1Then Joshua called the Reubenites, and the Gadites, and the half tribe of Manasseh,
1 Yna galwodd Josua y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse,
2And said unto them, Ye have kept all that Moses the servant of the LORD commanded you, and have obeyed my voice in all that I commanded you:
2 a dweud wrthynt, "Yr ydych wedi cadw'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, a buoch yn ufudd i bob gorchymyn a roddais innau ichwi.
3Ye have not left your brethren these many days unto this day, but have kept the charge of the commandment of the LORD your God.
3 Ers cyfnod maith hyd y dydd hwn nid ydych wedi cefnu ar eich perthnasau, a buoch yn ofalus i gadw gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw.
4And now the LORD your God hath given rest unto your brethren, as he promised them: therefore now return ye, and get you unto your tents, and unto the land of your possession, which Moses the servant of the LORD gave you on the other side Jordan.
4 Bellach y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel yr addawodd iddynt; felly, yn awr, trowch yn �l ac ewch adref i'r tir a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi i'w feddiannu y tu hwnt i'r Iorddonen.
5But take diligent heed to do the commandment and the law, which Moses the servant of the LORD charged you, to love the LORD your God, and to walk in all his ways, and to keep his commandments, and to cleave unto him, and to serve him with all your heart and with all your soul.
5 Yn unig byddwch yn ofalus iawn i gadw'r gorchymyn a'r gyfraith a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, i garu'r ARGLWYDD eich Duw, a cherdded yn ei holl lwybrau, i gadw ei orchmynion, a glynu wrtho a'i wasanaethu �'ch holl galon ac �'ch holl enaid."
6So Joshua blessed them, and sent them away: and they went unto their tents.
6 Yna bendithiodd Josua hwy a'u gollwng ymaith, ac aethant adref.
7Now to the one half of the tribe of Manasseh Moses had given possession in Bashan: but unto the other half thereof gave Joshua among their brethren on this side Jordan westward. And when Joshua sent them away also unto their tents, then he blessed them,
7 I hanner llwyth Manasse yr oedd Moses wedi rhoi tir yn Basan; i'r hanner arall rhoddodd Josua dir gyda'u perthnasau i'r gorllewin o'r Iorddonen. Wrth eu hanfon adref a'u bendithio,
8And he spake unto them, saying, Return with much riches unto your tents, and with very much cattle, with silver, and with gold, and with brass, and with iron, and with very much raiment: divide the spoil of your enemies with your brethren.
8 dywedodd Josua wrthynt, "Dychwelwch adref � chyfoeth mawr a llawer iawn o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a llawer iawn o ddillad; rhannwch �'ch perthnasau ysbail eich gelynion."
9And the children of Reuben and the children of Gad and the half tribe of Manasseh returned, and departed from the children of Israel out of Shiloh, which is in the land of Canaan, to go unto the country of Gilead, to the land of their possession, whereof they were possessed, according to the word of the LORD by the hand of Moses.
9 Dychwelodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse o Seilo yng ngwlad Canaan, a gadael yr Israeliaid i fynd i wlad Gilead, y diriogaeth a feddiannwyd ganddynt yn �l gair yr ARGLWYDD drwy Moses.
10And when they came unto the borders of Jordan, that are in the land of Canaan, the children of Reuben and the children of Gad and the half tribe of Manasseh built there an altar by Jordan, a great altar to see to.
10 Pan ddaethant i Geliloth ger yr Iorddonen, cododd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse allor yno yng ngwlad Canaan ger yr Iorddonen; yr oedd yn allor nodedig o fawr.
11And the children of Israel heard say, Behold, the children of Reuben and the children of Gad and the half tribe of Manasseh have built an altar over against the land of Canaan, in the borders of Jordan, at the passage of the children of Israel.
11 Clywodd yr Israeliaid fod y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse wedi adeiladu allor ar derfyn gwlad Canaan, yn Geliloth ger yr Iorddonen, ar ochr yr Israeliaid;
12And when the children of Israel heard of it, the whole congregation of the children of Israel gathered themselves together at Shiloh, to go up to war against them.
12 ac wedi iddynt glywed, ymgynullodd holl gynulleidfa'r Israeliaid i Seilo, er mwyn mynd i ryfel yn eu herbyn.
