Basque: New Testament

Welsh

Psalms

74

1 1 Masc�l. I Asaff.0 Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth? Pam y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2 Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt, y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti, a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo.
3 Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol; dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr.
4 Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr, a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno.
5 Y maent wedi malurio, fel coedwigwyr yn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed.
6 Rhwygasant yr holl waith cerfiedig a'i falu � bwyeill a morthwylion.
7 Rhoesant dy gysegr ar d�n, a halogi'n llwyr breswylfod dy enw.
8 Dywedasant ynddynt eu hunain, "Difodwn hwy i gyd"; llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir.
9 Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach; ac nid oes yn ein plith un a u373?yr am ba hyd.
10 Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr? A yw'r gelyn i ddifr�o dy enw am byth?
11 Pam yr wyt yn atal dy law, ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes?
12 Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed, yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear.
13 Ti, �'th nerth, a rannodd y m�r, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd.
14 Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a'i roi'n fwyd i fwystfilod y m�r.
15 Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid.
16 Eiddot ti yw dydd a nos, ti a sefydlodd oleuni a haul.
17 Ti a osododd holl derfynau daear, ti a drefnodd haf a gaeaf.
18 Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio, a phobl ynfyd yn difr�o dy enw.
19 Paid � rhoi dy golomen i'r bwystfilod, nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth.
20 Rho sylw i'th gyfamod, oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawn ac yn gartref i drais.
21 Paid � gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd; bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw.
22 Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos; cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad.
23 Paid ag anghofio crechwen dy elynion, a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr.