1Paul, a servant of God, and an apostle of Jesus Christ, according to the faith of God's elect, and the acknowledging of the truth which is after godliness;
1 Paul, gwas Duw ac apostol Iesu Grist, sy'n ysgrifennu, yn unol � ffydd etholedigion Duw, a gwybodaeth o'r gwirionedd sy'n gyson �'n crefydd ni,
2In hope of eternal life, which God, that cannot lie, promised before the world began;
2 yn seiliedig yn y gobaith am fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau'r oesoedd,
3But hath in due times manifested his word through preaching, which is committed unto me according to the commandment of God our Saviour;
3 ac ef hefyd yn ei amser ei hun a ddatguddiodd ei air yn y neges a bregethir. Ymddiriedwyd y neges hon i mi ar orchymyn Duw, ein Gwaredwr.
4To Titus, mine own son after the common faith: Grace, mercy, and peace, from God the Father and the Lord Jesus Christ our Saviour.
4 Yr wyf yn cyfarch Titus, fy mhlentyn diledryw yn y ffydd sy'n gyffredin inni. Gras a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Gwaredwr.
5For this cause left I thee in Crete, that thou shouldest set in order the things that are wanting, and ordain elders in every city, as I had appointed thee:
5 Fy mwriad wrth dy adael ar �l yn Creta oedd iti gael trefn ar y pethau oedd yn aros heb eu gwneud, a sefydlu henuriaid ym mhob tref yn �l fy nghyfarwyddyd iti:
6If any be blameless, the husband of one wife, having faithful children not accused of riot or unruly.
6 rhaid i henuriad fod yn ddi-fai, yn u373?r i un wraig, a'i blant yn gredinwyr, heb fod wedi eu cyhuddo o afradlonedd nac yn afreolus.
7For a bishop must be blameless, as the steward of God; not selfwilled, not soon angry, not given to wine, no striker, not given to filthy lucre;
7 Oherwydd rhaid i arolygydd fod yn ddi-fai, ac yntau yn oruchwyliwr yng ngwasanaeth Duw. Rhaid iddo beidio � bod yn drahaus, nac yn fyr ei dymer, nac yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro, nac yn un sy'n chwennych elw anonest,
8But a lover of hospitality, a lover of good men, sober, just, holy, temperate;
8 ond yn lletygar, ac yn caru daioni, yn ddisgybledig, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno'i hun.
9Holding fast the faithful word as he hath been taught, that he may be able by sound doctrine both to exhort and to convince the gainsayers.
9 Dylai ddal ei afael yn dynn yn y gair sydd i'w gredu ac sy'n gyson �'r hyn a ddysgir, er mwyn iddo fedru annog eraill �'i athrawiaeth iach, a gwrthbrofi cyfeiliornad ei wrthwynebwyr.
10For there are many unruly and vain talkers and deceivers, specially they of the circumcision:
10 Oherwydd y mae llawer, ac yn arbennig y credinwyr Iddewig, yn afreolus, ac yn twyllo dynion �'u dadleuon diffaith;
11Whose mouths must be stopped, who subvert whole houses, teaching things which they ought not, for filthy lucre's sake.
11 ac fe ddylid rhoi taw arnynt. Pobl ydynt sydd yn tanseilio teuluoedd cyfan drwy ddysgu iddynt bethau na ddylent eu dysgu, a hynny er mwyn elw anonest.
12One of themselves, even a prophet of their own, said, The Cretians are alway liars, evil beasts, slow bellies.
12 Dywedodd un ohonynt, un o'u proffwydi hwy eu hunain: "Celwyddgwn fu'r Cretiaid erioed, anifeiliaid anwar, bolrwth a diog."
13This witness is true. Wherefore rebuke them sharply, that they may be sound in the faith;
13 Y mae'r dystiolaeth hon yn wir. Am hynny, cerydda hwy'n ddidostur, er mwyn eu cael yn iach yn y ffydd
14Not giving heed to Jewish fables, and commandments of men, that turn from the truth.
14 yn lle bod �'u bryd ar chwedlau Iddewig a gorchmynion pobl sy'n troi cefn ar y gwirionedd.
15Unto the pure all things are pure: but unto them that are defiled and unbelieving is nothing pure; but even their mind and conscience is defiled.
15 I'r pur, y mae pob peth yn bur; ond i'r rhai llygredig a di-gred, nid oes dim yn bur; y mae eu deall a'u cydwybod wedi eu llygru.
16They profess that they know God; but in works they deny him, being abominable, and disobedient, and unto every good work reprobate.
16 Y maent yn proffesu eu bod yn adnabod Duw, ond ei wadu y maent �'u gweithredoedd. Y maent yn ffiaidd ac yn anufudd, ac yn anghymwys i unrhyw weithred dda.