1And after five days Ananias the high priest descended with the elders, and with a certain orator named Tertullus, who informed the governor against Paul.
1 Pum diwrnod yn ddiweddarach, daeth Ananias yr archoffeiriad i lawr gyda rhai henuriaid, a dadleuydd o'r enw Tertulus, a gosodasant gerbron y rhaglaw eu hachos yn erbyn Paul.
2And when he was called forth, Tertullus began to accuse him, saying, Seeing that by thee we enjoy great quietness, and that very worthy deeds are done unto this nation by thy providence,
2 Galwyd yntau gerbron, a dechreuodd Tertulus ei erlyniad, gan ddweud:
3We accept it always, and in all places, most noble Felix, with all thankfulness.
3 "Trwot ti yr ydym yn mwynhau cyflawnder o heddwch, a thrwy dy ddarbodaeth y mae gwelliannau yn dod i ran y genedl hon ym mhob modd ac ym mhob man. Yr ydym yn eu derbyn, ardderchocaf Ffelix, � phob diolchgarwch.
4Notwithstanding, that I be not further tedious unto thee, I pray thee that thou wouldest hear us of thy clemency a few words.
4 Ond rhag i mi dy gadw di yn rhy hir, yr wyf yn deisyf arnat wrando ar ychydig eiriau gennym, os byddi mor garedig.
5For we have found this man a pestilent fellow, and a mover of sedition among all the Jews throughout the world, and a ringleader of the sect of the Nazarenes:
5 Cawsom y dyn yma yn bla, yn codi ymrafaelion ymhlith yr holl Iddewon trwy'r byd, ac yn arweinydd yn sect y Nasareaid.
6Who also hath gone about to profane the temple: whom we took, and would have judged according to our law.
6 Gwnaeth gynnig ar halogi'r deml hyd yn oed, ond daliasom ef. [{cf15i Ac yr oeddem yn bwriadu ei farnu yn �l ein Cyfraith ni.}]
7But the chief captain Lysias came upon us, and with great violence took him away out of our hands,
7 [{cf15i Ond daeth Lysias y capten a'i gymryd ef trwy drais mawr allan o'n dwylo ni,}]
8Commanding his accusers to come unto thee: by examining of whom thyself mayest take knowledge of all these things, whereof we accuse him.
8 [{cf15i a gorchymyn i'w gyhuddwyr ddod ger dy fron di.}] Ac os holi di ef dy hun, gelli gael sicrwydd am bob dim yr ydym yn ei gyhuddo ohono."
9And the Jews also assented, saying that these things were so.
9 Ymunodd yr Iddewon hefyd yn y cyhuddo, gan daeru mai felly yr oedd hi.
10Then Paul, after that the governor had beckoned unto him to speak, answered, Forasmuch as I know that thou hast been of many years a judge unto this nation, I do the more cheerfully answer for myself:
10 Yna atebodd Paul, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i lefaru: "Mi wn dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i'r genedl hon, ac am hynny yr wyf yn amddiffyn fy achos yn galonnog.
11Because that thou mayest understand, that there are yet but twelve days since I went up to Jerusalem for to worship.
11 Oherwydd gelli gael sicrwydd nad oes dim mwy na deuddeg diwrnod er pan euthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.
12And they neither found me in the temple disputing with any man, neither raising up the people, neither in the synagogues, nor in the city:
12 Ni chawsant mohonof yn dadlau � neb nac yn casglu tyrfa, yn y deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas,
13Neither can they prove the things whereof they now accuse me.
13 ac ni allant brofi i ti y cyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn awr yn fy erbyn i.
14But this I confess unto thee, that after the way which they call heresy, so worship I the God of my fathers, believing all things which are written in the law and in the prophets:
14 Ond yr wyf yn cyfaddef hyn i ti, mai yn null y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr wyf yn addoli Duw ein hynafiaid. Yr wyf yn credu pob peth sydd yn �l y Gyfraith ac sy'n ysgrifenedig yn y proffwydi,
15And have hope toward God, which they themselves also allow, that there shall be a resurrection of the dead, both of the just and unjust.
15 ac yn gobeithio yn Nuw � ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i'r cyfiawn ac i'r anghyfiawn.
16And herein do I exercise myself, to have always a conscience void to offence toward God, and toward men.
16 Oherwydd hyn, yr wyf finnau hefyd yn ymroi i gadw cydwybod l�n gerbron Duw a dynion yn wastad.
17Now after many years I came to bring alms to my nation, and offerings.
17 Ac ar �l amryw flynyddoedd, deuthum i wneud elusennau i'm cenedl ac i offrymu aberthau,
18Whereupon certain Jews from Asia found me purified in the temple, neither with multitude, nor with tumult.
18 ac wrthi'n gwneud hyn y cawsant fi, wedi fy mhureiddio, yn y deml. Nid oedd yno na thyrfa na therfysg.
19Who ought to have been here before thee, and object, if they had ought against me.
19 Ond yr oedd yno ryw Iddewon o Asia, a hwy a ddylai fod yma ger dy fron di i'm cyhuddo i, a chaniat�u fod ganddynt rywbeth yn fy erbyn;
20Or else let these same here say, if they have found any evil doing in me, while I stood before the council,
20 neu dyweded y rhain yma pa gamwedd a gawsant ynof pan sefais gerbron y Sanhedrin,
21Except it be for this one voice, that I cried standing among them, Touching the resurrection of the dead I am called in question by you this day.
21 heblaw'r un ymadrodd hwnnw a waeddais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith: 'Ynghylch atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf heddiw ger eich bron.'"
22And when Felix heard these things, having more perfect knowledge of that way, he deferred them, and said, When Lysias the chief captain shall come down, I will know the uttermost of your matter.
22 Yr oedd gan Ffelix wybodaeth led fanwl am y Ffordd, a gohiriodd yr achos, gan ddweud, "Pan ddaw Lysias y capten i lawr, rhoddaf ddyfarniad yn eich achos."
23And he commanded a centurion to keep Paul, and to let him have liberty, and that he should forbid none of his acquaintance to minister or come unto him.
23 Gorchmynnodd i'r canwriad fod Paul i'w gadw dan warchodaeth, ac i gael peth rhyddid, ac nad oeddent i rwystro i neb o'i gyfeillion weini arno.
24And after certain days, when Felix came with his wife Drusilla, which was a Jewess, he sent for Paul, and heard him concerning the faith in Christ.
24 Rhai dyddiau wedi hynny, daeth Ffelix yno gyda'i wraig Drwsila, a oedd yn Iddewes. Fe anfonodd am Paul, a gwrandawodd ar ei eiriau ynghylch ffydd yng Nghrist Iesu.
25And as he reasoned of righteousness, temperance, and judgment to come, Felix trembled, and answered, Go thy way for this time; when I have a convenient season, I will call for thee.
25 Ond wrth iddo drafod cyfiawnder a hunan-ddisgyblaeth a'r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix a dywedodd, "Dyna ddigon am y tro; anfonaf amdanat eto pan gaf gyfle."
26He hoped also that money should have been given him of Paul, that he might loose him: wherefore he sent for him the oftener, and communed with him.
26 Yr un pryd, yr oedd yn gobeithio cael cil�dwrn gan Paul, ac oherwydd hynny byddai'n anfon amdano yn lled fynych, ac yn sgwrsio ag ef.
27But after two years Porcius Festus came into Felix' room: and Felix, willing to shew the Jews a pleasure, left Paul bound.
27 Aeth dwy flynedd heibio, a dilynwyd Ffelix gan Porcius Ffestus; a chan ei fod yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gadawodd Ffelix Paul yn garcharor.