1To the Overseer. — A Psalm of David. I have diligently expected Jehovah, And He inclineth to me, and heareth my cry,
1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.0 B�m yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.
2And He doth cause me to come up From a pit of desolation — from mire of mud, And He raiseth up on a rock my feet, He is establishing my steps.
2 Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel.
3And He putteth in my mouth a new song, `Praise to our God.` Many do see and fear, and trust in Jehovah.
3 Rhoddodd yn fy ngenau g�n newydd, c�n o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
4O the happiness of the man Who hath made Jehovah his trust, And hath not turned unto the proud, And those turning aside to lies.
4 Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
5Much hast Thou done, Jehovah my God; Thy wonders and Thy thoughts toward us, There is none to arrange unto Thee, I declare and speak: They have been more than to be numbered.
5 Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.
6Sacrifice and present Thou hast not desired, Ears Thou hast prepared for me, Burnt and sin-offering Thou hast not asked.
6 Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm � rhoddaist imi glustiau agored � ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.
7Then said I, `Lo, I have come,` In the roll of the book it is written of me,
7 Felly dywedais, "Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf
8To do Thy pleasure, my God, I have delighted, And Thy law [is] within my heart.
8 fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon."
9I have proclaimed tidings of righteousness In the great assembly, lo, my lips I restrain not, O Jehovah, Thou hast known.
9 B�m yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD.
10Thy righteousness I have not concealed In the midst of my heart, Thy faithfulness and Thy salvation I have told, I have not hidden Thy kindness and Thy truth, To the great assembly.
10 Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr.
11Thou, O Jehovah, restrainest not Thy mercies from me, Thy kindness and Thy truth do continually keep me.
11 Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser.
12For compassed me have evils innumerable, Overtaken me have mine iniquities, And I have not been able to see; They have been more than the hairs of my head, And my heart hath forsaken me.
12 Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo.
13Be pleased, O Jehovah, to deliver me, O Jehovah, for my help make haste.
13 Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
14They are ashamed and confounded together, Who are seeking my soul to destroy it, They are turned backward, And are ashamed, who are desiring my evil.
14 Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
15They are desolate because of their shame, Who are saying to me, `Aha, aha.`
15 Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, "Aha! Aha!" arnaf gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.
16All seeking Thee rejoice and are glad in Thee, Those loving Thy salvation say continually, `Jehovah is magnified.`
16 Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, "Mawr yw'r ARGLWYDD."
17And I [am] poor and needy, The Lord doth devise for me. My help and my deliverer [art] Thou, O my God, tarry Thou not.
17 Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!