Basque: New Testament

Welsh

1 Corinthians

9

1Eznaiz Apostolu? eznaiz libre? eztut Iesus Christ gure Iauna ikussi? etzarete çuec ene lana gure Iaunean?
1 Onid wyf fi'n rhydd? Onid wyf yn apostol? Onid wyf wedi gweld Iesu, ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2Baldin bercén Apostolu ezpanaiz, çuen berere banaiz: ecen ene Apostolutassunaren cigulua çuec çarete gure Iaunean.
2 Os nad wyf yn apostol i eraill, o leiaf yr wyf felly i chwi; oherwydd chwi yw s�l fy apostolaeth, yn yr Arglwydd.
3Ene defensá examinatzen nautenac baithara, haur da:
3 Fy amddiffyniad i'r rhai sy'n eistedd mewn barn arnaf yw hyn:
4Ala extugu bothere iateco eta edateco?
4 onid oes gennym hawl i fwyta ac yfed?
5Ala eztugu bothere emazte arreba baten gucietan erabilteco, berce Apostoluéc, eta Iaunaren anayéc, eta Cephasec beçala?
5 Onid oes gennym hawl i fynd � gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna'r apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Ceffas?
6Edo, nic neurorrec eta Barnabasec eztugu bothere lanic ez eguiteco?
6 Neu ai myfi a Barnabas yn unig sydd heb yr hawl i beidio � gweithio i ennill ein bywoliaeth?
7Norc guerlaric eguiten du bere despendioz behinere? norc landatzen du mahasti, eta haren fructutic eztu iaten? edo norc bazcatzen du arthaldea, eta arthaldearen eznetic eztu edaten ?
7 Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?
8Ala guiçonaren arauez gauça hauc erraiten ditut? ala Legueac-ere eztitu gauça hauc erraiten?
8 Ai ar awdurdod dynol yr wyf yn dweud hyn? Onid yw'r Gyfraith hefyd yn ei ddweud?
9Ecen Moysesen Leguean scribatua da, Eztraucac ahoa lothuren idi bihitzen ari denari. Ala artha du idiéz Iaincoac?
9 Oherwydd yng Nghyfraith Moses y mae'n ysgrifenedig: "Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu." Ai am ychen y mae gofal Duw?
10Ala haur guciz guregatic erraiten du? segur haur guregatic scribatua da: ecen sperançatan behar du laboratzen duenac, laboratu: eta bihitzen duenac participant içateco sperançatan.
10 Onid yw'n eglur mai er ein mwyn ni y mae'n ei ddweud? Ie, er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd ef, oherwydd dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.
11Baldin guc çuey gauça spiritualac erein badrauzquiçuegu, gauça handia da çuen carnalac biltzen baditugu?
11 Os ydym ni wedi hau had ysbrydol er eich lles chwi, a yw'n ormod inni fedi cnwd materol ar eich traul chwi?
12Baldin berceac bothere hunetan çuen artean participant badirade, ceren ez cineçago gu? baina eztugu bothere hunez vsatu vkan: aitzitic gauça guciac suffritzen ditugu, Christen Euangelioari empatchuric batre eztemogunçát.
12 Os oes gan eraill ran yn yr hawl hon arnoch, oni ddylem ni fod � mwy? Ond nid ydym wedi arfer yr hawl hon; yn hytrach, yr ydym yn goddef pob peth, rhag inni osod unrhyw rwystr ar ffordd Efengyl Crist.
13Eztaquiçue ecen sacrificioac eguiten dituztenéc, gauça sacrificatuetaric iaten dutela? eta aldarean emplegatzen diradenéc, aldarearequin perticipatzen dutela?
13 Oni wyddoch fod y sawl sy'n cyflawni gwasanaethau'r deml yn cael eu bwyd o'r deml, a bod y rhai sy'n gweini wrth yr allor yn cael eu cyfran o aberthau'r allor?
14Hala gure Iaunac-ere ordenatu vkan draue Euangelioa predicatzen duteney, Euangeliotic vici diraden.
14 Yn yr un modd hefyd, rhoddodd yr Arglwydd orchymyn i'r rhai sy'n cyhoeddi'r Efengyl, eu bod i fyw ar draul yr Efengyl.
15Badaric-ere nic gauça hautaric batez-ere eztut vsatu vkan. Eta gauça hauc eztitut scribatu, hala niri eguin daquidançat: ecen hobe nuque hil nendin ecen ez nehorc ene glorificamendua ezdeusetara deçan.
