King James Version

Welsh

Romans

4

1What shall we say then that Abraham our father, as pertaining to the flesh, hath found?
1 Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef?
2For if Abraham were justified by works, he hath whereof to glory; but not before God.
2 Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim.
3For what saith the scripture? Abraham believed God, and it was counted unto him for righteousness.
3 Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? "Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder."
4Now to him that worketh is the reward not reckoned of grace, but of debt.
4 Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y t�l, ond fel peth sy'n ddyledus.
5But to him that worketh not, but believeth on him that justifieth the ungodly, his faith is counted for righteousness.
5 Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder.
6Even as David also describeth the blessedness of the man, unto whom God imputeth righteousness without works,
6 Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith:
7Saying, Blessed are they whose iniquities are forgiven, and whose sins are covered.
7 "Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau;
8Blessed is the man to whom the Lord will not impute sin.
8 gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn."
9Cometh this blessedness then upon the circumcision only, or upon the uncircumcision also? for we say that faith was reckoned to Abraham for righteousness.
9 Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, "cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder".
10How was it then reckoned? when he was in circumcision, or in uncircumcision? Not in circumcision, but in uncircumcision.
10 Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar �l enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei �l.
11And he received the sign of circumcision, a seal of the righteousness of the faith which he had yet being uncircumcised: that he might be the father of all them that believe, though they be not circumcised; that righteousness might be imputed unto them also:
11 Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn s�l o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt.
12And the father of circumcision to them who are not of the circumcision only, but who also walk in the steps of that faith of our father Abraham, which he had being yet uncircumcised.
12 Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.
13For the promise, that he should be the heir of the world, was not to Abraham, or to his seed, through the law, but through the righteousness of faith.
13 Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.
14For if they which are of the law be heirs, faith is made void, and the promise made of none effect:
14 Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn �l y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid.
15Because the law worketh wrath: for where no law is, there is no transgression.
15 Digofaint yw cynnyrch y Gyfraith, ond lle nad oes cyfraith, nid oes trosedd yn ei herbyn chwaith.
16Therefore it is of faith, that it might be by grace; to the end the promise might be sure to all the seed; not to that only which is of the law, but to that also which is of the faith of Abraham; who is the father of us all,
16 Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn �l gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn �l y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn �l ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd;
17(As it is written, I have made thee a father of many nations,) before him whom he believed, even God, who quickeneth the dead, and calleth those things which be not as though they were.
17 fel y mae'n ysgrifenedig: "Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer." Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod.
18Who against hope believed in hope, that he might become the father of many nations, according to that which was spoken, So shall thy seed be.
18 A'r credu hwn, � gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn �l yr hyn a lefarwyd: "Felly y bydd dy ddisgynyddion."
19And being not weak in faith, he considered not his own body now dead, when he was about an hundred years old, neither yet the deadness of Sarah's womb:
19 Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara.
20He staggered not at the promise of God through unbelief; but was strong in faith, giving glory to God;
20 Nid amheuodd ddim ynglu375?n ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw,
21And being fully persuaded that, what he had promised, he was able also to perform.
21 yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo.
22And therefore it was imputed to him for righteousness.
22 Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder.
23Now it was not written for his sake alone, that it was imputed to him;
23 Ond ysgrifennwyd y geiriau, "fe'i cyfrifwyd iddo", nid ar gyfer Abraham yn unig,
24But for us also, to whom it shall be imputed, if we believe on him that raised up Jesus our Lord from the dead;
24 ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd � ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw.
25Who was delivered for our offences, and was raised again for our justification.
25 Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.