1On my charge I stand, and I station myself on a bulwark, and I watch to see what He doth speak against me, and what I do reply to my reproof.
1 Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tu373?r; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i'm cwyn.
2And Jehovah answereth me and saith: `Write a vision, and explain on the tables, That he may run who is reading it.
2 Atebodd yr ARGLWYDD fi: "Ysgrifenna'r weledigaeth, a gwna hi'n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg;
3For yet the vision [is] for a season, And it breatheth for the end, and doth not lie, If it tarry, wait for it, For surely it cometh, it is not late.
3 oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser � daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
4Lo, a presumptuous one! Not upright is his soul within him, And the righteous by his stedfastness liveth.
4 Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid, ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb."
5And also, because the wine [is] treacherous, A man is haughty, and remaineth not at home, Who hath enlarged as sheol his soul, And is as death that is not satisfied, And doth gather unto itself all the nations, And doth assemble unto itself all the peoples,
5 Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal; y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol, ac fel marwolaeth yn anniwall, yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun ac yn cynnull ato'r holl bobloedd.
6Do not these — all of them — against him a simile taken up, And a moral of acute sayings for him, And say, Wo [to] him who is multiplying [what is] not his? Till when also is he multiplying to himself heavy pledges?
6 Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn, ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud, "Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo, ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr."
7Do not thy usurers instantly rise up, And those shaking thee awake up, And thou hast been for a spoil to them?
7 Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn, ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn, a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?
8Because thou hast spoiled many nations, Spoil thee do all the remnant of the peoples, Because of man`s blood, and of violence [to] the land, [To] the city, and [to] all dwelling in it.
8 Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer, bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion.
9Wo [to] him who is gaining evil gain for his house, To set on high his nest, To be delivered from the hand of evil,
9 Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant, er mwyn gosod ei nyth yn uchel, a'i waredu ei hun o afael blinder.
10Thou hast counselled a shameful thing to thy house, To cut off many peoples, and sinful [is] thy soul.
10 Cynlluniaist warth i'th du375? dy hun trwy dorri ymaith bobloedd lawer, a pheryglaist dy einioes dy hun.
11For a stone from the wall doth cry out, And a holdfast from the wood answereth it.
11 Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur, ac etyb trawst o'r gwaith coed.
12Wo [to] him who is building a city by blood, And establishing a city by iniquity.
12 Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed, ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.
13Lo, is it not from Jehovah of Hosts And peoples are fatigued for fire, And nations for vanity are weary?
13 Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y daw hyn: fod pobloedd yn llafurio i ddim ond t�n, a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?
14For full is the earth of the knowledge of the honour of Jehovah, As waters cover [the bottom of] a sea.
14 Oherwydd llenwir y ddaear � gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD, fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r m�r.
15Wo [to] him who is giving drink to his neighbour, Pouring out thy bottle, and also making drunk, In order to look on their nakedness.
15 Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid, ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.
16Thou hast been filled — shame without honour, Drink thou also, and be uncircumcised, Turn round unto thee doth the cup of the right hand of Jehovah, And shameful spewing [is] on thine honour.
16 Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant. Yf dithau nes y byddi'n simsan. Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD, a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.
17For violence [to] Lebanon doth cover thee, And spoil of beasts doth affright them, Because of man`s blood, and of violence [to] the land, [To] the city, and [to] all dwelling in it.
17 Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn, a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion.
18What profit hath a graven image given That its former hath graven it? A molten image and teacher of falsehood, That trusted hath the former on his own formation — to make dumb idols?
18 Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd? Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd. Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith, nid yw'n gwneud ond delwau mud.
19Wo [to] him who is saying to wood, `Awake,` `Stir up,` to a dumb stone, It a teacher! lo, it is overlaid — gold and silver, And there is no spirit in its midst.
19 Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, "Deffro", ac wrth garreg fud, "Ymysgwyd". Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian, ond nid oes dim anadl ynddo.
20And Jehovah [is] in His holy temple, Be silent before Him, all the earth!
20 Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd; bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.