1 1 I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Masc�l. I Ddafydd.0 Gwrando, O Dduw, ar fy ngweddi; paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad.
2 Gwrando arnaf ac ateb fi; yr wyf wedi fy llethu gan fy nghwyn.
3 Yr wyf bron � drysu gan su373?n y gelyn, gan grochlefain y drygionus; oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf, ac ymosod arnaf yn eu llid.
4 Y mae fy nghalon mewn gwewyr, a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf.
5 Daeth arnaf ofn ac arswyd, ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn.
6 A dywedais, "O na fyddai gennyf adenydd colomen, imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso!
7 Yna byddwn yn crwydro ymhell ac yn aros yn yr anialwch; Sela.
8 brysiwn i gael cysgod rhag y gwynt stormus a'r dymestl."
9 O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith, oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;
10 ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau, ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,
11 dinistr yn ei chanol; ac nid yw twyll a gorthrwm yn ymadael o'i marchnadfa.
12 Ond nid gelyn a'm gwawdiodd � gallwn oddef hynny; nid un o'm caseion a'm bychanodd � gallwn guddio rhag hwnnw;
13 ond ti, fy nghydradd, fy nghydymaith, fy nghydnabod �
14 buom mewn cyfeillach felys �'n gilydd wrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhu375? Dduw.
15 Doed marwolaeth arnynt; bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol, am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg.
16 Ond gwaeddaf fi ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
17 Hwyr a bore a chanol dydd fe gwynaf a griddfan, a chlyw ef fy llais.
18 Gwareda fy mywyd yn ddiogel o'r rhyfel yr wyf ynddo, oherwydd y mae llawer i'm herbyn.
19 Gwrendy Duw a'u darostwng � y mae ef wedi ei orseddu erioed � Sela. am na fynnant newid nac ofni Duw.
20 Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion, torrodd ei gyfamod.
21 Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn, ond yr oedd rhyfel yn ei galon; yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew, ond yr oeddent yn gleddyfau noeth.
22 Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.
23 Ti, O Dduw, a'u bwria i'r pwll isaf � rhai gwaedlyd a thwyllodrus � ni ch�nt fyw hanner eu dyddiau. Ond ymddiriedaf fi ynot ti.