13And the children of Israel sent unto the children of Reuben, and to the children of Gad, and to the half tribe of Manasseh, into the land of Gilead, Phinehas the son of Eleazar the priest,
13 Anfonodd yr Israeliaid Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, i Gilead at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse
14And with him ten princes, of each chief house a prince throughout all the tribes of Israel; and each one was an head of the house of their fathers among the thousands of Israel.
14 gyda deg pennaeth, un ar gyfer pob un o lwythau Israel, pob un yn benteulu ymysg tylwythau Israel.
15And they came unto the children of Reuben, and to the children of Gad, and to the half tribe of Manasseh, unto the land of Gilead, and they spake with them, saying,
15 Daethant at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead a dweud wrthynt,
16Thus saith the whole congregation of the LORD, What trespass is this that ye have committed against the God of Israel, to turn away this day from following the LORD, in that ye have builded you an altar, that ye might rebel this day against the LORD?
16 "Y mae holl gynulleidfa'r ARGLWYDD yn gofyn, 'Beth yw'r brad hwn yr ydych wedi ei wneud yn erbyn Duw Israel trwy gefnu ar yr ARGLWYDD, ac adeiladu allor heddiw mewn gwrthryfel yn ei erbyn?
17Is the iniquity of Peor too little for us, from which we are not cleansed until this day, although there was a plague in the congregation of the LORD,
17 Onid oedd trosedd Peor yn ddigon inni? Nid ydym hyd heddiw yn l�n oddi wrtho, a bu'n achos pla ar gynulleidfa'r ARGLWYDD.
18But that ye must turn away this day from following the LORD? and it will be, seeing ye rebel to day against the LORD, that to morrow he will be wroth with the whole congregation of Israel.
18 Dyma chwi'n awr yn cefnu ar yr ARGLWYDD; ac os gwrthryfelwch yn ei erbyn ef heddiw, yna bydd ei ddicter yntau yn erbyn holl gynulleidfa Israel yfory.
19Notwithstanding, if the land of your possession be unclean, then pass ye over unto the land of the possession of the LORD, wherein the LORD's tabernacle dwelleth, and take possession among us: but rebel not against the LORD, nor rebel against us, in building you an altar beside the altar of the LORD our God.
19 Os yw'r wlad a feddiannwyd gennych yn aflan, dewch drosodd i wlad sydd ym meddiant yr ARGLWYDD, lle saif tabernacl yr ARGLWYDD, a derbyniwch ran yn ein plith ni. Peidiwch � gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, na ninnau, drwy adeiladu ichwi unrhyw allor ar wah�n i allor yr ARGLWYDD ein Duw.
20Did not Achan the son of Zerah commit a trespass in the accursed thing, and wrath fell on all the congregation of Israel? and that man perished not alone in his iniquity.
20 Pan droseddodd Achan fab Sera ynglu375?n �'r diofryd, oni ddaeth dicter ar holl gynulleidfa Israel? Ac er mai un oedd ef, nid un yn unig a drengodd am ei drosedd.'"
21Then the children of Reuben and the children of Gad and the half tribe of Manasseh answered, and said unto the heads of the thousands of Israel,
21 Atebodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse a dweud wrth benaethiaid tylwythau Israel,
22The LORD God of gods, the LORD God of gods, he knoweth, and Israel he shall know; if it be in rebellion, or if in transgression against the LORD, (save us not this day,)
22 "Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Fe u373?yr ef y gwir; bydded i Israel hefyd ei wybod. Os mewn gwrthryfel neu frad yn erbyn yr ARGLWYDD y gwnaed hyn, peidiwch �'n harbed ni heddiw.
23That we have built us an altar to turn from following the LORD, or if to offer thereon burnt offering or meat offering, or if to offer peace offerings thereon, let the LORD himself require it;
23 Os bu inni adeiladu allor i droi oddi wrth yr ARGLWYDD, ac i offrymu arni boethoffrymau a bwydoffrymau, neu i ddarparu heddoffrymau, bydded i'r ARGLWYDD ei hun ein dwyn i gyfrif.
24And if we have not rather done it for fear of this thing, saying, In time to come your children might speak unto our children, saying, What have ye to do with the LORD God of Israel?
