1And the whole earth was of one language and of one speech.
1 Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.
2And it came to pass, as they journeyed east, that they found a plain in the land of Shinar; and they dwelt there.
2 Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.
3And they said one to another, Come, let us make brick, and burn them thoroughly. And they had brick for stone, and slime had they for mortar.
3 A dywedasant wrth ei gilydd, "Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed." Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.
4And they said, Come, let us build us a city, and a tower, whose top [may reach] unto heaven, and let us make us a name; lest we be scattered abroad upon the face of the whole earth.
4 Yna dywedasant, "Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thu373?r a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear."
5And Jehovah came down to see the city and the tower, which the children of men builded.
5 Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tu373?r yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu,
6And Jehovah said, Behold, they are one people, and they have all one language; and this is what they begin to do: and now nothing will be withholden from them, which they purpose to do.
6 a dywedodd, "Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud.
7Come, let us go down, and there confound their language, that they may not understand one another's speech.
7 Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad."
8So Jehovah scattered them abroad from thence upon the face of all the earth: and they left off building the city.
8 Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
9Therefore was the name of it called Babel; because Jehovah did there confound the language of all the earth: and from thence did Jehovah scatter them abroad upon the face of all the earth.
9 Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.
10These are the generations of Shem. Shem was a hundred years old, and begat Arpachshad two years after the flood.
10 Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw.
11and Shem lived after he begat Arpachshad five hundred years, and begat sons and daughters.
11 Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
12And Arpachshad lived five and thirty years, and begat Shelah.
12 Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela.
13and Arpachshad lived after he begat Shelah four hundred and three years, and begat sons and daughters.
13 Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
14And Shelah lived thirty years, and begat Eber:
14 Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber.
15and Shelah lived after he begat Eber four hundred and three years, and begat sons and daughters.
15 Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
16And Eber lived four and thirty years, and begat Peleg:
16 Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg.
17and Eber lived after he begat Peleg four hundred and thirty years, and begat sons and daughters.
17 Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
18And Peleg lived thirty years, and begat Reu:
18 Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu.
19and Peleg lived after he begat Reu two hundred and nine years, and begat sons and daughters.
19 Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
20And Reu lived two and thirty years, and begat Serug:
20 Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug.
21and Reu lived after he begat Serug two hundred and seven years, and begat sons and daughters.
21 Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
22And Serug lived thirty years, and begat Nahor:
22 Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor.
23and Serug lived after he begat Nahor two hundred years, and begat sons and daughters.
23 Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill.
24And Nahor lived nine and twenty years, and begat Terah:
24 Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera.
25and Nahor lived after he begat Terah a hundred and nineteen years, and begat sons and daughters.
25 Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill.
26And Terah lived seventy years, and begat Abram, Nahor, and Haran.
26 Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran.
27Now these are the generations of Terah. Terah begat Abram, Nahor, and Haran. And Haran begat Lot.
27 Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot.
28And Haran died before his father Terah in the land of his nativity, in Ur of the Chaldees.
28 Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid.
29And Abram and Nahor took them wives: The name of Abram's wife was Sarai; and the name of Nahor's wife, Milcah, the daughter of Haran, the father of Milcah, and the father of Iscah.
29 Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca.
30And Sarai was barren; She had no child.
30 Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn.
31And Terah took Abram his son, and Lot the son of Haran, his son's son, and Sarai his daughter-in-law, his son Abram's wife; and they went forth with them from Ur of the Chaldees, to go into the land of Canaan; and they came unto Haran, and dwelt there.
31 Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i u373?yr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno.
32And the days of Terah were two hundred and five years: and Terah died in Haran.
32 Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.