聖經新譯本

Welsh

Romans

3

1猶太人獨特的地方這樣說來,猶太人獨特的地方在哪裡呢?割禮又有甚麼益處呢?
1 Yn wyneb hyn, pa ragorfraint sydd i'r Iddew? Pa werth sydd i'r enwaediad?
2從各方面來說,的確很多。最重要的,是 神的聖言已經託付了他們。
2 Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw.
3即使有人不信,又有甚麼關係呢?難道他們的不信會使 神的信實無效嗎?
3 Ond beth os bu rhai yn anffyddlon? A all eu hanffyddlondeb hwy ddileu ffyddlondeb Duw?
4絕不可能! 神總是誠實的,人卻是虛謊的,正如經上所記:“你在話語上,顯為公義;你被論斷時,必然得勝。”
4 Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau, a gorchfygu wrth gael dy farnu."
5我且照著人的見解來說,我們的不義若彰顯 神的義,我們可以說甚麼呢?難道降怒的 神是不義的嗎?
5 Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)
6絕對不是!如果是這樣, 神怎能審判世界呢?
6 Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd?
7但是 神的誠實,如果因我的虛謊而更加顯出他的榮耀來,為甚麼我還要像罪人一樣受審判呢?
7 Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur?
8為甚麼不說:“我們去作惡以成善吧!”(有人毀謗我們,說我們講過這話。)這種人被定罪是理所當然的。
8 "Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn" � ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.
9世上一個義人也沒有那又怎麼樣呢?我們比他們強嗎?絕不是的。因為我們已經控訴過,無論是猶太人或是希臘人,都在罪惡之下,
9 Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.
10正如經上所說:“沒有義人,連一個也沒有,
10 Fel y mae'n ysgrifenedig: "Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
11沒有明白的,沒有尋求 神的;
11 neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw.
12人人都偏離了正道,一同變成污穢;沒有行善的,連一個也沒有。
12 Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un.
13他們的喉嚨是敞開的墳墓,他們用舌頭弄詭詐,他們嘴裡有虺蛇的毒,
13 Bedd agored yw eu llwnc, a'u tafodau'n traethu twyll; gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,
14滿口是咒罵和惡毒;
14 a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.
15為了殺人流血,他們的腳步飛快,
15 Cyflym eu traed i dywallt gwaed,
16在經過的路上留下毀滅和悲慘。
16 distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd;
17和睦之道,他們不曉得,
17 nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd;
18他們的眼中也不怕 神。” 
18 nid oes ofn Duw ar eu cyfyl."
19然而我們曉得,凡律法所說的,都是對在律法之下的人說的,好讓每一個人都沒有話可講,使全世界的人都伏在 神的審判之下。
19 Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw.
20沒有一個人可以靠行律法,在 神面前得稱為義,因為藉著律法,人對於罪才有充分的認識。
20 Oherwydd, "gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol" trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.
21因信基督白白稱義現在,有律法和先知的話可以證明: 神的義在律法之外已經顯明出來,
21 Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo,
22就是 神的義,因著信耶穌基督,毫無區別地臨到所有信的人。
22 ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu.
23因為人人都犯了罪,虧缺了 神的榮耀,
23 Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.
24但他們卻因著 神的恩典,藉著在基督耶穌裡的救贖,就白白地稱義。
24 Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,
25 神設立了耶穌為贖罪祭(“贖罪祭”原文作“蔽罪所”),是憑著他的血,藉著人的信,為的是要顯明 神的義;因為 神用忍耐的心寬容了人從前所犯的罪,
25 yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gor-ffennol yn amser ymatal Duw;
26好在現今顯明他的義,使人知道他自己為義,又稱信耶穌的人為義。
26 ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.
27這樣,有甚麼可誇的呢?沒有可誇的了。憑甚麼準則說沒有的呢?憑行為嗎?不是的,而是以信心為準則說的。
27 A oes lle, felly, i'n hymffrost? Nac oes! Y mae wedi ei gau allan. Ar ba egwyddor? Ai egwyddor cadw gofynion cyfraith? Nage'n wir, ond ar egwyddor ffydd.
28因為我們認定,人稱義是由於信,並不是靠行律法。
28 Ein dadl yw y cyfiawnheir rhywun trwy gyfrwng ffydd yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith.
29難道 神只是猶太人的 神嗎?不也是外族人的 神嗎?是的,他也是外族人的 神。
29 Ai Duw'r Iddewon yn unig yw Duw? Onid yw'n Dduw'r Cenhedloedd hefyd?
30 神既然只有一位,他就以信為準則稱受割禮的為義,也要以信為準則稱沒有受割禮的為義。
30 Ydyw, yn wir, oherwydd un yw Duw, a bydd yn cyfiawnhau'r enwaededig trwy ffydd, a'r dienwaededig trwy'r un ffydd.
31這樣說來,我們以信廢掉了律法嗎?絕對不是,倒是鞏固了律法。
31 A ydym, ynteu, yn dileu'r Gyfraith trwy'r ffydd hon? Nac ydym, ddim o gwbl! Cadarnhau'r Gyfraith yr ydym.