1Now faith is assurance of [things] hoped for, a conviction of things not seen.
1 Yn awr, y mae ffydd yn warant o bethau y gobeithir amdanynt, ac yn sicrwydd o bethau na ellir eu gweld.
2For therein the elders had witness borne to them.
2 Trwyddi hi, yn wir, y cafodd y rhai gynt enw da.
3By faith we understand that the worlds have been framed by the word of God, so that what is seen hath not been made out of things which appear.
3 Trwy ffydd yr ydym yn deall i'r bydysawd gael ei lunio gan air Duw yn y fath fodd nes bod yr hyn sy'n weledig wedi tarddu o'r hyn nad yw'n weladwy.
4By faith Abel offered unto God a more excellent sacrifice than Cain, through which he had witness borne to him that he was righteous, God bearing witness in respect of his gifts: and through it he being dead yet speaketh.
4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Cain; trwyddi hi y tystiwyd ei fod yn gyfiawn, wrth i Dduw ei hun dystio i ragoriaeth ei roddion; a thrwyddi hi hefyd y mae ef, er ei fod wedi marw, yn llefaru o hyd.
5By faith Enoch was translated that he should not see death; and he was not found, because God translated him: for he hath had witness borne to him that before his translation he had been well-pleasing unto God:
5 Trwy ffydd y cymerwyd Enoch ymaith fel na welai farwolaeth; ac ni chafwyd mohono, am fod Duw wedi ei gymryd. Oherwydd y mae tystiolaeth ei fod, cyn ei gymryd, wedi rhyngu bodd Duw;
6And without faith it is impossible to be well-pleasing [unto him]; for he that cometh to God must believe that he is, and [that] he is a rewarder of them that seek after him.
6 ond heb ffydd y mae'n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i'r sawl sy'n dod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn gwobrwyo'r rhai sy'n ei geisio.
7By faith Noah, being warned [of God] concerning things not seen as yet, moved with godly fear, prepared an ark to the saving of his house; through which he condemned the world, and became heir of the righteousness which is according to faith.
7 Trwy ffydd, ac o barch i rybudd Duw am yr hyn nad oedd eto i'w weld, yr adeiladodd Noa arch i achub ei deulu; a thrwyddi hi y condemniodd y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder a ddaw o ffydd.
8By faith Abraham, when he was called, obeyed to go out unto a place which he was to receive for an inheritance; and he went out, not knowing whither he went.
8 Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i'r alwad i fynd allan i'r lle yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble'r oedd yn mynd.
9By faith he became a sojourner in the land of promise, as in a [land] not his own, dwelling in tents, with Isaac and Jacob, the heirs with him of the same promise:
9 Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid.
10for he looked for the city which hath the foundations, whose builder and maker is God.
10 Oherwydd yr oedd ef yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi.
11By faith even Sarah herself received power to conceive seed when she was past age, since she counted him faithful who had promised:
11 Trwy ffydd � a Sara hithau yn ddiffrwyth � y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo.
12wherefore also there sprang of one, and him as good as dead, [so many] as the stars of heaven in multitude, and as the sand, which is by the sea-shore, innumerable.
12 Am hynny, felly, o un dyn, a hwnnw cystal � bod yn farw, fe gododd disgynyddion fel s�r y nef o ran eu nifer, ac fel tywod dirifedi glan y m�r.
13These all died in faith, not having received the promises, but having seen them and greeted them from afar, and having confessed that they were strangers and pilgrims on the earth.
13 Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb fod wedi derbyn yr hyn a addawyd, ond wedi ei weld a'i groesawu o bell, a chyfaddef mai dieithriaid ac ymdeithwyr oeddent ar y ddaear.
14For they that say such things make it manifest that they are seeking after a country of their own.
14 Y mae'r rhai sy'n llefaru fel hyn yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio mamwlad.
15And if indeed they had been mindful of that [country] from which they went out, they would have had opportunity to return.
15 Ac yn wir, pe buasent wedi dal i feddwl am y wlad yr oeddent wedi mynd allan ohoni, buasent wedi cael cyfle i ddychwelyd iddi.
16But now they desire a better [country], that is, a heavenly: wherefore God is not ashamed of them, to be called their God; for he hath prepared for them a city.
16 Ond y gwir yw eu bod yn dyheu am wlad well, sef gwlad nefol. Dyna pam nad oes ar Dduw gywilydd ohonynt, nac o gael ei alw yn Dduw iddynt, oherwydd y mae wedi paratoi dinas iddynt.
