聖經新譯本

Welsh

Colossians

1

1問安奉 神旨意作基督耶穌使徒的保羅,和提摩太弟兄,
1 Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd,
2寫信給在歌羅西的聖徒,和在基督裡忠心的弟兄。願恩惠平安從我們的父 神臨到你們。
2 at y saint yn Colosae, rhai ffyddlon yng Nghrist. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad.
3為歌羅西信徒感謝 神我們為你們祈禱的時候,常常感謝 神我們主耶穌基督的父,
3 Yr ydym bob amser yn ein gwedd�au yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist,
4因為聽見你們在基督耶穌裡的信心,和對眾聖徒的愛心。
4 oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint,
5這都是由於那給你們存在天上的盼望,這盼望是你們從前在福音真理的道上聽過的。
5 deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl
6這福音傳到你們那裡,也傳到全世界;你們聽了福音,因著真理確實認識了 神的恩典之後,這福音就在你們中間不斷地結果和增長,在全世界也是一樣。
6 sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd.
7這福音也就是你們從我們親愛的、一同作僕人的以巴弗那裡學到的。他為你們作了基督忠心的僕役,
7 Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan,
8也把你們在聖靈裡的愛心告訴了我們。
8 ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd.
9保羅的祈禱因此,我們從聽見的那天起,就不停地為你們禱告祈求,願你們藉著一切屬靈的智慧和悟性,可以充分明白 神的旨意,
9 Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio � gwedd�o drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw,
10使你們行事為人對得起主,凡事蒙他喜悅;在一切善事上多結果子,更加認識神;
10 er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw.
11依照他榮耀的大能得著一切能力,帶著喜樂的心,凡事忍耐寬容;
11 Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso � phob grymuster, yn �l nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim,
12並且感謝父,他使你們有資格分享聖徒在光明中的基業。
12 gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
13他救我們脫離了黑暗的權勢,把我們遷入他愛子的國裡。
13 Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,
14我們在愛子裡蒙了救贖,罪得赦免。
14 yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.
15基督在萬有之上這愛子是那看不見的 神的形象,是首先的,在一切被造的之上。
15 Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;
16因為天上地上的萬有:看得見的和看不見的,無論是坐王位的,或是作主的,或是執政的,或是掌權的,都是本著他造的;萬有都是藉著他,又是為著他而造的。
16 oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.
17他在萬有之先;萬有也一同靠著他而存在。
17 Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.
18他是身體的頭,這身體就是教會。他是元始,是死人中首先復生的,好讓他在凡事上居首位;
18 Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth.
19因為 神樂意使所有的豐盛都住在愛子裡面,
19 Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef,
20並且藉著他在十字架上所流的血成就了和平,使萬有,無論是地上天上的,都藉著他與 神和好了。
20 a thrwyddo ef, ar �l gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.
21雖然你們從前也是和 神隔絕,心思上與他為敵,行為邪惡,
21 Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd,
22但現今 神在愛子的肉身上,藉著他的死,使你們與 神和好了,為了要把你們這些聖潔、無瑕疵、無可指摘的人,呈獻在他面前。
22 yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron.
23只是你們要常存信心,根基穩固,不受動搖偏離福音的盼望。這福音你們聽過了,也傳給了天下萬民;我保羅也作了這福音的僕役。
23 Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio � symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.
24竭力傳揚 神的奧祕現在我為你們受苦,我覺得喜樂;為了基督的身體,就是為了教會,我要在自己的肉身上,補滿基督苦難的不足。
24 Yr wyf yn awr yn llawen yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cwblhau yn fy nghnawd yr hyn sy'n �l o gystuddiau Crist, er mwyn ei gorff, sef yr eglwys.
25我照著 神為你們而賜給我的管家職分,作了教會的僕役,要把 神的道,就是歷世歷代隱藏的奧祕,傳得完備。現在這奧祕已經向他的眾聖徒顯明了。
25 Fe ddeuthum i yn weinidog i'r eglwys yn �l yr oruchwyliaeth a roddodd Duw i mi er eich mwyn chwi, i gyhoeddi gair Duw yn ei gyflawnder,
26
26 sef y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd ac ers cenedlaethau, ond sydd yn awr wedi ei amlygu i'w saint.
27 神願意使他們知道這奧祕在外族人中有多麼榮耀的豐盛,這奧祕就是基督在你們裡面成了榮耀的盼望。
27 Ewyllysiodd Duw hysbysu iddynt hwy beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd. Dyma'r dirgelwch: Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant.
28我們傳揚他,是用各樣的智慧,勸戒各人,教導各人,為了要使各人在基督裡得到完全。
28 Ei gyhoeddi ef yr ydym ni, gan rybuddio pawb, a dysgu pawb ym mhob doethineb, er mwyn cyflwyno pob un yn gyflawn yng Nghrist.
29我也為了這事勞苦,按著他用大能在我心中運行的動力,竭力奮鬥。
29 I'r diben hwn yr wyf yn llafurio ac yn ymdrechu trwy ei nerth ef, y nerth sy'n gweithredu'n rymus ynof fi.