King James Version

Welsh

Joshua

8

1And the LORD said unto Joshua, Fear not, neither be thou dismayed: take all the people of war with thee, and arise, go up to Ai: see, I have given into thy hand the king of Ai, and his people, and his city, and his land:
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Paid ag ofni nac arswydo; cymer y rhyfelwyr i gyd gyda thi, a dos i fyny at Ai. Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy law frenin Ai gyda'i bobl, ei ddinas a'i dir.
2And thou shalt do to Ai and her king as thou didst unto Jericho and her king: only the spoil thereof, and the cattle thereof, shall ye take for a prey unto yourselves: lay thee an ambush for the city behind it.
2 Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas."
3So Joshua arose, and all the people of war, to go up against Ai: and Joshua chose out thirty thousand mighty men of valor, and sent them away by night.
3 Cychwynnodd Josua a'r holl fyddin i fyny yn erbyn Ai; a dewisodd Josua ddeng mil ar hugain o ryfelwyr dewr, a'u hanfon ymlaen liw nos.
4And he commanded them, saying, Behold, ye shall lie in wait against the city, even behind the city: go not very far from the city, but be ye all ready:
4 Yna gorchmynnodd iddynt fel hyn: "Edrychwch, yr ydych i guddio o olwg y ddinas, y tu cefn iddi; ond peidiwch � mynd yn rhy bell oddi wrthi, a byddwch i gyd yn barod.
5And I, and all the people that are with me, will approach unto the city: and it shall come to pass, when they come out against us, as at the first, that we will flee before them,
5 Byddaf fi a'r holl fyddin sydd gyda mi yn agos�u at y ddinas, a phan dd�nt allan i ymosod arnom fel y tro cyntaf, yna byddwn yn ffoi o'u blaen.
6(For they will come out after us) till we have drawn them from the city; for they will say, They flee before us, as at the first: therefore we will flee before them.
6 Fe dd�nt hwythau ar ein h�l nes inni eu denu hwy o'r ddinas, gan feddwl ein bod yn ffoi o'u blaen fel y gwnaethom y tro cynt.
7Then ye shall rise up from the ambush, and seize upon the city: for the LORD your God will deliver it into your hand.
7 Codwch chwithau o'ch cuddfan a meddiannu'r dref, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich llaw.
8And it shall be, when ye have taken the city, that ye shall set the city on fire: according to the commandment of the LORD shall ye do. See, I have commanded you.
8 Wedi ichwi oresgyn y dref, llosgwch hi � th�n. Gwnewch yn �l gair yr ARGLWYDD; edrychwch, dyma fy ngorchymyn i chwi."
9Joshua therefore sent them forth: and they went to lie in ambush, and abode between Bethel and Ai, on the west side of Ai: but Joshua lodged that night among the people.
9 Wedi i Josua eu hanfon ymaith, aethant i guddfan a'u gosod eu hunain rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o Ai. Treuliodd Josua'r noson honno gyda'r fyddin.
10And Joshua rose up early in the morning, and numbered the people, and went up, he and the elders of Israel, before the people to Ai.
10 Cododd Josua a'r henuriaid yn fore drannoeth a chynnull y fyddin a'i harwain tuag Ai.
11And all the people, even the people of war that were with him, went up, and drew nigh, and came before the city, and pitched on the north side of Ai: now there was a valley between them and Ai.
11 Aeth yr holl fyddin oedd gydag ef i fyny, a nes�u at ymyl y dref a gwersyllu i'r gogledd iddi, gyda dyffryn rhyngddynt hwy ac Ai.
12And he took about five thousand men, and set them to lie in ambush between Bethel and Ai, on the west side of the city.
12 Yr oedd wedi dewis tua phum mil o wu375?r ac wedi eu rhoi i guddio rhwng Bethel ac Ai i'r gorllewin o'r dref.
13And when they had set the people, even all the host that was on the north of the city, and their liers in wait on the west of the city, Joshua went that night into the midst of the valley.
13 Yr oedd crynswth y fyddin yn gwersyllu i'r gogledd o'r dref a'r milwyr cudd i'r gorllewin o'r dref; treuliodd Josua y noson honno ar lawr y dyffryn.
14And it came to pass, when the king of Ai saw it, that they hasted and rose up early, and the men of the city went out against Israel to battle, he and all his people, at a time appointed, before the plain; but he wist not that there were liers in ambush against him behind the city.
14 Pan welodd brenin Ai hwy, brysiodd ef a dynion y dref yn gynnar yn y bore i fynd allan gyda'r holl fyddin i gyfarfod Israel mewn brwydr ar lecyn yn wynebu'r Araba, heb wybod bod milwyr yn llechu y tu �l i'r dref.
15And Joshua and all Israel made as if they were beaten before them, and fled by the way of the wilderness.
15 Ffodd Josua a'r Israeliaid oll i gyfeiriad yr anialwch, fel pe baent wedi eu taro ganddynt.
16And all the people that were in Ai were called together to pursue after them: and they pursued after Joshua, and were drawn away from the city.
16 Galwyd yr holl bobl oedd yn y dref i ymlid ar eu h�l; ac wrth iddynt ymlid ar �l Josua, fe'u denwyd i ffwrdd o'r dref.
17And there was not a man left in Ai or Bethel, that went not out after Israel: and they left the city open, and pursued after Israel.
17 Nid oedd neb ar �l yn Ai na Bethel heb fynd allan ar �l Israel; gadawsant y dref yn benagored a mynd i ymlid yr Israeliaid.
18And the LORD said unto Joshua, Stretch out the spear that is in thy hand toward Ai; for I will give it into thine hand. And Joshua stretched out the spear that he had in his hand toward the city.
18 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag Ai, oherwydd yr wyf am roi'r dref yn dy law."
19And the ambush arose quickly out of their place, and they ran as soon as he had stretched out his hand: and they entered into the city, and took it, and hasted and set the city on fire.
19 Estynnodd Josua'r waywffon oedd yn ei law tua'r dref; ac fel yr estynnai ei law, cododd y milwyr cudd o'u lle ar unwaith, a rhuthro i mewn i'r dref a'i chipio, a llosgi'r dref heb oedi dim.
20And when the men of Ai looked behind them, they saw, and, behold, the smoke of the city ascended up to heaven, and they had no power to flee this way or that way: and the people that fled to the wilderness turned back upon the pursuers.
20 Pan drodd dynion Ai ac edrych yn eu h�l, gwelsant fwg y dref yn esgyn i'r awyr, ond ni allent ffoi nac yma nac acw, gan fod y fyddin a fu'n ffoi tua'r anialwch wedi troi i wynebu ei herlidwyr;
21And when Joshua and all Israel saw that the ambush had taken the city, and that the smoke of the city ascended, then they turned again, and slew the men of Ai.
21 oherwydd pan welodd Josua a holl Israel fod y milwyr cudd wedi cipio'r dref, a bod mwg yn codi ohoni, troesant yn eu h�l ac ymosod ar ddynion Ai.
22And the other issued out of the city against them; so they were in the midst of Israel, some on this side, and some on that side: and they smote them, so that they let none of them remain or escape.
22 Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc.
23And the king of Ai they took alive, and brought him to Joshua.
23 Daliwyd brenin Ai yn fyw, a daethant ag ef gerbron Josua.
24And it came to pass, when Israel had made an end of slaying all the inhabitants of Ai in the field, in the wilderness wherein they chased them, and when they were all fallen on the edge of the sword, until they were consumed, that all the Israelites returned unto Ai, and smote it with the edge of the sword.
24 Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo �'r cleddyf.
25And so it was, that all that fell that day, both of men and women, were twelve thousand, even all the men of Ai.
25 Nifer y rhai a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd deuddeng mil, yn wu375?r a gwragedd, sef holl boblogaeth Ai.
26For Joshua drew not his hand back, wherewith he stretched out the spear, until he had utterly destroyed all the inhabitants of Ai.
26 Ni thynnodd Josua'n �l y llaw oedd yn dal y waywffon nes difa holl drigolion Ai.
27Only the cattle and the spoil of that city Israel took for a prey unto themselves, according unto the word of the LORD which he commanded Joshua.
27 Dim ond y gwartheg ac anrhaith y dref a gymerodd yr Israeliaid yn ysbail iddynt eu hunain, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua.
28And Joshua burnt Ai, and made it an heap for ever, even a desolation unto this day.
28 Llosgodd Josua Ai a'i gadael yn domen barhaol a erys yn ddiffaith hyd heddiw.
29And the king of Ai he hanged on a tree until eventide: and as soon as the sun was down, Joshua commanded that they should take his carcass down from the tree, and cast it at the entering of the gate of the city, and raise thereon a great heap of stones, that remaineth unto this day.
29 Crogodd frenin Ai ar grocbren hyd yr hwyr, ac ar fachlud yr haul gorchmynnodd Josua iddynt dynnu ei gorff i lawr o'r crocbren a'i daflu ger y fynedfa i'r dref; codwyd carnedd fawr o gerrig drosto, sydd yno hyd heddiw.
30Then Joshua built an altar unto the LORD God of Israel in mount Ebal,
30 Yna cododd Josua allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ym Mynydd Ebal.
31As Moses the servant of the LORD commanded the children of Israel, as it is written in the book of the law of Moses, an altar of whole stones, over which no man hath lift up any iron: and they offered thereon burnt offerings unto the LORD, and sacrificed peace offerings.
31 Fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r Israeliaid, ac fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yr oedd yr allor wedi ei hadeiladu o gerrig heb eu naddu na'u trin � haearn. Ac offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau.
32And he wrote there upon the stones a copy of the law of Moses, which he wrote in the presence of the children of Israel.
32 Yno yng ngu373?ydd yr Israeliaid ysgrifennodd ar feini gopi o gyfraith Moses.
33And all Israel, and their elders, and officers, and their judges, stood on this side the ark and on that side before the priests the Levites, which bare the ark of the covenant of the LORD, as well the stranger, as he that was born among them; half of them over against mount Gerizim, and half of them over against mount Ebal; as Moses the servant of the LORD had commanded before, that they should bless the people of Israel.
33 Yr oedd Israel gyfan � ei henuriaid, ei swyddogion, a'i barnwyr � yn sefyll o boptu'r arch, gerbron yr offeiriaid, sef y Lefiaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD. Yr oedd estron a brodor fel ei gilydd yno, hanner ohonynt ar bwys Mynydd Garisim, a hanner ar bwys Mynydd Ebal, fel yr oedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn yn y dechrau ar gyfer bendithio pobl Israel.
34And afterward he read all the words of the law, the blessings and cursings, according to all that is written in the book of the law.
34 Wedi hynny darllenodd Josua holl eiriau'r gyfraith, y fendith a'r felltith, fel sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
35There was not a word of all that Moses commanded, which Joshua read not before all the congregation of Israel, with the women, and the little ones, and the strangers that were conversant among them.
35 Ni adawodd Josua air o'r cyfan a orchmynnodd Moses heb ei ddarllen gerbron holl gynulleidfa Israel, gan gynnwys y gwragedd a'r plant a'r estron oedd yn aros yn eu mysg.