American Standard Version

Welsh

1 Corinthians

11

1Be ye imitators of me, even as I also am of Christ.
1 Byddwch yn efelychwyr ohonof fi, fel yr wyf finnau o Grist.
2Now I praise you that ye remember me in all things, and hold fast the traditions, even as I delivered them to you.
2 Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.
3But I would have you know, that the head of every man is Christ; and the head of the woman is the man; and the head of Christ is God.
3 Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gu373?r yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gu373?r, ac mai pen Crist yw Duw.
4Every man praying or prophesying, having his head covered, dishonoreth his head.
4 Y mae pob gu373?r sy'n gwedd�o neu'n proffwydo � rhywbeth am ei ben yn gwaradwyddo'i ben.
5But every woman praying or prophesying with her head unveiled dishonoreth her head; for it is one and the same thing as if she were shaven.
5 Ond y mae pob gwraig sy'n gwedd�o neu'n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo'i phen; y mae hi'n union fel merch sydd wedi ei heillio.
6For if a woman is not veiled, let her also be shorn: but if it is a shame to a woman to be shorn or shaven, let her be veiled.
6 Oherwydd os yw gwraig heb orchuddio'i phen, yna fe ddylai hi dorri ei gwallt yn llwyr. Ond os yw'n waradwydd i wraig dorri ei gwallt neu eillio ei phen, fe ddylai hi wisgo gorchudd.
7For a man indeed ought not to have his head veiled, forasmuch as he is the image and glory of God: but the woman is the glory of the man.
7 Ni ddylai gu373?r orchuddio'i ben, ac yntau ar ddelw Duw ac yn ddrych o'i ogoniant ef. Ond drych o ogoniant y gu373?r yw'r wraig.
8For the man is not of the woman; but the woman of the man:
8 Oherwydd nid y gu373?r a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gu373?r.
9for neither was the man created for the woman; but the woman for the man:
9 Ac ni chrewyd y gu373?r er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gu373?r.
10for this cause ought the woman to have [a sign of] authority on her head, because of the angels.
10 Am hynny, dylai'r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion.
11Nevertheless, neither is the woman without the man, nor the man without the woman, in the Lord.
11 Beth bynnag am hynny, yn yr Arglwydd y mae'r gu373?r yn angenrheidiol i'r wraig a'r wraig yn angenrheidiol i'r gu373?r.
12For as the woman is of the man, so is the man also by the woman; but all things are of God.
12 Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gu373?r, felly hefyd y daw'r gu373?r drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.
13Judge ye in yourselves: is it seemly that a woman pray unto God unveiled?
13 Barnwch drosoch eich hunain: a yw'n weddus i wraig wedd�o ar Dduw heb orchudd ar ei phen?
14Doth not even nature itself teach you, that, if a man have long hair, it is a dishonor to him?
14 Onid yw natur ei hun yn eich dysgu mai anfri yw i ddyn dyfu ei wallt yn hir,
15But if a woman have long hair, it is a glory to her: for her hair is given her for a covering.
15 ond mai gogoniant gwraig yw tyfu ei gwallt hi'n hir? Oherwydd rhoddwyd ei gwallt iddi hi i fod yn fantell iddi.
16But if any man seemeth to be contentious, we have no such custom, neither the churches of God.
16 Ond os myn neb fod yn gecrus, nid oes gennym ni unrhyw arfer o'r fath, na chan eglwysi Duw chwaith.
17But in giving you this charge, I praise you not, that ye come together not for the better but for the worse.
17 Ond wrth eich cyfarwyddo, dyma rywbeth nad wyf yn ei ganmol ynoch, eich bod yn ymgynnull, nid er gwell, ond er gwaeth.
18For first of all, when ye come together in the church, I hear that divisions exist among you; and I partly believe it.
18 Yn gyntaf, pan fyddwch yn ymgynnull fel eglwys, yr wyf yn clywed bod ymraniadau yn eich plith, ac rwy'n credu bod peth gwir yn hyn.
19For there must be also factions among you, that they that are approved may be made manifest among you.
19 Oherwydd y mae pleidiau yn eich plith yn anghenraid, er mwyn i'r rhai dilys yn eich mysg ddod i'r golwg.
20When therefore ye assemble yourselves together, it is not possible to eat the Lord's supper:
20 Felly, pan fyddwch yn ymgynnull, nid swper yr Arglwydd y byddwch yn ei fwyta,
21for in your eating each one taketh before [other] his own supper; and one is hungry, and another is drunken.
21 oherwydd yn y bwyta y mae pob un yn rhuthro i gymryd ei swper ei hun, ac y mae eisiau bwyd ar un, ac un arall yn feddw.
22What, have ye not houses to eat and to drink in? or despise ye the church of God, and put them to shame that have not? What shall I say to you? shall I praise you? In this I praise you not.
22 Onid oes gennych dai i fwyta ac yfed ynddynt? Neu a ydych yn mynnu dirmygu eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai sydd heb ddim? Beth a ddywedaf wrthych? A wyf i'ch canmol? Yn hyn o beth, nid wyf yn eich canmol.
23For I received of the Lord that which also I delivered unto you, that the Lord Jesus in the night in which he was betrayed took bread;
23 Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara;
24and when he had given thanks, he brake it, and said, This is my body, which is for you: this do in remembrance of me.
24 ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, "Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf."
25In like manner also the cup, after supper, saying, This cup is the new covenant in my blood: this do, as often as ye drink [it], in remembrance of me.
25 Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar �l swper, gan ddweud, "Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf."
26For as often as ye eat this bread, and drink the cup, ye proclaim the Lord's death till he come.
26 Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.
27Wherefore whosoever shall eat the bread or drink the cup of the Lord in an unworthy manner, shall be guilty of the body and the blood of the Lord.
27 Felly, pwy bynnag fydd yn bwyta'r bara neu'n yfed cwpan yr Arglwydd yn annheilwng, bydd yn euog o drosedd yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.
28But let a man prove himself, and so let him eat of the bread, and drink of the cup.
28 Bydded i bob un ei holi ei hunan, ac felly bwyta o'r bara ac yfed o'r cwpan.
29For he that eateth and drinketh, eateth and drinketh judgment unto himself, if he discern not the body.
29 Oherwydd y mae'r sawl sydd yn bwyta ac yn yfed, os nad yw'n dirnad y corff, yn bwyta ac yn yfed barn arno'i hun.
30For this cause many among you are weak and sickly, and not a few sleep.
30 Dyna pam y mae llawer yn eich plith yn wan ac yn glaf, a chryn nifer wedi marw.
31But if we discerned ourselves, we should not be judged.
31 Ond pe baem yn ein barnu ein hunain yn iawn, ni fyddem yn dod dan farn.
32But when we are judged, we are chastened of the Lord, that we may not be condemned with the world.
32 Ond pan fernir ni gan yr Arglwydd, cael ein disgyblu yr ydym, rhag i ni gael ein condemnio gyda'r byd.
33Wherefore, my brethren, when ye come together to eat, wait one for another.
33 Felly, fy nghyfeillion, pan fyddwch yn ymgynnull i fwyta, arhoswch am eich gilydd.
34If any man is hungry, let him eat at home; that your coming together be not unto judgment. And the rest will I set in order whensoever I come.
34 Os bydd ar rywun eisiau bwyd, dylai fwyta gartref, rhag i'ch ymgynulliad arwain i farn arnoch. Ond am y pethau eraill, caf roi trefn arnynt pan ddof atoch.