1問安奉我們的救主 神,和我們的盼望基督耶穌的命令,作基督耶穌使徒的保羅,
1 Paul, apostol Crist Iesu trwy orchymyn Duw, ein Gwaredwr, a Christ Iesu, ein gobaith,
2寫信給因信主而作我真兒子的提摩太。願恩惠、憐憫、平安從父 神和我們的主基督耶穌臨到你。
2 at Timotheus, ei blentyn diledryw yn y ffydd. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3提防別的教義我往馬其頓去的時候,曾經勸你留在以弗所,為要囑咐某些人,不可傳別的教義,
3 Pan oeddwn ar gychwyn i Facedonia, pwysais arnat i ddal ymlaen yn Effesus, a gorchymyn i rai pobl beidio � dysgu athrawiaethau cyfeiliornus,
4也不可沉迷於無稽之談和無窮的家譜;這些事只能引起爭論,對於 神在信仰上所定的計劃是毫無幫助的。
4 a rhoi'r gorau i chwedlau ac achau diddiwedd. Pethau yw'r rhain sy'n hyrwyddo dyfaliadau ofer yn hytrach na chynllun achubol Duw, a ganfyddir trwy ffydd.
5這囑咐的目的是出於愛;這愛是發自純潔的心、無愧的良心和無偽的信心。
5 Diben y gorchymyn hwn yw'r cariad sy'n tarddu o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiffuant.
6有些人偏離了這些,就轉向無意義的辯論,
6 Gwyro oddi wrth y rhinweddau hyn a barodd i rai droi mewn dadleuon diffaith.
7想要作律法教師,卻不明白自己講的是甚麼,主張的又是甚麼。
7 Y maent �'u bryd ar fod yn athrawon y Gyfraith, ond nid ydynt yn deall dim ar eu geiriau eu hunain, na chwaith ar y pynciau y maent yn eu trafod mor awdurdodol.
8我們知道律法是好的,只要應用得恰當。
8 Fe wyddom fod y Gyfraith yn beth ardderchog os caiff ei harfer yn briodol fel cyfraith.
9要知道律法本來不是為義人設立的,而是為那些無法無天和放蕩不羈的、不敬虔和犯罪的、不聖潔和世俗的、弒父母和殺人的、
9 Gadewch inni ddeall hyn: y mae'r Gyfraith wedi ei llunio, nid ar gyfer y sawl sy'n cadw'r Gyfraith ond ar gyfer y rheini sy'n ei thorri a'i herio, sef yr annuwiol a'r pechadurus, y digrefydd a'r di-dduw, y rhai sy'n lladd tad a mam, yn llofruddio,
10淫亂的、親男色的、拐帶人口的、說謊話的、發假誓的,以及為其他抵擋純正教訓的人設立的。
10 yn puteinio, yn ymlygru �'u rhyw eu hunain, yn herwgipio, yn dweud celwydd, yn tyngu ar gam, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i'r athrawiaeth iach
11這是照著可稱頌的、榮耀的 神所交託我的福音說的。
11 sy'n perthyn i'r Efengyl a ymddiriedwyd i mi, Efengyl ogoneddus y Duw gwynfydedig.
12基督耶穌降世為要拯救罪人我感謝那賜我能力的、我們的主基督耶穌,因為他認為我有忠心,派我服事他。
12 Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a'm nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a'm penodi i'w wasanaeth;
13我從前是褻瀆 神的、迫害人的、凌辱人的,然而我還蒙了憐憫,因為我是在不信的時候,由於無知而作的。
13 myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl.
14我們主的恩典,隨著在基督耶穌裡的信心和愛心,在我身上越發增加。
14 Gorlifodd gras ein Harglwydd arnaf, ynghyd �'r ffydd a'r cariad sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.
15“基督耶穌降世,為要拯救罪人。”這話是可信的,是值得完全接納的。在罪人中我是個罪魁。
15 A dyma air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr: "Daeth Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid." A minnau yw'r blaenaf ohonynt.
16可是,我竟然蒙了憐憫,好讓基督耶穌在我這個罪魁身上,顯明他完全的忍耐,給後來信他得永生的人作榜樣。
16 Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol.
17但願尊貴榮耀歸給萬世的君王,就是那不朽壞、人不能見、獨一的 神,直到永永遠遠。阿們。
17 Ac i Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a'r anweledig a'r unig Dduw, y byddo'r anrhydedd a'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
18我兒提摩太啊!我照著從前關於你的預言,把這命令交託你,為的是要叫你藉著這些預言打那美好的仗。
18 Timotheus, fy mab, dyma'r siars sydd gennyf i ti, o gofio'r dystiolaeth broffwydol a roddwyd iti o'r blaen; ymddiried yn hyn a bydd lew yn y frwydr,
19常常存著信心和無愧的良心。有些人丟棄良心,就在信仰上失落了。
19 gan ddal dy afael mewn ffydd a chydwybod dda. Am i rai ddiystyru cydwybod, drylliwyd llong eu ffydd.
20他們當中有許米乃和亞歷山大,我已經把他們交給撒但,使他們受管教不再褻瀆。
20 Pobl felly yw Hymenaeus ac Alexander, dau a draddodais i Satan, i'w disgyblu i beidio � chablu.