17By faith Abraham, being tried, offered up Isaac: yea, he that had gladly received the promises was offering up his only begotten [son];
17 Trwy ffydd, pan osodwyd prawf arno, yr offrymodd Abraham Isaac. Yr oedd yr hwn oedd wedi croesawu'r addewidion yn barod i offrymu ei unig fab,
18even he to whom it was said, In Isaac shall thy seed be called:
18 er bod Duw wedi dweud wrtho, "Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion."
19accounting that God [is] able to raise up, even from the dead; from whence he did also in a figure receive him back.
19 Oblegid barnodd y gallai Duw ei godi hyd yn oed oddi wrth y meirw; ac oddi wrth y meirw, yn wir, a siarad yn ffigurol, y cafodd ef yn �l.
20By faith Isaac blessed Jacob and Esau, even concerning things to come.
20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod.
21By faith Jacob, when he was dying, blessed each of the sons of Joseph; and worshipped, [leaning] upon the top of his staff.
21 Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth farw, bob un o feibion Joseff, ac addoli �'i bwys ar ei ffon.
22By faith Joseph, when his end was nigh, made mention of the departure of the children of Israel; and gave commandment concerning his bones.
22 Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn.
23By faith Moses, when he was born, was hid three months by his parents, because they saw he was a goodly child; and they were not afraid of the king's commandment.
23 Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin.
24By faith Moses, when he was grown up, refused to be called the son of Pharaoh's daughter;
24 Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo,
25choosing rather to share ill treatment with the people of God, than to enjoy the pleasures of sin for a season;
25 gan ddewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhad pechod dros dro,
26accounting the reproach of Christ greater riches than the treasures of Egypt: for he looked unto the recompense of reward.
26 a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau'r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr.
27By faith he forsook Egypt, not fearing the wrath of the king: for he endured, as seeing him who is invisible.
27 Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig.
28By faith he kept the passover, and the sprinkling of the blood, that the destroyer of the firstborn should not touch them.
28 Trwy ffydd y cadwodd ef y Pasg, a thaenellu'r gwaed, rhag i'r Dinistrydd gyffwrdd � meibion cyntafanedig yr Israeliaid.
29By faith they passed through the Red sea as by dry land: which the Egyptians assaying to do were swallowed up.
29 Trwy ffydd yr aethant drwy'r M�r Coch fel pe ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud hynny, fe'u boddwyd.
30By faith the walls of Jericho fell down, after they had been compassed about for seven days.
30 Trwy ffydd y syrthiodd muriau Jericho ar �l eu hamgylchu am saith diwrnod.
31By faith Rahab the harlot perished not with them that were disobedient, having received the spies with peace.
31 Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha gyda'r rhai oedd wedi gwrthod credu, oherwydd iddi groesawu'r ysbiwyr yn heddychlon.
32And what shall I more say? for the time will fail me if I tell of Gideon, Barak, Samson, Jephthah; of David and Samuel and the prophets:
32 A beth a ddywedaf ymhellach? Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a'r proffwydi,
33who through faith subdued kingdoms, wrought righteousness, obtained promises, stopped the mouths of lions,
33 y rhai drwy ffydd a oresgynnodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a afaelodd yn yr addewidion, a gaeodd safnau llewod,
34quenched the power of fire, escaped the edge of the sword, from weakness were made strong, waxed mighty in war, turned to flight armies of aliens.
34 a ddiffoddodd angerdd t�n, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo.
35Women received their dead by a resurrection: and others were tortured, not accepting their deliverance; that they might obtain a better resurrection:
35 Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad. Cafodd eraill eu harteithio, gan wrthod ymwared er mwyn cael atgyfodiad gwell.
36and others had trial of mockings and scourgings, yea, moreover of bonds and imprisonment:
36 Cafodd eraill brofi gwatwar a fflangell, ie, cadwynau hefyd, a charchar.
37they were stoned, they were sawn asunder, they were tempted, they were slain with the sword: they went about in sheepskins, in goatskins; being destitute, afflicted, ill-treated
37 Fe'u llabyddiwyd, fe'u torrwyd � llif, fe'u rhoddwyd i farwolaeth � min y cledd; crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, dan orthrwm a chamdriniaeth,
38(of whom the world was not worthy), wandering in deserts and mountains and caves, and the holes of the earth.
38 rhai nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn tiroedd diffaith a mynyddoedd, ac yn cuddio mewn ogofeydd a thyllau yn y ddaear.
39And these all, having had witness borne to them through their faith, received not the promise,
39 A'r rhai hyn oll, er iddynt dderbyn enw da trwy eu ffydd, ni chawsant feddiannu'r hyn a addawyd,
40God having provided some better thing concerning us, that apart from us they should not be made perfect.
40 am fod Duw wedi rhagweld rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel nad ydynt hwy i gael eu perffeithio hebom ni.