Basque: New Testament

Welsh

Psalms

45

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Lil�au. I feibion Cora. Masc�l. C�n Serch.0 Symbylwyd fy nghalon gan neges dda; adroddaf fy ngh�n am y brenin; y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.
2 Yr wyt yn decach na phawb; tywalltwyd gras ar dy wefusau am i Dduw dy fendithio am byth.
3 Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr; � mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.
4 Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder, a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.
5 Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin; syrth pobloedd odanat.
6 Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol, a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7 Ceraist gyfiawnder a chas�u drygioni; am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8 Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia, ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9 Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys; saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10 Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust: anghofia dy bobl dy hun a thu375? dy dad;
11 yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch, oherwydd ef yw dy arglwydd.
12 Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus, a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.
13 Cwbl ogoneddus yw merch y brenin, cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,
14 ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin; Ar ei h�l daw ei chyfeillesau, y morynion;
15 d�nt atat yn llawen a hapus, d�nt i mewn i balas y brenin.
16 Yn lle dy dadau daw dy feibion, a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.
17 Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau, nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.