Breton: Gospels

Welsh

Habakkuk

1

1 Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.
2 Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, "Trais!" a thithau heb waredu?
3 Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o'm blaen, cynnen a therfysg yn codi.
4 Am hynny, �'r gyfraith yn ddi-rym, ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo; yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn, a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
5 "Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch; rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu; oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith na choeliech, pe dywedid wrthych.
6 Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid, y genedl greulon a gwyllt, sy'n ymdaith ledled y ddaear i feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
7 Arswydus ac ofnadwy ydynt, yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.
8 Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard, yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr, ac yn ysu am fynd. Daw ei farchogion o bell, yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
9 D�nt i gyd i dreisio, a bydd dychryn o'u blaen; casglant gaethion rif y tywod;
10 gwawdiant frenhinoedd a dirmygant arweinwyr; dirmygant bob amddiffynfa, a gosod gwarchae i'w meddiannu.
11 Yna rhuthrant heibio fel gwynt � dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth."
12 Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD, fy Nuw sanctaidd na fyddi farw? O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn; O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.
13 Ti, sydd �'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg, ac na elli oddef camwri, pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?
14 Pam y gwnei bobl fel pysgod y m�r, fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?
15 Coda hwy i fyny � bach, bob un ohonynt, a'u dal mewn rhwydau, a'u casglu � llusgrwydau; yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,
16 yn cyflwyno aberth i'w rhwydau ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau, am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras a bwyta'n foethus.
17 A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd, a lladd cenhedloedd yn ddidostur?