1約翰派門徒去見耶穌(路7:18~23)耶穌吩咐完了十二門徒,就離開那裡,在各城裡施教傳道。
1 Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.
2約翰在監獄裡聽見基督所作的,就派門徒去問他:
2 Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion
3“你就是那位要來的,還是我們要等別人呢?”
3 a gofyn iddo, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?"
4耶穌回答他們:“你們回去,把聽見和看見的都告訴約翰,
4 Ac atebodd Iesu hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.
5就是瞎的可以看見,瘸的可以走路,患痲風的得到潔淨,聾的可以聽見,死人復活,窮人有福音聽。
5 Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn �l, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
6那不被我絆倒的,就有福了。”
6 Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i."
7耶穌論到約翰(路7:24~35)他們走了之後,耶穌對群眾講起約翰來,說:“你們到曠野去,是要看甚麼?被風吹動的蘆葦嗎?
7 Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu s�n am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
8你們出去到底要看甚麼?身穿華麗衣裳的人嗎?那些穿著華麗衣裳的人,是在王宮裡的。
8 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.
9那麼,你們出去要看甚麼?先知嗎?我告訴你們,是的。他比先知重要得多了。
9 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
10經上所記:‘看哪,我差遣我的使者在你面前,他必在你前頭預備你的道路。’這句話是指著他說的。
10 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: 'Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.'
11我實在告訴你們,婦人所生的,沒有一個比施洗的約翰更大;然而天國裡最小的比他還大。
11 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef.
12從施洗的約翰的時候直到現在,天國不斷遭受猛烈的攻擊,強暴的人企圖把它奪去。
12 O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi.
13所有的先知和律法,直到約翰為止,都說了預言。
13 Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;
14如果你們肯接受,約翰就是那要來的以利亞。
14 ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.
15有耳的,就應當聽。
15 Y sawl sydd � chlustiau ganddo, gwrandawed.
16“我要把這世代比作甚麼呢?它好像一些小孩子坐在市中心,呼叫別的小孩子,
16 "� phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:
17說:‘我們給你們吹笛子,你們卻不跳舞;我們唱哀歌,你們也不捶胸。’
17 'Canasom ffliwt i chwi,ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'
18約翰來了,不吃也不喝,人說他是鬼附的;
18 Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'
19人子來了,又吃又喝,人卻說:‘你看,這人貪食好酒,與稅吏和罪人為友。’但智慧藉著它所作的,就證實是公義的了。”
19 Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.' Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn."
20責備不肯悔改的城(路10:13~15)那時,耶穌責備那些他曾在那裡行過許多神蹟的城,因為它們不肯悔改:
20 Yna dechreuodd geryddu'r trefi lle y gwnaed y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am nad oeddent wedi edifarhau.
21“哥拉遜啊,你有禍了!伯賽大啊,你有禍了!在你們那裡行過的神蹟,如果行在推羅和西頓,它們早已披麻蒙灰悔改了。
21 "Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm mewn sachliain a lludw.
22但我告訴你們,在審判的日子,推羅和西頓所受的,比你們還輕呢。
22 Ond 'rwy'n dweud wrthych, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na chwi.
23迦百農啊!你會被高舉到天上嗎?你必降到陰間。在你那裡行過的神蹟,如果行在所多瑪,那城還會存留到今天。
23 A thithau, Capernaum, 'A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.' Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynot ti wedi eu gwneud yn Sodom, buasai'n sefyll hyd heddiw.
24但我告訴你們,在審判的日子,所多瑪那地方所受的,比你還輕呢。”
24 Ond 'rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na thi."
25勞苦者可得安息(路10:21~22)就在那時候,耶穌說:“父啊,天地的主,我讚美你,因為你把這些事向智慧和聰明的人隱藏起來,卻向嬰孩顯明。
25 Yr amser hwnnw dywedodd Iesu, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain;
26父啊,是的,這就是你的美意。
26 ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.
27我父已經把一切交給我;除了父沒有人認識子,除了子和子所願意啟示的人,沒有人認識父。
27 Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.
28你們所有勞苦擔重擔的人哪,到我這裡來吧!我必使你們得安息。
28 Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
29我心裡柔和謙卑,你們應當負我的軛,向我學習,你們就必得著心靈的安息;
29 Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
30我的軛是容易負的,我的擔子是輕省的。”
30 Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn."