1 Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.
2 O ARGLWYDD, clywais y s�n amdanat, a gwelais dy waith, O ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd.
3 Y mae Duw yn dyfod o Teman, a'r Sanctaidd o Fynydd Paran. Sela. Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd, a'i fawl yn llenwi'r ddaear.
4 Y mae ei lewyrch fel y wawr, a phelydrau'n fflachio o'i law; ac yno y mae cuddfan ei nerth.
5 � haint allan o'i flaen, a daw pla allan ar ei �l.
6 Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd; pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu; rhwygir y mynyddoedd hen a siglir y bryniau oesol; llwybrau oesol sydd ganddo.
7 Gwelais bebyll Cusan mewn helbul a llenni tir Midian yn crynu.
8 A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD? A yw dy lid yn erbyn yr afonydd, a'th ddicter at y m�r? Pan wyt yn marchogaeth dy feirch a'th gerbydau i fuddugoliaeth,
9 y mae dy fwa wedi ei ddarparu a'r saethau'n barod i'r llinyn. Sela. Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;
10 pan w�l y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir. Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen; tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.
11 Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle, rhag fflachiau dy saethau cyflym, rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.
12 Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear, ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.
13 Ei allan i waredu dy bobl, i waredu dy eneiniog; drylli du375?'r drygionus i'r llawr, a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig. Sela.
14 Tryweni �'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru, fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.
15 Pan sethri'r m�r �'th feirch, y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.
16 Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd, cryna fy ngwefusau gan y su373?n; daw pydredd i'm hesgyrn, a gollwng fy nhraed danaf; disgwyliaf am i'r dydd blin wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.
17 Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai;
18 eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.
19 Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a ph�r imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.