聖經新譯本

Welsh

Jonah

4

1約拿不悅約拿對這事非常不高興,並且發起怒來,
1 Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig.
2就向耶和華禱告,說:“耶和華啊!我還在本國的時候,不是這樣說過嗎?我知道你是有恩典有憐憫的 神,不輕易發怒,並且有豐盛的慈愛,轉意不降災禍,所以我才急忙逃往他施去。
2 Yna gwedd�odd ar yr ARGLWYDD a dweud, "Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed.
3耶和華啊!現在求你取去我的性命吧,因為我死了比活著還好。”
3 Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw."
4主安排一棵蓖麻耶和華回答說:“你這樣發怒對不對呢?”
4 Atebodd Duw, "A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?"
5約拿出了城,在城東坐下;他在那裡搭了一座棚,坐在棚蔭之下,要看看那城究竟怎樣。
5 Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas.
6耶和華 神安排一棵蓖麻,使它長起來高過約拿,成了陰影遮蓋他的頭,免他受苦;約拿因這棵蓖麻,就大大歡暢。
6 A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn.
7次日黎明的時候, 神安排一條蟲子,蛀蝕這棵蓖麻,蓖麻就枯槁了。
7 Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino.
8日出的時候, 神又安排炎熱的東風。烈日曬在約拿的頭上,以致發昏,他就為自己求死,說:“我死了比活著還好。”
8 A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, "Gwell gennyf farw na byw."
9 神問約拿:“你因這棵蓖麻這樣發怒,對不對呢?”約拿說:“我發怒以至於死都是對的。”
9 A gofynnodd Duw i Jona, "A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?" Atebodd yntau, "Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau."
10主教訓約拿耶和華說:“這棵蓖麻,不是你栽種的,也不是你使它長大的,一夜長成,一夜死去,你尚且愛惜它,
10 Dywedodd Duw, "Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu.
11何況這尼尼微大城,其中不曉得分辨左右手的有十二萬多人,並且有許多牲畜,我怎能不愛惜呢?”
11 Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb s�n am lu o anifeiliaid?"