Basque: New Testament

Welsh

Job

18

1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2 "Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau? Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.
3 Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid, ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?
4 Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid! A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di? A symudir y graig o'i lle?
5 "Fe ddiffydd goleuni'r drygionus, ac ni chynnau fflam ei d�n.
6 Fe dywylla'r goleuni yn ei babell, a diffydd ei lamp uwch ei ben.
7 Byrhau a wna'i gamau cryfion, a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.
8 Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun; y mae'n sangu ar y rhwydwaith.
9 Cydia'r trap yn ei sawdl, ac fe'i delir yn y groglath.
10 Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear, ac y mae magl ar ei lwybr.
11 Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn, ac yn ymlid ar ei �l.
12 Pan ddaw pall ar ei gryfder, yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.
13 Ysir ei groen gan glefyd, a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;
14 yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi, a'i ddwyn at Frenin Braw.
15 Bydd estron yn trigo yn ei babell, a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.
16 "Crina'i wraidd oddi tanodd, a gwywa'i ganghennau uwchben.
17 Derfydd y cof amdano o'r tir, ac nid erys ei enw yn y wlad.
18 Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch, ac erlidir ef o'r byd.
19 Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl, nac olynydd iddo yn ei drigfan.
20 Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged, ac arswydant yn y Dwyrain.
21 Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn; hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw."