1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. Salm. I Ddafydd.0 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth.
2 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3 Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn, bob un ohonoch, a'i falurio, fel mur wedi gogwyddo a chlawdd ar syrthio?
4 Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle, ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll; y maent yn bendithio �'u genau, ond ynddynt eu hunain yn melltithio. Sela.
5 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
6 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth, fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
7 Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd; fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
8 Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl, tywalltwch allan eich calon iddo; Duw yw ein noddfa. Sela.
9 Yn wir, nid yw gwr�ng ond anadl, nid yw bonedd ond rhith; pan roddir hwy mewn clorian, codant � y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.
10 Peidiwch ag ymddiried mewn gormes, na gobeithio'n ofer mewn lladrad; er i gyfoeth amlhau, peidiwch � gosod eich bryd arno.
11 Unwaith y llefarodd Duw, dwywaith y clywais hyn: I Dduw y perthyn nerth,
12 i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb; yr wyt yn talu i bob un yn �l ei weithredoedd.