1彼得醫好瘸腿的人在下午三點禱告的時辰,彼得和約翰上聖殿去。
1 Yr oedd Pedr ac Ioan yn mynd i fyny i'r deml erbyn yr awr weddi, sef tri o'r gloch y prynhawn.
2有一個生來瘸腿的人被人抬來。他們天天把他放在那名叫美門的殿門口,讓他好向進殿的人討飯。
2 Ac yr oedd rhywrai'n dod � dyn oedd yn gloff o'i enedigaeth, ac yn ei osod beunydd wrth borth y deml, yr un a elwid Y Porth Prydferth, i erfyn am gardod gan y rhai a fyddai'n mynd i mewn i'r deml.
3他看見彼得和約翰將要進殿,就向他們討飯。
3 Pan welodd hwn Pedr ac Ioan ar fynd i mewn i'r deml, gofynnodd am gael cardod.
4彼得和約翰定睛看著他,彼得說:“你看我們!”
4 Syllodd Pedr arno, ac Ioan yntau, a dywedodd, "Edrych arnom."
5那人就留意看著他們,希望從他們得些甚麼。
5 Gwyliodd yntau hwy, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.
6彼得卻說:“金銀我都沒有,只把我有的給你:我奉拿撒勒人耶穌基督的名,吩咐你行走!”
6 Dywedodd Pedr, "Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi iti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda."
7於是拉著他的右手,扶他起來;他的腳和踝骨立刻強壯有力,
7 A gafaelodd ynddo gerfydd ei law dde, a chododd ef. Ac ar unwaith cryfhaodd ei draed a'i fferau;
8他一跳就站了起來,並且行走。他連走帶跳,讚美 神,同他們進入殿中。
8 neidiodd i fyny, safodd, a dechreuodd gerdded, ac aeth i mewn gyda hwy i'r deml dan gerdded a neidio a moli Duw.
9群眾看見他一邊走一邊讚美 神;
9 Gwelodd yr holl bobl ef yn cerdded ac yn moli Duw.
10他們一認出他就是那平時坐在聖殿美門口討飯的,就因所經歷的事,滿心希奇,驚訝不已。
10 Yr oeddent yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn a fyddai'n eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, a llanwyd hwy � braw a syndod am yr hyn oedd wedi digwydd iddo.
11彼得在所羅門廊下的講道那人拉著彼得和約翰的時候,群眾都很驚奇,跑到他們那裡,就是所羅門廊的下面。
11 Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu.
12彼得看見了,就對群眾說:“以色列人哪,為甚麼因這事希奇呢?為甚麼瞪著我們,好像我們是憑著自己的能力和虔誠,使這人行走呢?
12 A phan welodd Pedr hyn, fe anerchodd y bobl: "Chwi Israeliaid, pam yr ydych yn rhyfeddu at hyn? Pam yr ydych yn syllu arnom ni, fel petaem wedi peri iddo gerdded trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni ein hunain?
13亞伯拉罕、以撒、雅各的 神,就是我們祖宗的 神,榮耀了他的僕人耶穌。這位耶穌,你們把他送交官府。彼拉多本來定意要放他,你們卻當著彼拉多的面拒絕他。
13 Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob, Duw ein tadau ni, sydd wedi gogoneddu ei Was Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi a'i wadu gerbron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau.
14你們把那聖者義者拒絕了,反而要求給你們釋放一個殺人犯。
14 Eithr chwi, gwadasoch yr Un sanctaidd a chyfiawn, a deisyf, fel ffafr i chwi, ryddhau llofrudd.
15你們殺了那‘生命的源頭’, 神卻使他從死人中復活。我們就是這件事的見證人。
15 Lladdasoch Awdur bywyd, ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw. O hyn yr ydym ni'n dystion.
16是他的名(因信他的名)使你們所看見所認識的這個人強壯了。這從耶穌而來的信心,當著你們眾人面前,把他完全醫好了。
16 Ar sail ffydd yn ei enw ef y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld a'i adnabod, a'r ffydd sydd drwy Iesu a roddodd iddo'r llwyr wellhad hwn yn eich gu373?ydd chwi i gyd.
17弟兄們,我知道你們所作的,是出於無知,你們的官長也是這樣。
17 Yn awr, frodyr, gwn mai gweithredu mewn anwybodaeth a wnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau.
18但 神曾經藉著眾先知的口,預先宣告他所立的基督將要受害的事,就這樣應驗了。
18 Ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau'r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Feseia.
19所以你們應當悔改歸正,使你們的罪得著塗抹。
19 Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad,
20這樣,那安樂的日子,必從主面前來到,並且他必把為你們預先選定的基督(耶穌)差來。
20 ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu,
21他必留在天上,直到萬物復興的時候,就是 神自古藉著聖先知的口所說的。
21 yr hwn y mae'n rhaid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth a lefarodd Duw trwy enau ei broffwydi sanctaidd erioed.
22摩西曾說:‘你們的主 神要從你們弟兄中間,給你們興起一位先知像我;無論他對你們說甚麼,你們都應當聽從。
22 Dywedodd Moses, 'Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel fi. Arno ef yr ydych i wrando ym mhob peth a lefara wrthych.
23無論誰不聽從那位先知,必定從民中滅絕。’
23 A phob enaid na wrendy ar y proffwyd hwnnw, fe'i llwyr ddifodir o blith y bobl.'
24所有從撒母耳起,以及相繼興起來講話的先知,都曾經宣告這些日子。
24 A'r holl broffwydi o Samuel a'i olynwyr, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn.
25你們是先知的子孫,也是承受 神向你們祖先所立之約的人。 神曾經對亞伯拉罕說:‘地上萬族,都要因你的後裔得福。’
25 Chwi yw plant y proffwydi, a phlant y cyfamod a wnaeth Duw �'ch tadau pan ddywedodd wrth Abraham, 'Yn dy ddisgynyddion di y bendithir holl dylwythau'r ddaear.'
26 神先給你們興起他的僕人,差他來祝福你們,使你們各人回轉,離開邪惡。”
26 Wedi i Dduw gyfodi ei Was, anfonodd ef atoch chwi yn gyntaf, i'ch bendithio chwi trwy eich troi bob un oddi wrth eich drygioni."