Young`s Literal Translation

Welsh

Matthew

5

1And having seen the multitudes, he went up to the mount, and he having sat down, his disciples came to him,
1 Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.
2and having opened his mouth, he was teaching them, saying:
2 Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:
3`Happy the poor in spirit — because theirs is the reign of the heavens.
3 "Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
4`Happy the mourning — because they shall be comforted.
4 Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru, oherwydd c�nt hwy eu cysuro.
5`Happy the meek — because they shall inherit the land.
5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd c�nt hwy etifeddu'r ddaear.
6`Happy those hungering and thirsting for righteousness — because they shall be filled.
6 Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd c�nt hwy eu digon.
7`Happy the kind — because they shall find kindness.
7 Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd c�nt hwy dderbyn trugaredd.
8`Happy the clean in heart — because they shall see God.
8 Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd c�nt hwy weld Duw.
9`Happy the peacemakers — because they shall be called Sons of God.
9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd c�nt hwy eu galw'n blant i Dduw.
10`Happy those persecuted for righteousness` sake — because theirs is the reign of the heavens.
10 Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
11`Happy are ye whenever they may reproach you, and may persecute, and may say any evil thing against you falsely for my sake —
11 Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a'ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o'm hachos i.
12rejoice ye and be glad, because your reward [is] great in the heavens, for thus did they persecute the prophets who were before you.
12 Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o'ch blaen chwi.
13`Ye are the salt of the land, but if the salt may lose savour, in what shall it be salted? for nothing is it good henceforth, except to be cast without, and to be trodden down by men.
13 "Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei flas, � pha beth yr helltir ef? Nid yw'n dda i ddim bellach ond i'w luchio allan a'i sathru dan draed pobl.
14`Ye are the light of the world, a city set upon a mount is not able to be hid;
14 Chwi yw goleuni'r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn.
15nor do they light a lamp, and put it under the measure, but on the lamp-stand, and it shineth to all those in the house;
15 Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll a'i rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tu375?.
16so let your light shine before men, that they may see your good works, and may glorify your Father who [is] in the heavens.
16 Felly boed i'ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
17`Do not suppose that I came to throw down the law or the prophets — I did not come to throw down, but to fulfill;
17 "Peidiwch � thybio i mi ddod i ddileu'r Gyfraith na'r proffwydi; ni ddeuthum i ddileu ond i gyflawni.
18for, verily I say to you, till that the heaven and the earth may pass away, one iota or one tittle may not pass away from the law, till that all may come to pass.
18 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, hyd nes i nef a daear ddarfod, ni dderfydd yr un llythyren na'r un manylyn lleiaf o'r Gyfraith nes i'r cwbl ddigwydd.
19`Whoever therefore may loose one of these commands — the least — and may teach men so, least he shall be called in the reign of the heavens, but whoever may do and may teach [them], he shall be called great in the reign of the heavens.
19 Am hynny pwy bynnag fydd yn dirymu un o'r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu i eraill wneud felly, gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a'i ceidw ac a'i dysg i eraill, gelwir hwnnw'n fawr yn nheyrnas nefoedd.
20`For I say to you, that if your righteousness may not abound above that of the scribes and Pharisees, ye may not enter to the reign of the heavens.
20 'Rwy'n dweud wrthych, oni fydd eich cyfiawnder chwi yn rhagori llawer ar eiddo'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
21`Ye heard that it was said to the ancients: Thou shalt not kill, and whoever may kill shall be in danger of the judgment;
21 "Clywsoch fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, 'Na ladd; pwy bynnag sy'n lladd, bydd yn atebol i farn.'
22but I — I say to you, that every one who is angry at his brother without cause, shall be in danger of the judgment, and whoever may say to his brother, Empty fellow! shall be in danger of the sanhedrim, and whoever may say, Rebel! shall be in danger of the gehenna of the fire.
22 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, 'Y ffu373?l', bydd yn ateb am hynny yn nh�n uffern.
23`If, therefore, thou mayest bring thy gift to the altar, and there mayest remember that thy brother hath anything against thee,
23 Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno'n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn,
24leave there thy gift before the altar, and go — first be reconciled to thy brother, and then having come bring thy gift.
