1耶和华兴起古列
1 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog, yr un y gafaelais yn ei law i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen, i ddiarfogi brenhinoedd, i agor dorau o'i flaen, ac ni chaeir pyrth rhagddo:
2我必亲自领导你,把高低不平的路修平;铜门,我必打破;铁门,我必砍断。
2 "Mi af o'th flaen di i lefelu'r mynyddoedd; torraf y dorau pres, a dryllio'r barrau haearn.
3我必把隐藏的宝物和在隐密处的财宝赐给你,使你知道我就是按着你的名呼召了你的耶和华,以色列的 神。
3 Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
4因我的仆人雅各和我所拣选的以色列的缘故,我按着你的名呼召了你;你虽然不认识我,我却给你这个尊贵的名号。
4 Er mwyn fy ngwas Jacob, a'm hetholedig Israel, gelwais di wrth dy enw, a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
5耶和华以外没有真神“我是耶和华,再没有别的神了;除了我以外,并没有真神;你虽然不认识我,我必坚固你,
5 Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall; ar wah�n i mi nid oes Duw. Gwregysais di, er na'm hadwaenit,
6为要叫从日出之地到日落之地的人都知道,除了我以外,没有真神;我是耶和华,再没有别的神了。
6 er mwyn iddynt wybod, o godiad haul hyd ei fachlud, nad oes neb ond myfi. Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall,
7我造光,也造黑暗;我赐平安,也降灾祸;我耶和华是造成这一切事的。
7 yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant; myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
8诸天啊!你们要从上滴下公义,让云层降下公义。让大地裂开,生出救恩,使公义一同生长,是我耶和华创造了这事。
8 "Defnynnwch oddi fry, O nefoedd; tywallted yr wybren gyfiawnder. Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth egino ac i gyfiawnder flaguro. Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
9那与他的创造主争论的,有祸了!他不过是地上瓦片中的一片瓦片,泥土能对陶匠说:‘你在作什么?’或你所作成的说:‘他没有手’吗?
9 "Gwae'r sawl sy'n ymryson �'i luniwr, darn o lestr yn erbyn y crochenydd. A ddywed y clai wrth ei luniwr, 'Beth wnei di?' neu, 'Nid oes graen ar dy waith'?
10那对父亲说:‘你生的是什么’,或对母亲说:‘你产的是什么’的,有祸了!”
10 Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, 'Beth genhedli di?' neu wrth wraig, 'Ar beth yr esgori?'"
11以色列的圣者,造以色列的主耶和华这样说:“你们可以问我将要来的事,关于我的众子和我手所作的,你们也可以吩咐我回答。
11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel a'i luniwr: "A ydych yn fy holi i am fy mhlant, ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?
12我造了地,又造了人在地上;我亲手展开了诸天,又命定了天上的万象。
12 Myfi a wnaeth y ddaear, a chreu pobl arni; fy llaw i a estynnodd y nefoedd, a threfnu ei holl lu.
13我凭着公义兴起了古列,我必修平他的一切道路;他必建造我的城,释放我被掳的子民,不必用工价,也不用赏赐,这是万军之耶和华说的。”
13 Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth, ac unioni ei holl lwybrau. Ef fydd yn codi fy ninas, ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd, ond nid am bris nac am wobr," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
14耶和华这样说:“埃及劳碌得来的和古实所得之利,以及身量高大的西巴人,都必过来归你,也要属你;他们必带着锁链过来随从你,向你俯伏,向你恳求,说:‘ 神真的在你们中间,此外,再没有别的神,没有别的真神。’”
14 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: "Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid tal yn croesi atat ac yn eiddo i ti; d�nt ar dy �l mewn cadwyni, ymgrymant i ti a chyffesu, 'Yn sicr y mae Duw yn eich plith, ac nid oes neb ond ef yn Dduw.'"
15拯救者以色列的 神啊!你实在是隐藏自己的 神。
15 Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti, Dduw Israel, y gwaredydd.
16制造偶像的都必蒙羞受辱,都要一同归于羞愧。
16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwy i gyd; �'r seiri delwau oll yn waradwydd,
17唯有以色列必靠着耶和华得救,得着永远的拯救;你们必不蒙羞,也不受辱,直到永远。
17 ond gwaredir Israel gan yr ARGLWYDD � gwaredigaeth dragwyddol; ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.
18因为创造诸天的耶和华,他是 神,塑造大地,把大地造成;他坚立大地;他创造大地,不是荒凉的;他塑造大地,是要给人居住;他这样说:“我是耶和华,再没有别的 神。
18 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, creawdwr y nefoedd, yr un sy'n Dduw, lluniwr y ddaear a'i gwneuthurwr, yr un a'i sefydlodd, yr un a'i creodd, nid i fod yn afluniaidd, ond a'i ffurfiodd i'w phreswylio: "Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall;
19我没有在隐密处、在黑暗之地说过话;我没有对雅各的后裔说过:‘你们寻求我是徒然的。’我耶和华讲说公义,宣扬正直。
19 nid mewn dirgelwch y lleferais, nid mewn man tywyll o'r ddaear; ni ddywedais wrth feibion Jacob, 'Ceisiwch fi mewn anhrefn.' Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r un sy'n llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi uniondeb.
20耶和华是独一的拯救者“列国逃脱的人哪!你们要来集合,一同近前来。那些抬着木头做的偶像,向不能拯救人的神祈求的,真是无知。
20 "Ymgasglwch, dewch yma, nesewch gyda'ch gilydd, rai dihangol y cenhedloedd. Nid oes gwybodaeth gan gludwyr delwau pren a'r rhai sy'n gwedd�o ar dduw na all eu hachub.
21你们述说吧!提出理由吧!让他们彼此商议吧!谁从古时使人听见这事呢?谁从上古把这事述说出来呢?不是我耶和华吗?除了我以外,再没有 神,我是公义的 神,又是拯救者;除了我以外,并没有别的 神。
21 Dewch ymlaen, cyflwynwch eich achos; boed iddynt gymryd cyngor ynghyd. Pwy a fynegodd hyn o'r blaen? Pwy a'i dywedodd o'r dechrau? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd. Nid oes neb ond myfi.
22全地的人哪!你们都要归向我,都要得救。因为我是 神,再没有别的 神。
22 Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
23我指着自己起誓,我的口凭着公义说出的话,决不改变:‘万膝都必向我跪拜,万口都要指着我起誓。’
23 Ar fy llw y tyngais; gwir a ddaeth allan o'm genau, gair na ddychwel: i mi bydd pob glin yn plygu a phob tafod yn tyngu.
24人论到我必说:‘只有在耶和华里面才有公义和能力’;向他发怒的,都必来到他面前,并且要蒙羞。
24 Fe ddywedir amdanaf, 'Yn ddiau, yn yr ARGLWYDD y mae cyfiawnder a nerth'." Bydd pob un a ddigiodd wrtho yn dod ato ef mewn cywilydd.
25以色列所有的后裔,都必靠耶和华得称为义,并要夸胜。”
25 Cyfiawnheir holl deulu Israel, ac ymhyfrydant yn yr ARGLWYDD.