1The word of the LORD came unto me again, saying,
1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2What mean ye, that ye use this proverb concerning the land of Israel, saying, The fathers have eaten sour grapes, and the children's teeth are set on edge?
2 "Beth a olygwch wrth ddefnyddio'r ddihareb hon am wlad Israel: 'Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod'?
3As I live, saith the Lord GOD, ye shall not have occasion any more to use this proverb in Israel.
3 Cyn wired �'m bod yn fyw," medd yr Arglwydd DDUW, "ni ddefnyddiwch eto'r ddihareb hon yn Israel.
4Behold, all souls are mine; as the soul of the father, so also the soul of the son is mine: the soul that sinneth, it shall die.
4 I mi y perthyn pob enaid byw, y rhiant a'r plentyn fel ei gilydd; a'r sawl sy'n pechu fydd farw.
5But if a man be just, and do that which is lawful and right,
5 "Bwriwch fod dyn cyfiawn sy'n gwneud barn a chyfiawnder.
6And hath not eaten upon the mountains, neither hath lifted up his eyes to the idols of the house of Israel, neither hath defiled his neighbour's wife, neither hath come near to a menstruous woman,
6 Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tu375? Israel; nid yw'n halogi gwraig ei gymydog, nac yn mynd at wraig yn ystod ei misglwyf.
7And hath not oppressed any, but hath restored to the debtor his pledge, hath spoiled none by violence, hath given his bread to the hungry, and hath covered the naked with a garment;
7 Nid yw'n gorthrymu neb, ond y mae'n dychwelyd gwystl y dyledwr, ac nid yw'n lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.
8He that hath not given forth upon usury, neither hath taken any increase, that hath withdrawn his hand from iniquity, hath executed true judgment between man and man,
8 Nid yw'n rhoi ei arian ar log nac yn derbyn elw; y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac yn gwneud barn gywir rhwng dynion a'i gilydd.
9Hath walked in my statutes, and hath kept my judgments, to deal truly; he is just, he shall surely live, saith the Lord GOD.
9 Y mae'n dilyn fy neddfau ac yn cadw'n gywir fy marnau; y mae'n ddyn cyfiawn, a bydd yn sicr o fyw," medd yr Arglwydd DDUW.
10If he beget a son that is a robber, a shedder of blood, and that doeth the like to any one of these things,
10 "Bwriwch fod ganddo fab sy'n treisio ac yn tywallt gwaed, ac yn gwneud un o'r pethau hyn,
11And that doeth not any of those duties, but even hath eaten upon the mountains, and defiled his neighbour's wife,
11 er na wnaeth ei dad yr un ohonynt. Y mae'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, ac yn halogi gwraig ei gymydog;
12Hath oppressed the poor and needy, hath spoiled by violence, hath not restored the pledge, and hath lifted up his eyes to the idols, hath committed abomination,
12 y mae'n gorthrymu'r tlawd a'r anghenus ac yn lladrata; nid yw'n dychwelyd gwystl y dyledwr; y mae'n edrych ar eilunod ac yn gwneud ffieidd-dra;
13Hath given forth upon usury, and hath taken increase: shall he then live? he shall not live: he hath done all these abominations; he shall surely die; his blood shall be upon him.
13 y mae'n rhoi ei arian ar log ac yn derbyn elw. A fydd ef fyw? Na fydd! Am iddo wneud yr holl bethau ffiaidd hyn fe fydd yn sicr o farw, a bydd ei waed arno ef ei hun.
14Now, lo, if he beget a son, that seeth all his father's sins which he hath done, and considereth, and doeth not such like,
14 "Bwriwch fod gan hwnnw fab sy'n gweld yr holl ddrygioni a wnaeth ei dad; ac wedi iddo weld, nid yw'n ymddwyn felly.
15That hath not eaten upon the mountains, neither hath lifted up his eyes to the idols of the house of Israel, hath not defiled his neighbour's wife,
15 Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tu375? Israel, nac yn halogi gwraig ei gymydog.
16Neither hath oppressed any, hath not withholden the pledge, neither hath spoiled by violence, but hath given his bread to the hungry, and hath covered the naked with a garment,
16 Nid yw'n gorthrymu neb, nac yn gofyn gwystl gan ddyledwr, nac yn lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.
17That hath taken off his hand from the poor, that hath not received usury nor increase, hath executed my judgments, hath walked in my statutes; he shall not die for the iniquity of his father, he shall surely live.
17 Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.
18As for his father, because he cruelly oppressed, spoiled his brother by violence, and did that which is not good among his people, lo, even he shall die in his iniquity.
