1 1 I'r Cyfarwyddwr: Masc�l. I Ddafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a dweud wrth Saul fod Dafydd wedi dod i du375? Ahimelech.0 O u373?r grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioni yn erbyn y duwiol yr holl amser?
2 Yr wyt yn cynllwyn distryw; y mae dy dafod fel ellyn miniog, ti dwyllwr.
3 Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni, a chelwydd yn fwy na dweud y gwir. Sela.
4 Yr wyt yn caru pob gair difaol ac iaith dwyllodrus.
5 Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth, bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell, ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw. Sela.
6 Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni, yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,
7 "Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa, ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau, a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun."
8 Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhu375? Dduw; ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.
9 Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost; cyhoeddaf dy enw � oherwydd da yw � ymysg dy ffyddloniaid.