15 Ond nid wyf fi wedi manteisio ar ddim o'r hawliau hyn. Ac nid er mwyn cael dim o'r fath i mi fy hun yr wyf yn ysgrifennu hyn. Byddai'n well gennyf farw na hynny. Ni chaiff neb droi fy ymffrost yn wagedd.
16Ecen Euangelizatzen badut-ere, eztut ceren gloria nadin: ecen necessitateac eraguiten draut: eta maledictione niri-baldin euangeliza ezpadeçat.
16 Oherwydd os wyf yn pregethu'r Efengyl, nid yw hynny'n achos ymffrost i mi, gan fod rheidrwydd wedi ei osod arnaf. Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl!
17Ecen baldin gogotic haur eguiten badut, sari dut: baina baldin gogoz garaitic eguiten badut, dispensationea eman içan çait.
17 Os o'm gwirfodd yr wyf yn gwneud hyn, y mae imi d�l; ond os o'm hanfodd, yr wyf yn gwneud gorchwyl sydd wedi ei ymddiried imi.
18Cer sari dut beraz? Euangelioa predicatzen dudanean, Christen Euangelioa deus hartu gabe predica deçadan, ezteçadan gaizqui vsat neure bothereaz Euangelioan.
18 Beth, felly, yw fy nh�l? Hyn ydyw: fy mod, wrth bregethu'r Efengyl, yn ei chyflwyno am ddim, heb fanteisio o gwbl ar fy hawl yn yr Efengyl.
19Ecen gucietaric libre banaiz-ere, gucien suiectioneco neure buruä eguin vkan dut, gende guehiago irabaz deçadançát.
19 Oherwydd, er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, yr wyf wedi fy ngwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill rhagor ohonynt.
20Eta eguin içan natzaye Iuduey Iudu beçala, Iuduac irabaz ditzadançát: Leguearen azpico diradeney, Leguearen azpico baninz beçala, Leguearen azpian diradenac irabaz ditzadançát.
20 I'r Iddewon, euthum fel Iddew, er mwyn ennill Iddewon. I'r rhai sydd dan y Gyfraith, fel un ohonynt hwy � er nad wyf fy hunan dan y Gyfraith � er mwyn ennill y rhai sydd dan y Gyfraith.
21Legue gabey Legue gabe baninz beçala, (Legue gabe ezpanaiz-ere Iaincoagana, baina Christen Leguearen azpico) Legue gabeac irabaz ditzadançát.
21 I'r rhai sydd heb y Gyfraith, fel un ohonynt hwythau � er nad wyf heb Gyfraith Duw, gan fy mod dan Gyfraith Crist � er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith.
22Eguin içan natzaye infirmoey infirmo beçala, infirmoac irabaz ditzadançát: guciey eguin içan natzaye gauça gucia, guciz batzu salua ditzadançat.
22 I'r gweiniaid, euthum yn wan, er mwyn ennill y gweiniaid. Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, achub rhai.
23Eta haur eguiten dut Euangelioagatic, çuequin batean participant hartan eguin nadinçát.
23 Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi.
24Eztaquiçue ecen stadioan laster eguiten dutenéc, guciéc laster eguiten badutela, baina batec precioa hartzen duela? hala laster eguiçue non har baiteçaqueçue.
24 Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.
25Eta combatitzen den gucia, regimenduz gauça gucietan vici da: eta hec eguiten duté coroa corrumpituren den baten vkaiteagatic: baina guc corrumpituren eztenagatic.
25 Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy.
26Nic bada hala laster eguiten dut, ez eztaquidala nola: hala bataillatzen naiz, ez aireari baneraunsa beçala.
26 Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd �'r nod yn sicr o'i flaen. Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy'n curo'r awyr �'i ddyrnau.
27Baina gaztigatzen dut neure gorputza, eta suiectionetara erekarten: eceinere maneraz bercey, predicatu ondoan, neuror reprobatu eriden eznadinçát.
27 Yr wyf yn cernodio fy nghorff, ac yn ei gaethiwo, rhag i mi, sydd wedi pregethu i eraill, fy nghael fy hun yn wrthodedig.