18 Bydd ei dad farw o achos ei droseddau ei hun, am iddo elwa trwy drais, lladrata oddi ar berthynas, a gwneud yr hyn nad oedd yn iawn ymysg ei bobl.
19Yet say ye, Why? doth not the son bear the iniquity of the father? When the son hath done that which is lawful and right, and hath kept all my statutes, and hath done them, he shall surely live.
19 "Eto fe ofynnwch, 'Pam nad yw'r mab yn euog am drosedd y tad?' Am i'r mab wneud barn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau ac ufuddhau iddynt, bydd yn sicr o fyw.
20The soul that sinneth, it shall die. The son shall not bear the iniquity of the father, neither shall the father bear the iniquity of the son: the righteousness of the righteous shall be upon him, and the wickedness of the wicked shall be upon him.
20 Y sawl sy'n pechu a fydd farw. Ni fydd y mab yn euog am drosedd y tad, na'r tad am drosedd y mab; fe dderbyn y cyfiawn yn �l ei gyfiawnder, a'r drygionus yn �l ei ddrygioni.
21But if the wicked will turn from all his sins that he hath committed, and keep all my statutes, and do that which is lawful and right, he shall surely live, he shall not die.
21 "Os bydd y drygionus yn troi oddi wrth yr holl ddrygioni a wnaeth, yn cadw fy holl ddeddfau, ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.
22All his transgressions that he hath committed, they shall not be mentioned unto him: in his righteousness that he hath done he shall live.
22 Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i droseddau, ond oherwydd y cyfiawnder a wnaeth bydd fyw.
23Have I any pleasure at all that the wicked should die? saith the Lord GOD: and not that he should return from his ways, and live?
23 A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?" medd yr Arglwydd DDUW. "Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?
24But when the righteous turneth away from his righteousness, and committeth iniquity, and doeth according to all the abominations that the wicked man doeth, shall he live? All his righteousness that he hath done shall not be mentioned: in his trespass that he hath trespassed, and in his sin that he hath sinned, in them shall he die.
24 Ond os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder, ac yn gwneud drygioni a'r holl bethau ffiaidd y mae'r dyn drygionus yn eu gwneud, a fydd ef fyw? Ni chofir yr un o'r pethau cyfiawn a wnaeth, ond am iddo fod yn anffyddlon a chyflawni pechodau, bydd farw.
25Yet ye say, The way of the LORD is not equal. Hear now, O house of Israel; Is not my way equal? are not your ways unequal?
25 "Eto fe ddywedwch, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.' Clywch hyn, du375? Israel: A yw fy ffordd i yn anghyfiawn? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghyfiawn?
26When a righteous man turneth away from his righteousness, and committeth iniquity, and dieth in them; for his iniquity that he hath done shall he die.
26 Os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, bydd farw o'i achos; am y drygioni a wnaeth bydd farw.
27Again, when the wicked man turneth away from his wickedness that he hath committed, and doeth that which is lawful and right, he shall save his soul alive.
27 Ond os bydd dyn drwg yn troi o'r drygioni a wnaeth ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn arbed ei fywyd.
28Because he considereth, and turneth away from all his transgressions that he hath committed, he shall surely live, he shall not die.
28 Am iddo weld, a throi oddi wrth yr holl droseddau y bu'n eu gwneud, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.
29Yet saith the house of Israel, The way of the LORD is not equal. O house of Israel, are not my ways equal? are not your ways unequal?
29 Ac eto fe ddywed tu375? Israel, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.' A yw fy ffyrdd i yn anghywir, du375? Israel? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghywir?
30Therefore I will judge you, O house of Israel, every one according to his ways, saith the Lord GOD. Repent, and turn yourselves from all your transgressions; so iniquity shall not be your ruin.
30 "Felly, du375? Israel, fe'ch barnaf bob un am ei ffordd ei hun," medd yr Arglwydd DDUW. "Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich holl wrthryfel, fel na fydd drygioni yn dramgwydd i chwi.
31Cast away from you all your transgressions, whereby ye have transgressed; and make you a new heart and a new spirit: for why will ye die, O house of Israel?
31 Bwriwch ymaith yr holl droseddau a wnaethoch, a mynnwch galon newydd ac ysbryd newydd; pam y byddwch farw, du375? Israel?
32For I have no pleasure in the death of him that dieth, saith the Lord GOD: wherefore turn yourselves, and live ye.
32 Nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth neb," medd yr Arglwydd DDUW; "edifarhewch a byddwch fyw."