1與基督同死同活這樣,我們可以說甚麼呢?我們可以常在罪中,叫恩典增多嗎?
1 Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau?
2絕對不可!我們向罪死了的人,怎麼可以仍然活在罪中呢?
2 Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo?
3難道你們不曉得我們這受洗歸入基督耶穌的人,是受洗歸入他的死嗎?
3 A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth?
4所以我們藉著洗禮歸入死,與他同葬,為的是要我們過新生命的生活,像基督藉著父的榮耀從死人中復活一樣。
4 Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd.
5我們若在他死的樣式上與他聯合,也要在他復活的樣式上與他聯合。
5 Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef.
6我們知道,我們的舊人已經與基督同釘十字架,使罪身喪失機能,使我們不再作罪的奴僕,
6 Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod.
7因為死了的人已經脫離罪了。
7 Oherwydd y mae'r sawl sydd wedi marw wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.
8我們既然與基督同死,就信也必與他同活。
8 Ac os buom ni farw gyda Christ, yr ydym yn credu y cawn fyw gydag ef hefyd,
9我們知道,基督既然從死人中復活,就不再死,死也不再轄制他了。
9 a ninnau'n gwybod na fydd Crist, sydd wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwyach. Collodd marwolaeth ei harglwyddiaeth arno ef.
10他死,是向罪死了,只有這一次;他活,是向 神活著。
10 Yn gymaint ag iddo farw, i bechod y bu farw, un waith am byth; yn gymaint �'i fod yn fyw, i Dduw y mae'n byw.
11你們也應當這樣,向罪算自己是死的,在基督耶穌裡,向 神卻是活的。
11 Felly, yr ydych chwithau i'ch cyfrif eich hunain fel rhai sy'n farw i bechod, ond sy'n fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu.
12所以,不要容罪在你們必死的肉身上掌權,使你們順從肉身的私慾,
12 Felly, nid yw pechod i deyrnasu yn eich corff marwol a'ch gorfodi i ufuddhau i'w chwantau.
13也不要把你們的肢體獻給罪,作不義的用具;倒要像出死得生的人,把自己獻給 神,並且把你們的肢體獻給 神作義的用具。
13 Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da.
14罪必不能轄制你們,因為你們不是在律法之下,而是在恩典之下。
14 Nid chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.
15作義的奴僕那卻怎麼樣呢?我們不在律法之下,而在恩典之下,就可以犯罪嗎?絕對不可!
15 Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif!
16難道你們不知道你們自願作奴僕去順從人,順從誰就作誰的奴僕,或作罪的奴僕以致於死,或作順從的奴僕以致於義嗎?
16 Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; prun bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn?
17感謝 神,你們雖然作過罪的奴僕,現在卻從心裡順從了傳授給你們的教義的規範。
17 Ond, diolch i Dduw, yr ydych chwi, a fu'n gaethion i bechod, yn awr wedi rhoi ufudd-dod calon i'r patrwm hwnnw o athrawiaeth y traddodwyd chwi iddo.
18你們既然從罪裡得了釋放,就作了義的奴僕。
18 Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder.
19因為你們肉體的弱點,我就按一般人的話來說,你們從前怎樣把你們的肢體獻給不潔和不法作奴僕,以致於不法,現在也要照樣把你們的肢體獻給義作奴僕,以致於成聖。
19 Yr wyf yn arfer ymadroddion cyfarwydd, o achos eich cyfyngiadau dynol chwi. Fel yr ildiasoch eich cyneddfau corfforol gynt i fod yn gaethion i aflendid ac anghyfraith, a phenrhyddid yn dilyn, felly ildiwch hwy yn awr i fod yn gaethion i gyfiawnder, a bywyd sanctaidd yn dilyn.
20你們作罪的奴僕的時候,就不受義的約束。
20 Pan oeddech yn gaeth i bechod, yr oeddech yn rhydd oddi wrth gyfiawnder.
21那麼,你們在現今以為羞恥的事上,當時得了甚麼呢?那些事的結局就是死。
21 Ond beth oedd ffrwyth y cyfnod hwnnw? Onid pethau sy'n codi cywilydd arnoch yn awr? Oherwydd diwedd y pethau hyn yw marwolaeth.
22現在你們既然從罪裡得了釋放,作了 神的奴僕,就有成聖的果子,那結局就是永生。
22 Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol.
23因為罪的工價就是死,但 神的恩賞,在我們的主基督耶穌裡,卻是永生。
23 Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.