1The word of the LORD came again unto me, saying,
1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2Son of man, set thy face against the Ammonites, and prophesy against them;
2 "Fab dyn, tro dy wyneb at yr Ammoniaid a phroffwyda yn eu herbyn.
3And say unto the Ammonites, Hear the word of the Lord GOD; Thus saith the Lord GOD; Because thou saidst, Aha, against my sanctuary, when it was profaned; and against the land of Israel, when it was desolate; and against the house of Judah, when they went into captivity;
3 Dywed wrthynt, 'Gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti ddweud, "Aha!" pan halogwyd fy nghysegr a phan anrheithiwyd tir Israel a phan ddygwyd tu375? Jwda i gaethglud,
4Behold, therefore I will deliver thee to the men of the east for a possession, and they shall set their palaces in thee, and make their dwellings in thee: they shall eat thy fruit, and they shall drink thy milk.
4 am hynny fe'th rof yn eiddo i bobl y dwyrain. Gosodant hwy eu gwersylloedd, a chodi eu pebyll yn dy ganol; byddant yn bwyta dy gnydau ac yn yfed dy laeth.
5And I will make Rabbah a stable for camels, and the Ammonites a couching place for flocks: and ye shall know that I am the LORD.
5 Fe wnaf Rabba yn borfa i gamelod ac Ammon yn gynefin defaid, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
6For thus saith the Lord GOD; Because thou hast clapped thine hands, and stamped with the feet, and rejoiced in heart with all thy despite against the land of Israel;
6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti guro dwylo a tharo traed a llawenhau � holl falais dy galon yn erbyn Israel,
7Behold, therefore I will stretch out mine hand upon thee, and will deliver thee for a spoil to the heathen; and I will cut thee off from the people, and I will cause thee to perish out of the countries: I will destroy thee; and thou shalt know that I am the LORD.
7 am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
8Thus saith the Lord GOD; Because that Moab and Seir do say, Behold, the house of Judah is like unto all the heathen;
8 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Moab a Seir ddweud, "Edrych, aeth tu375? Jwda fel yr holl genhedloedd",
9Therefore, behold, I will open the side of Moab from the cities, from his cities which are on his frontiers, the glory of the country, Bethjeshimoth, Baalmeon, and Kiriathaim,
9 am hynny fe ddifethaf derfynau Moab, sef dinasoedd y gororau, Beth-jesimoth, Baal-meon a Ciriathaim, rhai gorau'r wlad.
10Unto the men of the east with the Ammonites, and will give them in possession, that the Ammonites may not be remembered among the nations.
10 Rhof Moab gyda'r Ammoniaid yn eiddo i bobl y dwyrain, fel na bydd i'r Ammoniaid gael eu cofio ymhlith y cenhedloedd,
11And I will execute judgments upon Moab; and they shall know that I am the LORD.
11 a gweithredaf farn ar Moab. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
12Thus saith the Lord GOD; Because that Edom hath dealt against the house of Judah by taking vengeance, and hath greatly offended, and revenged himself upon them;
12 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Edom ddial ar du375? Jwda, a bod yn euog iawn trwy wneud hynny,
13Therefore thus saith the Lord GOD; I will also stretch out mine hand upon Edom, and will cut off man and beast from it; and I will make it desolate from Teman; and they of Dedan shall fall by the sword.
13 am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn Edom, a thorri ymaith ohoni ddyn ac anifail, a'i gwneud yn anrhaith; o Teman hyd Dedan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf.
14And I will lay my vengeance upon Edom by the hand of my people Israel: and they shall do in Edom according to mine anger and according to my fury; and they shall know my vengeance, saith the Lord GOD.
14 Byddaf yn dial ar Edom trwy fy mhobl Israel, ac fe wn�nt ag Edom yn �l fy nicter a'm llid. Yna byddant yn gwybod mai dyma fy nialedd, medd yr Arglwydd DDUW.
15Thus saith the Lord GOD; Because the Philistines have dealt by revenge, and have taken vengeance with a despiteful heart, to destroy it for the old hatred;
15 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r Philistiaid weithredu'n ddialgar, a dial � malais yn eu calonnau, a dinistrio o achos hen gasineb,
16Therefore thus saith the Lord GOD; Behold, I will stretch out mine hand upon the Philistines, and I will cut off the Cherethims, and destroy the remnant of the sea coast.
16 am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn y Philistiaid, ac fe dorraf ymaith y Cerethiaid, a dinistrio'r rhai sy'n weddill ar hyd yr arfordir.
17And I will execute great vengeance upon them with furious rebukes; and they shall know that I am the LORD, when I shall lay my vengeance upon them.
17 Dygaf ddialedd mawr arnynt a'u cosbi yn fy nicter. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn dial arnynt.'"