American Standard Version

Welsh

Romans

5

1Being therefore justified by faith, we have peace with God through our Lord Jesus Christ;
1 Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch � Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
2through whom also we have had our access by faith into this grace wherein we stand; and we rejoice in hope of the glory of God.
2 Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw.
3And not only so, but we also rejoice in our tribulations: knowing that tribulation worketh stedfastness;
3 Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymdd�l,
4and stedfastness, approvedness; and approvedness, hope:
4 ac o'r gallu i ymdd�l y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.
5and hope putteth not to shame; because the love of God hath been shed abroad in our hearts through the Holy Spirit which was given unto us.
5 A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Gl�n y mae ef wedi ei roi i ni.
6For while we were yet weak, in due season Christ died for the ungodly.
6 Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau'n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol.
7For scarcely for a righteous man will one die: for peradventure for the good man some one would even dare to die.
7 Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn. Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da.
8But God commendeth his own love toward us, in that, while we were yet sinners, Christ died for us.
8 Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
9Much more then, being now justified by his blood, shall we be saved from the wrath [of God] through him.
9 A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y mae'n sicrach fyth y cawn ein hachub trwyddo ef rhag y digofaint.
10For if, while we were enemies, we were reconciled to God through the death of his Son, much more, being reconciled, shall we be saved by his life;
10 Oherwydd os cymodwyd ni � Duw trwy farwolaeth ei Fab pan oeddem yn elynion, y mae'n sicrach fyth, ar �l ein cymodi, y cawn ein hachub trwy ei fywyd.
11and not only so, but we also rejoice in God through our Lord Jesus Christ, through whom we have now received the reconciliation.
11 Ond heblaw hynny, yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist; trwyddo ef yr ydym yn awr wedi derbyn y cymod.
12Therefore, as through one man sin entered into the world, and death through sin; and so death passed unto all men, for that all sinned:--
12 Ein dadl yw hyn. Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu.
13for until the law sin was in the world; but sin is not imputed when there is no law.
13 Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif.
14Nevertheless death reigned from Adam until Moses, even over them that had not sinned after the likeness of Adam's transgression, who is a figure of him that was to come.
14 Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y rhai oedd heb bechu ar batrwm trosedd Adda; ac y mae Adda yn rhaglun o'r Dyn oedd i ddod.
15But not as the trespass, so also [is] the free gift. For if by the trespass of the one the many died, much more did the grace of God, and the gift by the grace of the one man, Jesus Christ, abound unto the many.
15 Ond nid yw'r weithred sy'n drosedd yn cyfateb yn hollol i'r weithred sy'n ras. Y mae'n wir i drosedd yr un ddwyn y llawer i farwolaeth; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: helaethrwydd gras Duw a'i rodd raslon i'r llawer, o'r un dyn, Iesu Grist.
16And not as through one that sinned, [so] is the gift: for the judgment [came] of one unto condemnation, but the free gift [came] of many trespasses unto justification.
16 Ac ni ellir cymharu canlyniad pechod un dyn � chanlyniad rhodd Duw. Ar y naill law, yn dilyn ar un weithred o drosedd, y mae dedfryd gyfreithiol sy'n collfarnu; ar y llaw arall, yn dilyn ar droseddau lawer, y mae gweithred o ras sy'n dyfarnu'n gyfiawn.
17For if, by the trespass of the one, death reigned through the one; much more shall they that receive the abundance of grace and of the gift of righteousness reign in life through the one, [even] Jesus Christ.
17 Y mae'n wir i farwolaeth, trwy drosedd yr un, deyrnasu trwy'r un hwnnw; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: pobl sy'n derbyn helaethrwydd gras Duw, a'i gyfiawnder yn rhodd, yn cael byw a theyrnasu trwy un dyn, Iesu Grist.
18So then as through one trespass [the judgment came] unto all men to condemnation; even so through one act of righteousness [the free gift came] unto all men to justification of life.
18 Dyma'r gymhariaeth gan hynny: fel y daeth collfarn ar y ddynolryw i gyd trwy un weithred o drosedd, felly hefyd y daeth cyfiawnhad sy'n esgor ar fywyd i'r ddynolryw i gyd trwy un weithred o gyfiawnder.
19For as through the one man's disobedience the many were made sinners, even so through the obedience of the one shall the many be made righteous.
19 Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn, felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn.
20And the law came in besides, that the trespass might abound; but where sin abounded, grace did abound more exceedingly:
20 Ond daeth y Gyfraith i mewn, er mwyn i drosedd amlhau; ond lle'r amlhaodd pechod, daeth gorlif helaethach o ras;
21that, as sin reigned in death, even so might grace reign through righteousness unto eternal life through Jesus Christ our Lord.
21 ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.