1耶穌復活(可16:1~10;路24:1~12;約20:1~10)過了安息日,在禮拜日天亮的時候,抹大拉的馬利亞和另一個馬利亞來看墳墓。
1 Ar �l y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd.
2忽然,地震得很厲害;主的使者從天上下來,把石頭輥開,坐在上面。
2 A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno.
3他的樣子好像閃電,衣服潔白如雪。
3 Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira.
4看守的人因為害怕他,就渾身戰抖,好像死了一樣。
4 Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw.
5那使者對婦女們說:“你們不要怕,我知道你們在找被釘十字架的耶穌。
5 Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: "Peidiwch chwi ag ofni," meddai. "Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych.
6他不在這裡,已經照他所說的復活了。你們來看安放他的地方吧。
6 Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd.
7快去告訴他的門徒:‘他已經從死人中復活了。他會比你們先到加利利去,你們在那裡必看見他。’現在我已經告訴你們了。”
7 Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.' Dyna fy neges i chwi."
8她們立刻離開墳墓,又害怕,又十分歡喜,跑去告訴耶穌的門徒。
8 Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.
9忽然,耶穌向她們迎面而來,說:“你們好。”她們就上前,抱住他的腳拜他。
9 A dyma Iesu'n cyfarfod � hwy a dweud, "Henffych well!" Aethant ato a gafael yn ei draed a'i addoli.
10耶穌對她們說:“不要怕,去告訴我的弟兄,叫他們到加利利去,他們在那裡必看見我。”
10 Yna meddai Iesu wrthynt, "Peidiwch ag ofni; ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am fynd i Galilea, ac yno fe'm gwelant i."
11衛兵受賄造謠她們去的時候,有些衛兵進了城,把一切所發生的事向祭司長報告。
11 Tra oedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rai o'r gwarchodlu yn mynd i'r ddinas ac yn dweud wrth y prif offeiriaid am yr holl bethau a ddigwyddodd.
12祭司長就和長老聚集在一起商量,然後拿許多錢給士兵,
12 Ac wedi iddynt ymgynnull gyda'r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant swm sylweddol o arian i'r milwyr,
13說:“你們要這樣說:‘他的門徒晚上來了,趁我們睡著的時候,把他偷走了。’
13 gan ddweud wrthynt, "Dywedwch fod ei ddisgyblion ef wedi dod yn y nos, a'i ladrata tra oeddech chwi'n cysgu.
14如果總督知道了這件事,我們會說服他,不會牽連你們。”
14 Ac os daw hyn i glyw y rhaglaw, fe'i perswadiwn ni ef a sicrhau na fydd raid ichwi bryderu."
15士兵收了錢,就照著祭司長和長老的指使去作。這種說法直到今日還流傳在猶太人當中。
15 Cymerodd y milwyr yr arian a gwneud fel y cawsant eu cyfarwyddo. Taenwyd y stori hon ar led ymysg Iddewon hyd y dydd heddiw.
16主交給門徒的使命(可16:14~18;路24:36~49;約20:19~23。參徒1:6~8)十一個門徒往加利利去,到了耶穌指定的山上。
16 Aeth yr un disgybl ar ddeg i Galilea i'r mynydd lle y trefnodd Iesu iddynt fod;
17他們看見耶穌就拜他,但仍然有些人懷疑。
17 a phan welsant ef addolasant ef, er bod rhai yn amau.
18耶穌上前來,對他們說:“天上地上一切權柄都賜給我了。
18 Daeth Iesu atynt a llefaru wrthynt: "Rhoddwyd i mi," meddai, "bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
19所以,你們要去使萬民作我的門徒,奉父子聖靈的名,給他們施洗(“奉父子聖靈的名,給他們施洗”或譯:“給他們施洗,歸入父子聖靈的名”),
19 Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Gl�n,
20我吩咐你們的一切,都要教導他們遵守。這樣,我就常常與你們同在,直到這世代的終結。”
20 a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser."