1 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw � chaneuon gorfoledd.
2 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear.
3 Fe ddarostwng bobloedd odanom, a chenhedloedd o dan ein traed.
4 Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni, balchder Jacob, yr hwn a garodd. Sela.
5 Esgynnodd Duw gyda bloedd, yr ARGLWYDD gyda sain utgorn.
6 Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
7 Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear; canwch fawl yn gelfydd.
8 Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd, y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
9 Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull gyda phobl Duw Abraham; oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear � fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.