聖經新譯本

Welsh

Romans

8

1聖靈使人脫離罪的律得自由所以現在,那些在耶穌基督裡的人就不被定罪了;
1 Yn awr, felly, nid yw'r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath.
2因為生命之靈的律在基督耶穌裡使我自由,脫離了罪和死的律。
2 Oherwydd yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.
3律法因肉體的軟弱所作不到的, 神作到了:他差遣自己的兒子成為罪身的樣式,為了除掉罪,就在肉體中把罪判決了,
3 Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio � phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd.
4使律法所要求的義,可以在我們這些不隨從肉體而隨從聖靈去行的人身上實現出來。
4 Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd.
5隨從肉體的人,以肉體的事為念;隨從聖靈的人,以聖靈的事為念。
5 Oherwydd y sawl sydd �'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd.
6以肉體為念就是死,以聖靈為念就是生命、平安;
6 Yn wir, y mae bod �'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod �'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch.
7因為以肉體為念就是與 神為仇,既不服從 神的律法,也的確不能夠服從;
7 Oherwydd y mae bod �'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw.
8屬肉體的人不能得 神的喜悅。
8 Ni all y sawl sy'n byw ym myd y cnawd foddhau Duw.
9 神的靈既然住在你們裡面,你們就不是屬於肉體,而是屬於聖靈的了。如果人沒有基督的靈,就不是屬於基督的。
9 Ond nid ym myd y cnawd yr ydych chwi, ond yn yr Ysbryd, gan fod Ysbryd Duw yn cartrefu ynoch chwi. Pwy bynnag sydd heb Ysbryd Crist, nid eiddo Crist ydyw.
10基督若在你們裡面,你們的身體因著罪的緣故是死的,而聖靈卻因著義的緣故賜給你們生命。
10 Ond os yw Crist ynoch chwi, y mae'r corff yn farw o achos pechod, ond y mae'r Ysbryd yn fywyd ichwi o achos eich cyfiawnhad.
11如果那使耶穌從死人中復活者的靈住在你們裡面,那使基督從死人中復活的,也必藉著住在你們裡面的聖靈,使你們必死的身體活過來。
11 Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i'ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy'n ymgartrefu ynoch chwi.
12與基督同作 神的後嗣弟兄們,可見我們並不是欠肉體的債,隨著肉體而活。
12 Am hynny, gyfeillion, yr ydym dan rwymedigaeth, ond nid i'r cnawd, i fyw ar wastad y cnawd.
13如果隨著肉體而活,你們必定死;如果靠著聖靈治死身體的惡行,你們就必活著。
13 Oherwydd, os ar wastad y cnawd yr ydych yn byw, yr ydych yn sicr o farw; ond os ydych, trwy'r Ysbryd, yn rhoi arferion drwg y corff i farwolaeth, byw fyddwch.
14因為蒙 神的靈引導的,都是 神的兒子。
14 Y mae pawb sy'n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw.
15你們接受的,不是奴僕的靈,使你們仍舊懼怕;你們接受的,是使人成為嗣子的靈,使我們呼叫“阿爸、父”。
15 Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, "Abba! Dad!"
16聖靈親自和我們的靈一同證明我們是 神的兒女。
16 Y mae'r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu �'n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw.
17既然是兒女,就是後嗣;是 神的後嗣,也和基督一同作後嗣。我們既然和他一同受苦,就必和他一同得榮耀。
17 Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion � Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o'i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o'i ogoniant hefyd.
18耐心期待將來的榮耀我看現在的苦難,與將要向我們顯出的榮耀,是無法相比的。
18 Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddef-iadau'r presennol i'w cymharu �'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
19被造的萬物都熱切渴望 神的眾子顯現出來。
19 Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio.
20因為被造的萬物服在虛空之下,不是自己願意這樣,而是由於使它屈服的那一位;
20 Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd,
21被造的萬物盼望自己得著釋放,脫離敗壞的奴役,得著 神兒女榮耀的自由。
21 yn y gobaith y c�i'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw.
22我們知道被造的萬物直到現在都一同在痛苦呻吟。
22 Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw.
23不但這樣,連我們這些有聖靈作為初熟果子的人,自己也在內心歎息,熱切期待成為嗣子,就是我們的身體得贖。
23 Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd � blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed.
24我們得救時就存著這盼望;但是看得見的盼望不是盼望,因為誰會盼望自己看見了的呢?
24 Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld?
25但如果我們盼望沒有看見的,就會耐心地熱切期待。
25 Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.
26照樣,聖靈也在我們的軟弱上幫助我們。原來我們不曉得應當怎樣禱告,但聖靈親自用不可言喻的歎息,替我們祈求。
26 Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem wedd�o, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau,
27那鑒察人心的,曉得聖靈的心意,因為聖靈照著 神的旨意替聖徒祈求。
27 ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn �l ewyllys Duw.
28我們知道,為了愛 神的人,就是按他旨意蒙召的人的益處,萬事都一同效力。
28 Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn �l ei fwriad.
29因為 神預先知道的人,他就預先命定他們和他兒子的形象一模一樣,使他的兒子在許多弟兄中作長子,
29 Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd �'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.
30他預先命定的人,又呼召他們;所召來的人,又稱他們為義;所稱為義的人,又使他們得榮耀。
30 A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd.
31靠主就得勝有餘既是這樣,我們對這一切還有甚麼話說呢? 神若這樣為我們,誰能敵對我們呢?
31 O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?
32他連自己的兒子都捨得,為我們眾人把他交出來,難道不也把萬有和他一同白白地賜給我們嗎?
32 Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio � rhoi pob peth i ni gydag ef?
33誰能控告 神揀選的人呢?有 神稱我們為義了。
33 Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn.
34誰能定我們的罪呢?有基督耶穌死了,而且復活了,現今在 神的右邊,也替我們祈求。
34 Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.
35誰能使我們與基督的愛隔絕呢?是患難嗎?是困苦嗎?是迫害嗎?是飢餓嗎?是赤身露體嗎?是危險嗎?是刀劍嗎?
35 Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf?
36正如經上所記:“為你的緣故,我們終日面對死亡,人看我們像待宰的羊。”
36 Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig: "Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd."
37但靠著愛我們的那一位,我們在這一切事上就得勝有餘了。
37 Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni.
38因為我深信:無論是死、是生,是天使、是掌權的,是現在的事,是將來的事,是有能力的,
38 Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol,
39是高天的、是深淵的,或是任何別的被造之物,都不能叫我們與 神的愛隔絕,這愛是在我們的主耶穌基督裡的。
39 na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.