聖經新譯本

Welsh

Romans

1

1問安基督耶穌的僕人保羅,蒙召作使徒,奉派傳 神的福音。
1 Paul, gwas Crist Iesu, sy'n ysgrifennu, apostol trwy alwad Duw, ac wedi ei neilltuo i wasanaeth Efengyl Duw.
2這福音是 神藉著眾先知在聖經上預先所應許的,
2 Addawodd Duw yr Efengyl hon ymlaen llaw trwy ei broffwydi yn yr Ysgrythurau sanctaidd,
3就是論到他的兒子我們的主耶穌基督:按肉身說,他是從大衛的後裔生的;
3 Efengyl am ei Fab: yn nhrefn y cnawd, ganwyd ef yn llinach Dafydd;
4按聖潔的靈說,因為從死人中復活,顯明他是大有能力的、 神的兒子(“顯明他是大有能力的、 神的兒子”或譯:“以大能顯明他是 神的兒子”)。
4 ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, � mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. Dyma Iesu Grist ein Harglwydd.
5我們從他領受了恩典和使徒的職分,在萬族中使人因他的名相信而順服,
5 Trwyddo ef derbyniasom ras a swydd apostol, i ennill, ar ei ran, ffydd ac ufudd-dod ymhlith yr holl Genhedloedd.
6其中也有你們這蒙耶穌基督所召的人。
6 Ymhlith y rhain yr ydych chwithau, yn rhai wedi eich galw ac yn eiddo i Iesu Grist.
7我寫信給各位住在羅馬,為 神所愛,蒙召作聖徒的人。願恩惠平安從我們的父 神和主耶穌基督臨到你們。
7 Yr wyf yn cyfarch pawb yn Rhufain sydd yn annwyl gan Dduw, a thrwy ei alwad ef yn saint. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
8保羅渴想到羅馬去首先,我靠著耶穌基督,為你們大家感謝我的 神,因為你們的信心傳遍天下。
8 Yn gyntaf oll, yr wyf yn diolch i'm Duw, trwy Iesu Grist, amdanoch chwi oll, oherwydd y mae'r s�n am eich ffydd yn cerdded trwy'r holl fyd.
9我在傳揚他兒子福音的事上,用心靈事奉的 神,可以作證我是怎樣不斷地記念你們,
9 Y mae Duw, yr un y mae fy ysbryd yn ei wasanaethu yn Efengyl ei Fab, yn dyst i mi mor ddi-baid y byddaf bob amser yn eich galw i gof yn fy ngwedd�au
10常常在禱告中懇切祈求,也許我可以照著他的旨意,終於能夠順利地到你們那裡去。
10 wrth ofyn ganddo, os dyna'i ewyllys, a gaf fi yn awr o'r diwedd, rywsut neu'i gilydd, rwydd hynt i ddod atoch.
11因為我很想見你們,好把一些屬靈的恩賜分給你們,使你們可以堅定;
11 Oherwydd y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn eich cynys-gaeddu � rhyw ddawn ysbrydol i'ch cadarnhau;
12也使我在你們中間,藉著你我彼此的信心,大家一同得到安慰。
12 neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd � chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom.
13弟兄們,我不願意你們不知道,我好幾次預先定好了要到你們那裡去,為了要在你們中間也得一些果子,像在其他的民族中間一樣,可是直到現在還有阻礙。
13 Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro.
14無論是希臘人或是未開化的人,聰明的人或是愚笨的人,我都欠他們的債。
14 Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion � yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll.
15所以,對我來說,我隨時都願意把福音也傳給你們在羅馬的人。
15 A dyma'r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu'r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain.
16福音是 神的大能我不以福音為恥;這福音是 神的大能,要救所有相信的,先是猶太人,後是希臘人。
16 Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.
17 神的義就是藉著這福音顯明出來,本於信而歸於信,正如經上所記:“義人必因信得生。”
17 Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw."
18人類不尊 神為 神 神的震怒,從天上向所有不虔不義的人顯露出來,就是向那些以不義壓制真理的人顯露出來。
18 Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd.
19 神的事情,人所能知道的,在他們裡面原是明顯的,因為 神已經向他們顯明了。
19 Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt.
20其實自從創世以來, 神那看不見的事,就如他永恆的大能和神性,都是看得見的,就是從他所造的萬物中可以領悟,叫人沒有辦法推諉。
20 Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus.
21因為他們雖然知道 神,卻不尊他為 神,也不感謝他,反而心思變為虛妄,愚頑的心就迷糊了。
21 Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall.
22他們自以為是聰明的,卻成了愚蠢的。
22 Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid.
23他們用必朽壞的人、飛禽、走獸和昆蟲的形象,取代了永不朽壞的 神的榮耀。
23 Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid.
24人類種種的罪惡因此, 神就任憑他們順著心中的私慾去作污穢的事,以致羞辱自己的身體。
24 Am hynny, y mae Duw wedi eu traddodi, trwy chwantau eu calonnau, i gaethiwed aflendid, i'w cyrff gael eu hamharchu ganddynt hwy eu hunain.
25他們用虛謊取代了 神的真理,敬拜事奉受造之物,卻不敬拜事奉造物的主。他是永遠可稱頌的,阿們。
25 Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu'r hyn a grewyd yn lle'r Creawdwr. Bendigedig yw ef am byth! Amen.
26因此, 神就任憑他們放縱可恥的情慾:他們的女人把原來的性的功能,變成違反自然的功能;
26 Felly y mae Duw wedi eu traddodi i nwydau gwarthus. Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol;
27同樣地,男人也捨棄了女人原來的性功能,彼此慾火攻心,男人與男人作出可恥的事。他們這樣妄為,就在自己身上受到應該受的報應。
27 a'r dynion yr un modd, y maent wedi gadael heibio gyfathrach naturiol � merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni bryntni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y t�l anochel am eu camwedd.
28他們既然故意不認識 神, 神就任憑他們存著敗壞的心,去作那些不正當的事。
28 Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdro�dig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud,
29這些人充滿了各樣的不義、邪惡、貪心、陰險;滿懷嫉妒、兇殺、好鬥、欺詐、幸災樂禍;又是好說讒言的、
29 a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.
30毀謗人的、憎恨 神的、凌辱人的、傲慢的、自誇的、製造惡事的、忤逆父母的、
30 Clepgwn ydynt, a difenwyr, caseion Duw, pobl ryfygus a thrahaus ac ymffrostgar, dyfeiswyr drygioni, anufudd i'w rhieni,
31冥頑不靈的、不守信用的、冷酷無情的、沒有惻隱之心的。
31 heb ddeall, heb deyrngarwch, heb serch, heb dosturi.
32他們雖然明明知道行這些事的人, 神判定他們是該死的,然而他們不單自己去行,也喜歡別人去行。
32 Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.