Basque: New Testament

Welsh

Job

16

1 Atebodd Job:
2 "Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn; cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.
3 A oes terfyn i eiriau gwyntog? Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?
4 Gallwn innau siarad fel chwithau, pe baech chwi yn fy safle i; gallwn blethu geiriau yn eich erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.
5 Gallwn eich calonogi �'m genau, a'ch esmwyth�u � geiriau fy ngwefusau.
6 "Os llefaraf, ni phaid fy mhoen, ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.
7 Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf; anrheithiaist fy holl gydnabod.
8 Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn; saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
9 Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb, ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf; llygadrytha fy ngelynion arnaf.
10 Cegant yn wawdlyd arnaf, trawant fy ngrudd mewn dirmyg, unant yn dyrfa yn f'erbyn.
11 Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol, a'm taflu i ddwylo'r anwir.
12 Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi; cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio; gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
13 Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch; trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd, a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
14 Gwnaeth rwyg ar �l rhwyg ynof; rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.
15 "Gwn�ais sachliain am fy nghroen, a chuddiais fy nghorun yn y llwch.
16 Cochodd fy wyneb gan ddagrau, daeth d�wch ar fy amrannau,
17 er nad oes trais ar fy nwylo, ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18 "O ddaear, na chuddia fy ngwaed, ac na fydded gorffwys i'm cri.
19 Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst, ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.
20 Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio, difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,
21 fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw, fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.
22 Ychydig flynyddoedd sydd i ddod cyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.