1以色列忘記主愛以下是耶和華藉瑪拉基對以色列宣判的話。
1 Gair yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.
2耶和華說:“我愛你們。”你們卻說:“你怎樣愛了我們呢?”耶和華說:“以掃不是雅各的哥哥嗎?我卻愛雅各,
2 "Rwy'n eich caru," medd yr ARGLWYDD, a dywedwch chwithau, "Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru?" "Onid yw Esau'n frawd i Jacob?" medd yr ARGLWYDD.
3惡以掃。我使以掃的山地荒涼,把他的產業給了曠野的豺狼。”
3 "Yr wyf yn caru Jacob, ond yn cas�u Esau; gwneuthum ei fynyddoedd yn ddiffeithwch a'i etifeddiaeth yn gartref i siacal yr anialwch."
4如果以東說:“我們雖然遭破壞,但仍要把廢墟重建起來。”萬軍之耶和華這樣說:“他們只管建造,我卻要拆毀。人要稱他們為罪惡的境地,為耶和華永遠惱怒的子民。”
4 Os dywed Edom, "Maluriwyd ni, ond adeiladwn ein hadfeilion eto," fe ddywed ARGLWYDD y Lluoedd fel hyn: "Os adeiladant, fe dynnaf i lawr, ac fe'u gelwir yn diriogaeth drygioni ac yn bobl y digiodd yr ARGLWYDD wrthynt am byth."
5你們要親眼看見,也要親自說:“耶和華在以色列的境地以外,必被尊為大。”
5 Cewch weld hyn �'ch llygaid eich hunain a dweud, "Y mae'r ARGLWYDD yn fawr hyd yn oed y tu allan i Israel."
6斥責不虔不敬的祭司萬軍之耶和華對你們說:“藐視我名的祭司啊!兒子尊敬父親,僕人敬畏主人。我若是父親,我該受的尊敬在哪裡呢?我若是主人,我應得的敬畏在哪裡呢?”你們卻說:“我們怎樣藐視了你的名呢?”
6 "Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, "Sut y bu inni ddirmygu dy enw?"
7“你們把污穢的食物獻在我的壇上,你們竟說:‘我們怎樣污穢了你的壇呢?’因你們以為耶和華的桌子是可以藐視的。”
7 "Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor." A dywedwch, "Sut y bu inni ei halogi?" "Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,
8萬軍之耶和華說:“你們把瞎眼的獻為祭,這不是惡嗎?你們把瘸腿的和有病的獻上,這不是罪嗎?你把這樣的禮物獻給你的省長,他會喜歡你或是悅納你的禮物嗎?”
8 a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9現在,你們要向 神求情,好使他恩待我們。這污穢的祭物,既是你們經手獻的,他還能悅納你們嗎?萬軍之耶和華說:
9 "Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd.
10“真願你們當中有人把殿門關上,免得你們在我的壇上徒然點火。”萬軍之耶和華說:“我不喜歡你們,也不從你們手中收納禮物。”
10 "O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "ac ni dderbyniaf offrwm gennych.
11萬軍之耶和華說:“從日出到日落的地方,我的名在列國中為大;在各處都有人向我的名燒香,獻上潔淨的禮物,因為我的名在列國中為大。”
11 Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12萬軍之耶和華說:“你們卻褻瀆了我,因你們以為主的桌子是污穢的,桌上的食物也是可藐視的。
12 "Ond yr ydych chwi yn ei halogi wrth feddwl y gallwch ddifwyno bwrdd yr ARGLWYDD � bwyd gwrthodedig.
13你們又說:‘唉,真麻煩!’你們就嗤之以鼻。”耶和華說:“你們把搶來的、瘸腿的和有病的帶來作禮物,我怎能從你們的手中收受呢?”
13 Wrth ei arogli, fe ddywedwch, 'Mor atgas yw!'" medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?" medd yr ARGLWYDD.
14萬軍之耶和華說:“凡以家畜中公的許了願,卻又詭詐地拿有殘疾的獻給主,那人當受咒詛;因為我是大君王,我的名在列國中是可敬畏的。”
14 "Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un � nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd."