1This is now, beloved, the second epistle that I write unto you; and in both of them I stir up your sincere mind by putting you in remembrance;
1 Bellach, gyfeillion annwyl, dyma'r ail lythyr imi ei ysgrifennu atoch. Yn y ddau ohonynt, yr wyf yn ceisio deffro dealltwriaeth ddilychwin ynoch trwy eich atgoffa am y pethau hyn.
2that ye should remember the words which were spoken before by the holy prophets, and the commandments of the Lord and Saviour through your apostles:
2 Yr wyf am ichwi gofio'r pethau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Gwaredwr, a roddwyd trwy eich apostolion.
3knowing this first, that in the last days mockers shall come with mockery, walking after their own lusts,
3 Deallwch hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr sy'n byw yn �l eu chwantau eu hunain,
4and saying, Where is the promise of his coming? for, from the day that the fathers fell asleep, all things continue as they were from the beginning of the creation.
4 ac yn holi'n goeglyd: "Beth a ddaeth o'r addewid am ei ddyfodiad ef? Oherwydd, byth er pan hunodd yr hynafiaid, y mae popeth wedi parhau yn union fel y bu o ddechreuad y greadigaeth."
5For this they willfully forget, that there were heavens from of old, and an earth compacted out of water and amidst water, by the word of God;
5 Y maent yn fwriadol yn anwybyddu'r ffaith hon, fod y nefoedd yn bod erstalwm, a'r ddaear wedi ei llunio o ddu373?r a thrwy ddu373?r gan air Duw;
6by which means the world that then was, being overflowed with water, perished:
6 a thrwy ddu373?r y dinistriwyd byd yr oes honno, sef du373?r y dilyw.
7but the heavens that now are, and the earth, by the same word have been stored up for fire, being reserved against the day of judgment and destruction of ungodly men.
7 Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn st�r ar gyfer y t�n; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol.
8But forget not this one thing, beloved, that one day is with the Lord as a thousand years, and a thousand years as one day.
8 Gyfeillion annwyl, peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod.
9The Lord is not slack concerning his promise, as some count slackness; but is longsuffering to you-ward, not wishing that any should perish, but that all should come to repentance.
9 Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch.
10But the day of the Lord will come as a thief; in the which the heavens shall pass away with a great noise, and the elements shall be dissolved with fervent heat, and the earth and the works that are therein shall be burned up.
10 Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu � thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio � bod.
11Seeing that these things are thus all to be dissolved, what manner of persons ought ye to be in [all] holy living and godliness,
11 Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod,
12looking for and earnestly desiring the coming of the day of God, by reason of which the heavens being on fire shall be dissolved, and the elements shall melt with fervent heat?
12 a chwithau'n disgwyl am Ddydd Duw ac yn prysuro ei ddyfodiad, y Dydd pan ddatodir y nefoedd gan d�n ac y toddir yr elfennau gan wres.
13But, according to his promise, we look for new heavens and a new earth, wherein dwelleth righteousness.
13 Ond disgwyl yr ydym ni, yn �l ei addewid ef, am nefoedd newydd a daear newydd, lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.
14Wherefore, beloved, seeing that ye look for these things, give diligence that ye may be found in peace, without spot and blameless in his sight.
14 Felly, gyfeillion annwyl, gwnewch eich gorau, wrth ddisgwyl am y pethau hyn, i fod yn ddi-nam a di-fai yng ngolwg Duw, ac i'ch cael mewn tangnefedd.
15And account that the longsuffering of our Lord is salvation; even as our beloved brother Paul also, according to the wisdom given to him, wrote unto you;
15 Ystyriwch amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, yn union fel yr ysgrifennodd ein brawd annwyl, Paul, atoch yn �l y ddoethineb a roddwyd iddo ef.
16as also in all [his] epistles, speaking in them of these things; wherein are some things hard to be understood, which the ignorant and unstedfast wrest, as [they do] also the other scriptures, unto their own destruction.
16 Felly hefyd yn ei holl lythyrau y mae'n s�n am y pethau hyn. Y mae rhai pethau ynddynt sydd yn anodd eu deall, pethau y mae'r annysgedig a'r ansicr yn eu gwyrdroi, fel y maent yn gwyrdroi'r Ysgrythurau eraill hefyd, i'w dinistr eu hunain.
17Ye therefore, beloved, knowing [these things] beforehand, beware lest, being carried away with the error of the wicked, ye fall from your own stedfastness.
17 Ond yr ydych chwi, gyfeillion annwyl, yn gwybod am y pethau hyn eisoes. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth, felly, rhag ichwi gael eich ysgubo ymaith gan gyfeiliornad rhai afreolus, a syrthio o'ch safle cadarn.
18But grow in the grace and knowledge of our Lord and Saviour Jesus Christ. To him [be] the glory both now and for ever. Amen.
18 Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o'n Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Iddo ef y bo'r gogoniant yn awr ac am byth! Amen.