1但以理夢中見異象巴比倫王伯沙撒第一年,但以理躺在床上時,他作了一個夢,腦海中出現了異象;他就把那夢記錄下來,把事情的重點述說出來。
1 Yn y flwyddyn gyntaf i Belsassar brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd a gweledigaethau tra oedd yn gorwedd ar ei wely. Ysgrifennodd Daniel y freuddwyd, a dyma sylwedd yr hanes a adroddodd.
2但以理說:“在夜間的異象中,我看見天的四風,攪動大海。
2 Yn fy ngweledigaeth yn y nos gwelais bedwar gwynt y nefoedd yn corddi'r m�r mawr,
3四巨獸“有四隻巨獸從海中上來,形狀各不相同。
3 a phedwar bwystfil anferth yn codi o'r m�r, pob un yn wahanol i'w gilydd.
4第一隻獸像獅子,卻有鷹的翅膀。我一直在觀看,看見牠的翅膀被拔去,牠從地上被舉起來,兩腳像人一樣直立在地上;又有人的心給了牠。
4 Yr oedd y cyntaf fel llew a chanddo adenydd eryr; a thra oeddwn yn edrych, rhwygwyd ei adenydd a chodwyd ef oddi ar y ddaear a'i osod ar ei draed fel bod dynol, a rhoddwyd meddwl dynol iddo.
5我又看見另一隻獸,就是第二隻獸;牠和熊相似,挺起一邊的身軀,口中的牙齒銜著三根肋骨。有人這樣對牠說:‘起來,吃多量的肉吧!’
5 Yna gwelais fwystfil arall, yr ail, yn debyg i arth. Yr oedd yn hanner codi ar un ochr, ac yr oedd tair asen yn ei safn rhwng ei ddannedd, a dywedwyd wrtho, "Cyfod, bwyta lawer o gig."
6此後,我繼續觀看,看見另一隻獸像豹,背上有鳥的四個翅膀;這獸有四個頭,又有權柄給了牠。
6 Wedyn, a minnau'n dal i edrych, gwelais un arall, tebyg i lewpard, a phedair adain aderyn ar ei gefn; ac yr oedd gan y bwystfil bedwar pen, a rhoddwyd arglwyddiaeth iddo.
7後來,我在夜間的異象中繼續觀看,看見有第四隻獸,非常恐怖,十分可怕,極其強壯。牠有大鐵牙;牠吞吃咬碎,又把剩餘的用腳踐踏;這獸和前面的各獸都不相同;牠有十個角。
7 Yna, tra oeddwn yn edrych ar weledigaethau'r nos, gwelais bedwerydd bwystfil, un arswydus ac erchyll a chryf eithriadol, a chanddo ddannedd mawr o haearn; yr oedd yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed. Yr oedd hwn yn wahanol i'r holl fwystfilod eraill oedd o'i flaen, ac yr oedd ganddo ddeg o gyrn.
8我正在究察這些角的時候,看見角的中間長出另一個小角來。在這小角前面,有三個先前的角連根被拔起來。這小角有眼,像人的眼,又有一張說誇大話的嘴。
8 Fel yr oeddwn yn sylwi ar y cyrn, gwelais gorn arall, un bychan, yn codi o'u mysg, a thynnwyd tri o'r cyrn cyntaf o'u gwraidd i wneud lle iddo, ac yn y corn yma gwelais lygaid fel llygaid dynol a cheg yn traethu balchder.
9“我一直在觀看,看見有些寶座安放好了,萬古常存者就坐上去;他的衣服潔白如雪,他的頭髮純淨像羊毛。他的寶座是火燄,寶座的輪子是烈火。
9 Fel yr oeddwn yn edrych, gosodwyd y gorseddau yn eu lle ac eisteddodd Hen Ddihenydd; yr oedd ei wisg cyn wynned �'r eira, a gwallt ei ben fel gwl�n pur; yr oedd ei orsedd yn fflamau o d�n, a'i holwynion yn d�n crasboeth.
10有火像河湧出,烈火從他面前冒出;事奉他的有千千,侍立在他面前的有萬萬。審判已經開始,案卷都展開了。
10 Yr oedd afon danllyd yn llifo allan o'i flaen. Yr oedd mil o filoedd yn ei wasanaethu a myrdd o fyrddiynau'n sefyll ger ei fron. Eisteddodd y llys ac agorwyd y llyfrau.
11“那時,因那小角說誇大話的聲音,我繼續觀看,看見那獸被殺,屍體被毀,扔在烈火中。
11 Oherwydd su373?n geiriau balch y corn, daliais i edrych, ac fel yr oeddwn yn gwneud hynny lladdwyd y bwystfil a dinistrio'i gorff a'i daflu i ganol y t�n.