24 gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf �'th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm.
25`Be agreeing with thy opponent quickly, while thou art in the way with him, that the opponent may not deliver thee to the judge, and the judge may deliver thee to the officer, and to prison thou mayest be cast,
25 Os bydd rhywun yn dy gymryd i'r llys, bydd barod i ddod i gytundeb buan tra byddwch ar y ffordd yno, rhag i'th wrthwynebydd dy draddodi i'r barnwr, ac i'r barnwr dy roi i'r swyddog, ac i ti gael dy fwrw i garchar.
26verily I say to thee, thou mayest not come forth thence till that thou mayest pay the last farthing.
26 Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n �l y geiniog olaf.
27`Ye heard that it was said to the ancients: Thou shalt not commit adultery;
27 "Clywsoch fel y dywedwyd, 'Na odineba.'
28but I — I say to you, that every one who is looking on a woman to desire her, did already commit adultery with her in his heart.
28 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb � hi yn ei galon.
29`But, if thy right eye doth cause thee to stumble, pluck it out and cast from thee, for it is good to thee that one of thy members may perish, and not thy whole body be cast to gehenna.
29 Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern.
30`And, if thy right hand doth cause thee to stumble, cut it off, and cast from thee, for it is good to thee that one of thy members may perish, and not thy whole body be cast to gehenna.
30 Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
31`And it was said, That whoever may put away his wife, let him give to her a writing of divorce;
31 "Dywedwyd hefyd, 'Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.'
32but I — I say to you, that whoever may put away his wife, save for the matter of whoredom, doth make her to commit adultery; and whoever may marry her who hath been put away doth commit adultery.
32 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wah�n i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.
33`Again, ye heard that it was said to the ancients: Thou shalt not swear falsely, but thou shalt pay to the Lord thine oaths;
33 "Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, 'Na thynga lw twyllodrus', a 'Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.'
34but I — I say to you, not to swear at all; neither by the heaven, because it is the throne of God,
34 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch � thyngu llw o gwbl; nac i'r nef, gan mai gorsedd Duw ydyw;
35nor by the earth, because it is His footstool, nor by Jerusalem, because it is a city of a great king,
35 nac i'r ddaear, gan mai ei droedfainc ef ydyw; nac i Jerwsalem, gan mai dinas y Brenin mawr ydyw.
36nor by thy head mayest thou swear, because thou art not able one hair to make white or black;
36 Paid � thyngu chwaith i'th ben, oherwydd ni elli wneud un blewyn yn wyn nac yn ddu.
37but let your word be, Yes, Yes, No, No, and that which is more than these is of the evil.
37 Ond boed eich 'ie' yn 'ie', a'ch 'nage' yn 'nage'; beth bynnag sy'n ychwanegol at hyn o'r Un drwg y mae.
38`Ye heard that it was said: Eye for eye, and tooth for tooth;
38 "Clywsoch fel y dywedwyd, 'Llygad am lygad, a dant am ddant.'
39but I — I say to you, not to resist the evil, but whoever shall slap thee on thy right cheek, turn to him also the other;
39 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch � gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.
40and whoever is willing to take thee to law, and thy coat to take — suffer to him also the cloak.
40 Ac os bydd rhywun am fynd � thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.
41`And whoever shall impress thee one mile, go with him two,
41 Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddwy.
42to him who is asking of thee be giving, and him who is willing to borrow from thee thou mayest not turn away.
42 Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid � throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.
43`Ye heard that it was said: Thou shalt love thy neighbor, and shalt hate thine enemy;
43 "Clywsoch fel y dywedwyd, 'C�r dy gymydog, a chas� dy elyn.'
44but I — I say to you, Love your enemies, bless those cursing you, do good to those hating you, and pray for those accusing you falsely, and persecuting you,
44 Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gwedd�wch dros y rhai sy'n eich erlid;
45that ye may be sons of your Father in the heavens, because His sun He doth cause to rise on evil and good, and He doth send rain on righteous and unrighteous.
45 felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn.
46`For, if ye may love those loving you, what reward have ye? do not also the tax-gatherers the same?
46 Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint � hynny?
47and if ye may salute your brethren only, what do ye abundant? do not also the tax-gatherers so?
47 Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint � hynny?
48ye shall therefore be perfect, as your Father who [is] in the heavens is perfect.
48 Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.