34 Deffrowch i'ch iawn bwyll, a chefnwch ar bechod. Oherwydd y mae rhai na wyddant ddim am Dduw. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn.
35復活的身體但有人會說:“死人怎樣復活呢?要帶著怎麼樣的身體來呢?”
35 Ond bydd rhywun yn dweud: "Pa fodd y mae'r meirw'n cael eu cyfodi? � pha fath gorff y byddant yn dod?"
36無知的人哪,你所種的若不死去,就不能生。
36 Y ffu373?l! Beth am yr had yr wyt ti yn ei hau? Ni roddir bywyd iddo heb iddo farw yn gyntaf.
37你們所種的,不是那將來要長成的形體,只不過是一粒種子,也許是麥子或別的種子。
37 A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall.
38但 神隨著自己的意思給它一個形體,給每一樣種子各有自己的形體。
38 Ond Duw, yn �l ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o'r hadau ei gorff ei hun.
39而且各種身體也都不一樣,人有人的身體,獸有獸的身體,鳥有鳥的身體,魚有魚的身體。
39 Oherwydd nid yr un cnawd yw pob cnawd, ond un peth yw cnawd dynion, peth arall yw cnawd anifeiliaid, peth arall yw cnawd adar, a pheth arall yw cnawd pysgod.
40有天上的形體,也有地上的形體;天上形體的榮光是一樣,地上形體的榮光又是一樣。
40 Y mae hefyd gyrff nefol a chyrff daearol, ond un peth yw gogoniant y rhai nefol, a pheth gwahanol yw gogoniant y rhai daearol.
41太陽有太陽的榮光,月亮有月亮的榮光,星星有星星的榮光,而且每一顆星的榮光也都不同。
41 Un peth yw gogoniant yr haul, a pheth arall yw gogoniant y lloer, a pheth arall yw gogoniant y s�r. Yn wir, y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42死人復活也是這樣。所種的是必朽壞的,復活的是不朽壞的;
42 Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth.
43所種的是卑賤的,復活的是榮耀的;所種的是軟弱的,復活的是有能力的;
43 Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef.
44所種的是屬血氣的身體,復活的是屬靈的身體。既然有屬血氣的身體,也會有屬靈的身體。
44 Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol.
45經上也是這樣記著說:“第一個人亞當成了有生命的人,末後的亞當成了使人活的靈。”
45 Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: "Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw." Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd.
46但那首先的不是屬靈的,而是屬血氣的,然後才有屬靈的。
46 Eithr nid yr ysbrydol sy'n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna'r ysbrydol.
47第一個人是出於地,是屬土的;第二個人是出於天。
47 Y dyn cyntaf, o'r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o'r nef y mae.
48那屬土的怎樣,所有屬土的也都怎樣;屬天的怎樣,所有屬天的也都怎樣。
48 Y mae'r rhai sydd o'r llwch yn debyg i'r dyn o'r llwch, ac y mae'r rhai sydd o'r nef yn debyg i'r dyn o'r nef.
49我們既然有了屬土的形象,將來也必有屬天的形象。
49 Ac fel y bu delw'r dyn o'r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw'r dyn o'r nef arnom.
50弟兄們,我告訴你們,血肉之體不能承受 神的國,必朽壞的也不能承受那不朽壞的。
50 Hyn yr wyf yn ei olygu, gyfeillion: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu an-llygredigaeth.
51我現在把一個奧祕告訴你們:我們不是都要睡覺,而是在一剎那,眨眼之間,就是號角最後一次吹響的時候,我們都要改變;因為號角要吹響,死人要復活,成為不朽壞的,我們也要改變。
51 Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf.
52
52 Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw'n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid.
53這必朽壞的必須穿上不朽壞的,這必死的必須穿上不死的;
53 Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
54這必朽壞的既穿上了不朽壞的,這必死的既穿上了不死的,那時,經上的話就應驗了:“勝利了!死亡已經被吞滅。
54 A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir: "Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.
55死亡啊!你的勝利在哪裡?死亡啊!你的毒刺在哪裡?”
55 O angau, ble mae dy fuddugoliaeth? O angau, ble mae dy golyn?"
56死的毒刺就是罪,罪的權勢就是律法。
56 Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith.
57感謝 神,他藉著我們的主耶穌基督,把勝利賜給我們。
57 Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
58所以,我親愛的弟兄們,你們務要堅固,不可動搖,常常竭力多作主工,因為知道你們的勞苦,在主裡面不是徒然的。
58 Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.