King James Version

Welsh

John

20

1The first day of the week cometh Mary Magdalene early, when it was yet dark, unto the sepulchre, and seeth the stone taken away from the sepulchre.
1 Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto'n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
2Then she runneth, and cometh to Simon Peter, and to the other disciple, whom Jesus loved, and saith unto them, They have taken away the LORD out of the sepulchre, and we know not where they have laid him.
2 Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a'r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu'n ei garu. Ac meddai wrthynt, "Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom lle y maent wedi ei roi i orwedd."
3Peter therefore went forth, and that other disciple, and came to the sepulchre.
3 Yna cychwynnodd Pedr a'r disgybl arall allan, a mynd at y bedd.
4So they ran both together: and the other disciple did outrun Peter, and came first to the sepulchre.
4 Yr oedd y ddau'n cydredeg, ond rhedodd y disgybl arall ymlaen yn gynt na Pedr, a chyrraedd y bedd yn gyntaf.
5And he stooping down, and looking in, saw the linen clothes lying; yet went he not in.
5 Plygodd i edrych, a gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, ond nid aeth i mewn.
6Then cometh Simon Peter following him, and went into the sepulchre, and seeth the linen clothes lie,
6 Yna daeth Simon Pedr ar ei �l, a mynd i mewn i'r bedd. Gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno,
7And the napkin, that was about his head, not lying with the linen clothes, but wrapped together in a place by itself.
7 a hefyd y cadach oedd wedi bod am ei ben ef; nid oedd hwn yn gorwedd gyda'r llieiniau, ond ar wah�n, wedi ei blygu ynghyd.
8Then went in also that other disciple, which came first to the sepulchre, and he saw, and believed.
8 Yna aeth y disgybl arall, y cyntaf i ddod at y bedd, yntau i mewn. Gwelodd, ac fe gredodd.
9For as yet they knew not the scripture, that he must rise again from the dead.
9 Oherwydd nid oeddent eto wedi deall yr hyn a ddywed yr Ysgrythur, fod yn rhaid iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.
10Then the disciples went away again unto their own home.
10 Yna aeth y disgyblion yn �l adref.
11But Mary stood without at the sepulchre weeping: and as she wept, she stooped down, and looked into the sepulchre,
11 Ond yr oedd Mair yn dal i sefyll y tu allan i'r bedd, yn wylo. Wrth iddi wylo felly, plygodd i edrych i mewn i'r bedd,
12And seeth two angels in white sitting, the one at the head, and the other at the feet, where the body of Jesus had lain.
12 a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle'r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a'r llall wrth y traed.
13And they say unto her, Woman, why weepest thou? She saith unto them, Because they have taken away my LORD, and I know not where they have laid him.
13 Ac meddai'r rhain wrthi, "Wraig, pam yr wyt ti'n wylo?" Atebodd hwy, "Y maent wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, ac ni wn i lle y maent wedi ei roi i orwedd."
14And when she had thus said, she turned herself back, and saw Jesus standing, and knew not that it was Jesus.
14 Wedi iddi ddweud hyn, troes yn ei h�l, a gwelodd Iesu'n sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd.
15Jesus saith unto her, Woman, why weepest thou? whom seekest thou? She, supposing him to be the gardener, saith unto him, Sir, if thou have borne him hence, tell me where thou hast laid him, and I will take him away.
15 "Wraig," meddai Iesu wrthi, "pam yr wyt ti'n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?" Gan feddwl mai'r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a'i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe'i cymeraf fi ef i'm gofal."
16Jesus saith unto her, Mary. She turned herself, and saith unto him, Rabboni; which is to say, Master.
16 Meddai Iesu wrthi, "Mair." Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, "Rabbwni" (hynny yw, Athro).
17Jesus saith unto her, Touch me not; for I am not yet ascended to my Father: but go to my brethren, and say unto them, I ascend unto my Father, and your Father; and to my God, and your God.
17 Meddai Iesu wrthi, "Paid � glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. Ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, 'Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a'ch Tad chwi, fy Nuw i a'ch Duw chwi.'"
18Mary Magdalene came and told the disciples that she had seen the LORD, and that he had spoken these things unto her.
18 Ac aeth Mair Magdalen i gyhoeddi'r newydd i'r disgyblion. "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd," meddai, ac eglurodd ei fod wedi dweud y geiriau hyn wrthi.
19Then the same day at evening, being the first day of the week, when the doors were shut where the disciples were assembled for fear of the Jews, came Jesus and stood in the midst, and saith unto them, Peace be unto you.
19 Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, "Tangnefedd i chwi!"
20And when he had so said, he shewed unto them his hands and his side. Then were the disciples glad, when they saw the LORD.
20 Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a'i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion.
21Then said Jesus to them again, Peace be unto you: as my Father hath sent me, even so send I you.
21 Meddai Iesu wrthynt eilwaith, "Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi."
22And when he had said this, he breathed on them, and saith unto them, Receive ye the Holy Ghost:
22 Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: "Derbyniwch yr Ysbryd Gl�n.
23Whose soever sins ye remit, they are remitted unto them; and whose soever sins ye retain, they are retained.
23 Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch �'u maddau, y maent heb eu maddau."
24But Thomas, one of the twelve, called Didymus, was not with them when Jesus came.
24 Nid oedd Thomas, a elwir Didymus, un o'r Deuddeg, gyda hwy pan ddaeth Iesu atynt.
25The other disciples therefore said unto him, We have seen the LORD. But he said unto them, Except I shall see in his hands the print of the nails, and put my finger into the print of the nails, and thrust my hand into his side, I will not believe.
25 Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, "Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd." Ond meddai ef wrthynt, "Os na welaf �l yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn �l yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth."
26And after eight days again his disciples were within, and Thomas with them: then came Jesus, the doors being shut, and stood in the midst, and said, Peace be unto you.
26 Ac ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tu375?, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, "Tangnefedd i chwi!"
27Then saith he to Thomas, Reach hither thy finger, and behold my hands; and reach hither thy hand, and thrust it into my side: and be not faithless, but believing.
27 Yna meddai wrth Thomas, "Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid � bod yn anghredadun, bydd yn gredadun."
28And Thomas answered and said unto him, My LORD and my God.
28 Atebodd Thomas ef, "Fy Arglwydd a'm Duw!"
29Jesus saith unto him, Thomas, because thou hast seen me, thou hast believed: blessed are they that have not seen, and yet have believed.
29 Dywedodd Iesu wrtho, "Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld."
30And many other signs truly did Jesus in the presence of his disciples, which are not written in this book:
30 Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngu373?ydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn.
31But these are written, that ye might believe that Jesus is the Christ, the Son of God; and that believing ye might have life through his name.
31 Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef.