Basque: New Testament

Welsh

Psalms

59

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan anfonodd Saul rai i wylio ei gartref er mwyn ei ladd.0 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O fy Nuw; amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwyr.
2 Gwared fi oddi wrth wneuthurwyr drygioni, ac achub fi rhag rhai gwaedlyd.
3 Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes; y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf. Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,
4 heb fod drygioni ynof fi, rhedant i baratoi i'm herbyn. Cyfod, tyrd ataf ac edrych.
5 Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel; deffro a chosba'r holl genhedloedd; paid � thrugarhau wrth y drygionus dichellgar. Sela.
6 Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cu373?n ac yn prowla trwy'r ddinas.
7 Wele, y mae eu genau'n glafoerio, y mae cleddyf rhwng eu gweflau. "Pwy," meddant, "sy'n clywed?"
8 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennau ac yn gwawdio'r holl genhedloedd.
9 O fy Nerth, disgwyliaf wrthyt, oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.
10 Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid; O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.
11 Paid �'u lladd rhag i'm pobl anghofio; gwasgar hwy �'th nerth a darostwng hwy, O Arglwydd, ein tarian.
12 Am bechod eu genau a gair eu gwefusau, dalier hwy gan eu balchder eu hunain. Am y melltithion a'r celwyddau a lefarant,
13 difa hwy yn dy lid, difa hwy'n llwyr, fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau'r ddaear mai Duw sy'n llywodraethu yn Jacob. Sela.
14 Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cu373?n ac yn prowla trwy'r ddinas.
15 Crwydrant gan chwilio am fwyd, a grwgnach onis digonir.
16 Ond canaf fi am dy nerth, a gorfoleddu yn y bore am dy ffyddlondeb; oherwydd buost yn amddiffynfa i mi ac yn noddfa yn nydd fy nghyfyngder.
17 O fy Nerth, canaf fawl i ti, oherwydd Duw yw f'amddiffynfa, fy Nuw trugarog.