Breton: Gospels

Welsh

Haggai

2

1 Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:
2 "Dywed wrth Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac wrth Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl,
3 'A adawyd un yn eich plith a welodd y tu375? hwn yn ei ogoniant cyntaf? Sut yr ydych chwi yn ei weld yn awr? Onid megis dim yn eich golwg?
4 Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,'" medd yr ARGLWYDD, "'ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,'" medd yr ARGLWYDD. "'Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd,
5 "'yn unol �'r addewid a wneuthum i chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft. Y mae fy ysbryd yn aros yn eich plith; peidiwch ag ofni.'"
6 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Unwaith eto, ymhen ychydig, yr wyf am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y m�r a'r sychdir,
7 ac ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tu375? hwn � gogoniant," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
8 "Eiddof fi yr arian a'r aur," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9 "Bydd gogoniant y tu375? diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf," medd ARGLWYDD y Lluoedd; "ac yn y lle hwn rhof heddwch," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai.
11 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd:
12 'Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd � bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?'" Atebodd yr offeiriaid, "Na fyddant."
13 Yna dywedodd Haggai, "Os bydd rhywun sy'n halogedig oherwydd cysylltiad � chorff marw yn cyffwrdd �'r rhain, a fyddant yn halogedig?" Atebodd yr offeiriaid, "Byddant."
14 Yna dywedodd Haggai, "'Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,' medd yr ARGLWYDD, 'a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.'"
15 "Yn awr, ystyriwch sut y bu hyd at y dydd hwn. Cyn rhoi carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD, sut y bu?
16 D�i un at bentwr ugain mesur, a chael deg; d�i at winwryf i dynnu hanner can mesur, a chael ugain.
17 Trewais chwi, a holl lafur eich dwylo, � malltod, llwydni a chenllysg, ac eto ni throesoch ataf," medd yr ARGLWYDD.
18 "Yn awr ystyriwch sut y bydd o'r dydd hwn ymlaen, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, dydd gosod sylfaen teml yr ARGLWYDD; ystyriwch.
19 A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? o'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf."
20 Daeth gair yr ARGLWYDD at Haggai eilwaith ar bedwerydd dydd ar hugain y mis:
21 "Dywed wrth Sorobabel, llywodraethwr Jwda, 'Yr wyf fi am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear;
22 dymchwelaf orsedd brenhinoedd, dinistriaf gryfder teyrnasoedd y cenhedloedd, a dymchwelaf gerbydau a marchogion; bydd ceffylau a'u marchogion yn syrthio, pob un trwy gleddyf ei gyfaill.
23 Yn y dydd hwnnw,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd, "'fe'th gymeraf di Sorobabel fab Salathiel, fy ngwas,'" medd yr ARGLWYDD, "'ac fe'th wisgaf fel s�l-fodrwy, oherwydd tydi a ddewisais,'" medd ARGLWYDD y Lluoedd.