24 Yn hytrach gwnaethom hyn rhag ofn i'ch plant chwi yn y dyfodol ddweud wrth ein plant ni, 'Beth sydd a wneloch chwi ag ARGLWYDD Dduw Israel?
25For the LORD hath made Jordan a border between us and you, ye children of Reuben and children of Gad; ye have no part in the LORD: so shall your children make our children cease from fearing the LORD.
25 Y mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Iorddonen yn ffin rhyngom ni a chwi, llwythau Reuben a Gad; nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD.' Yna gallai eich plant chwi rwystro'n plant ni rhag addoli'r ARGLWYDD.
26Therefore we said, Let us now prepare to build us an altar, not for burnt offering, nor for sacrifice:
26 Am hynny dywedasom, 'Awn ati i adeiladu allor, nid ar gyfer poethoffrwm nac aberth,
27But that it may be a witness between us, and you, and our generations after us, that we might do the service of the LORD before him with our burnt offerings, and with our sacrifices, and with our peace offerings; that your children may not say to our children in time to come, Ye have no part in the LORD.
27 ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein h�l, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD �'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, "Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD".'
28Therefore said we, that it shall be, when they should so say to us or to our generations in time to come, that we may say again, Behold the pattern of the altar of the LORD, which our fathers made, not for burnt offerings, nor for sacrifices; but it is a witness between us and you.
28 Yr oeddem yn meddwl, 'Petaent yn dweud hyn wrthym ac wrth ein plant yn y dyfodol, byddem ninnau'n dweud, "Edrychwch ar y copi o allor yr ARGLWYDD a wnaeth ein hynafiaid, nid ar gyfer poethoffrymau nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi".'
29God forbid that we should rebel against the LORD, and turn this day from following the LORD, to build an altar for burnt offerings, for meat offerings, or for sacrifices, beside the altar of the LORD our God that is before his tabernacle.
29 Pell y bo oddi wrthym ein bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a chefnu arno trwy godi unrhyw allor ar gyfer poethoffrwm neu fwydoffrwm neu aberth heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw sydd o flaen ei dabernacl."
30And when Phinehas the priest, and the princes of the congregation and heads of the thousands of Israel which were with him, heard the words that the children of Reuben and the children of Gad and the children of Manasseh spake, it pleased them.
30 Pan glywodd yr offeiriad Phinees, a phenaethiaid y gynulleidfa a phennau tylwythau Israel oedd gydag ef, yr hyn a ddywedodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, yr oeddent yn falch iawn.
31And Phinehas the son of Eleazar the priest said unto the children of Reuben, and to the children of Gad, and to the children of Manasseh, This day we perceive that the LORD is among us, because ye have not committed this trespass against the LORD: now ye have delivered the children of Israel out of the hand of the LORD.
31 Ac meddai Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, wrth y Reubeniaid, y Gadiaid a'r Manasseaid, "Yn awr fe wyddom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd nid ydych wedi gwneud y brad hwn yn erbyn yr ARGLWYDD, ond wedi gwaredu'r Israeliaid o'i law."
32And Phinehas the son of Eleazar the priest, and the princes, returned from the children of Reuben, and from the children of Gad, out of the land of Gilead, unto the land of Canaan, to the children of Israel, and brought them word again.
32 Yna dychwelodd Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, a'r penaethiaid oddi wrth y Reubeniaid a'r Gadiaid, a mynd yn �l i wlad Gilead at yr Israeliaid yng ngwlad Canaan, a rhoi adroddiad iddynt.
33And the thing pleased the children of Israel; and the children of Israel blessed God, and did not intend to go up against them in battle, to destroy the land wherein the children of Reuben and Gad dwelt.
33 Derbyniodd yr Israeliaid yr adroddiad yn llawen, a bendithio Duw. Ni bu rhagor o s�n am fynd i ryfel a difetha'r wlad lle'r oedd y Reubeniaid a'r Gadiaid yn byw.
34And the children of Reuben and the children of Gad called the altar Ed: for it shall be a witness between us that the LORD is God.
34 Rhoddodd y Reubeniaid a'r Gadiaid yr enw Tyst i'r allor. "Am ei bod," meddent, "yn dyst rhyngom mai'r ARGLWYDD sydd Dduw."