12至於其餘的三獸,牠們的權柄都被奪去,牠們的生命卻得著延長,直到所定的時候和日期。
12 Collodd y bwystfilod eraill eu harglwyddiaeth, ond cawsant fyw am gyfnod a thymor.
13“我在夜間的異象中繼續觀看,看見有一位像人子的,駕著天雲而來,到萬古常存者那裡,被引領到他面前,
13 Ac fel yr oeddwn yn edrych ar weledigaethau'r nos, Gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau'r nef; a daeth at yr Hen Ddihenydd a chael ei gyflwyno iddo.
14得了權柄、尊榮和國度;各國、各族和說各種語言的人都事奉他。他的權柄是永遠的權柄,是不能廢去的;他的國度是永不毀滅的。
14 Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i'r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a'i frenhiniaeth yn un na ddinistrir.
15解釋異象的意義“至於我但以理,我的靈在我裡面憂傷,我腦海中出現的異象使我驚惶。
15 Yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr, a brawychwyd fi gan fy ngweledigaethau.
16於是我走近其中一位侍立者,問他有關這一切事的實情;他就告訴我,使我知道這些事的意思,他說:
16 Euthum at un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl, a gofynnais iddo beth oedd ystyr hyn i gyd. Atebodd yntau a rhoi dehongliad o'r cyfan imi:
17‘這四隻巨獸就是將要在世上興起的四個王。
17 "Pedwar brenin yn codi o'r ddaear yw'r pedwar bwystfil.
18但至高者的聖民必要得國,擁有這國,直到永永遠遠。’
18 Ond bydd saint y Goruchaf yn derbyn y frenhiniaeth ac yn ei meddiannu'n oes oesoedd."
19那時我想知道有關第四隻獸的實情,牠和其他三獸不相同,十分恐怖,有鐵牙銅爪;牠吞吃咬碎,又把剩餘的用腳踐踏。
19 Yna dymunais wybod ystyr y pedwerydd bwystfil, a oedd yn wahanol i'r lleill i gyd, yn arswydus iawn, a chanddo ddannedd o haearn a chrafangau o bres, yn bwyta ac yn malu ac yn sathru'r gweddill dan ei draed;
20我又想知道有關牠頭上的十角,和那另長出來的小角,以及那三個在這小角前面倒下的角的實情。這小角有眼,有說誇大話的嘴;牠的形狀比牠的同類更威猛。
20 a hefyd ystyr y deg corn ar ei ben, a'r corn arall a gododd, a thri yn syrthio o'i flaen � y corn ac iddo lygaid, a cheg yn traethu balchder ac yn gwneud mwy o ymffrost na'r lleill.
21我繼續觀看,看見這小角和聖民爭戰,戰勝了他們,
21 Dyma'r corn a welais yn rhyfela yn erbyn y saint ac yn eu trechu,
22直到萬古常存者來到,為至高者的聖民伸張正義;聖民擁有國度的時候就到了。
22 hyd nes i'r Hen Ddihenydd ddyfod a dyfarnu o blaid saint y Goruchaf, ac i'r saint feddiannu'r deyrnas.
23“那位侍立者這樣說:‘那第四隻獸就是世上必有的第四國,和其他各國都不相同;牠必吞吃全地,踐踏咬碎全地。
23 Dyma'i ateb: "Pedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear yw'r pedwerydd bwystfil. Bydd hi'n wahanol i'r holl freniniaethau eraill; bydd yn ysu'r holl ddaear, ac yn ei sathru a'i malu.
24至於那十角,就是從這國中將要興起的十個王,在他們以後,必有另一個王興起,和先前的王都不相同;他必制伏三個王。
24 Saif y deg corn dros ddeg brenin a fydd yn codi; daw un arall ar eu h�l, yn wahanol i'r lleill, ac yn darostwng tri brenin.
25他必說話,敵擋至高者;他必折磨至高者的聖民,又想改變節期和律法;聖民必交在他的手中,一載、二載、半載(“一載、二載、半載”或譯:“一個時期、多個時期、半個時期”)。
25 Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor.
26但審判要開始,他的權柄必被奪去,他必被毀壞滅絕,直到永遠。
26 Yna bydd y llys yn eistedd, a dygir ymaith ei arglwyddiaeth, i'w distrywio a'i difetha'n llwyr.
27那時,國度、權柄,和普天之下萬國的大權,都必賜給至高者的聖民。他的國是永遠的國;所有掌權的都必事奉他,順從他。’
27 A rhoddir y frenhiniaeth a'r arglwyddiaeth, a gogoniant pob brenhiniaeth dan y nef, i bobl saint y Goruchaf. Brenhiniaeth dragwyddol fydd eu brenhiniaeth hwy, a bydd pob teyrnas yn eu gwasanaethu ac yn ufuddhau iddynt."
28這事到此完畢。我但以理心中十分驚惶,臉色也變了,但我把這事存放在心裡。”
28 Dyma ddiwedd yr hanes; ac yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr ac yn welw, ond cedwais y pethau hyn i mi fy hun.