1 Yr oedd rhandir llwyth Jwda yn �l eu tylwythau yn ymestyn at derfyn Edom, yn anialwch Sin, ar gwr deheuol y Negef.
2 Yr oedd eu terfyn deheuol yn rhedeg o gwr eithaf y M�r Marw, o'r gilfach sy'n wynebu tua'r Negef,
3 ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca.
4 Wedi mynd heibio i Asmon, dilynai derfyn nant yr Aifft, nes cyrraedd y m�r. Hwn oedd eu terfyn deheuol.
5 Y terfyn i'r dwyrain oedd y M�r Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y m�r, ger aber yr Iorddonen,
6 i fyny at Beth-hogla, gan gadw i'r gogledd o Beth-araba ac ymlaen at faen Bohan fab Reuben.
7 Yna �i'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn � rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel.
8 Oddi yno �i'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim.
9 O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim.
10 O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.
11 Wedi hyn �i'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y m�r.
12 Glannau'r M�r Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn �l eu tylwythau.
13 Yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.
14 Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.
15 Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath�seffer oedd enw Debir gynt.
16 Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo."
17 Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
18 Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?"
19 Atebodd hithau, "Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau du373?r." Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
20 Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn �l eu tylwythau.
21 Yng nghwr eithaf llwyth Jwda ar derfyn Edom yn y Negef, y trefi oedd Cabseel, Eder, Jagur,
25 Hasor, Hadatta, Cerioth, Hesron (sef Hasor),
27 Hasar�gada, Hesmon, Beth-pelet,
28 Hasar�sual, Beerseba, Bisiothia,
30 Eltolad, Cesil, Horma, Siclag, Madmanna, Sansanna,
31 Lebaoth, Silhim, Ain a Rimmon:
32 cyfanswm o naw ar hugain o drefi a'u pentrefi.
33 Yn y Seffela yr oedd Estaol, Sora, Asna,
34 Sanoa, En-gannim, Tappua, Enam,
35 Jarmuth, Adulam, Socho, Aseca,
36 Saaraim, Adithaim, Gedera a Gederothaim: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
37 Senan, Hadasa, Migdal�gad,
38 Dilean, Mispe, Joctheel,
39 Lachis, Boscath, Eglon,
40 Cabbon, Lahmam, Cithlis,
41 Gederoth, Beth-dagon, Naama a Macceda: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
44 Ceila, Achsib a Maresa: naw o drefi a'u pentrefi.
45 Ecron a'i maestrefi a'i phentrefi;
46 ac, i'r gorllewin o Ecron, y cwbl oedd yn ymyl Asdod, a'u pentrefi.
47 Asdod, ei maestrefi a'i phentrefi; Gasa, ei maestrefi a'i phentrefi at nant yr Aifft, ac at lan y M�r Mawr.
48 Yn y mynydd�dir yr oedd Samir, Jattir, Socho,
49 Danna, Ciriath-sannath (sef Debir),
51 Gosen, Holon a Gilo: un ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
53 Janum, Beth�tappua, Affeca,
54 Humta, Ciriath-arba (sef Hebron), a S�or: naw o drefi a'u pentrefi.
55 Maon, Carmel, Siff, Jutta,
56 Jesreel, Jocdeam, Sanoa,
57 Cain, Gibea, Timna: deg o drefi a'u pentrefi.
58 Halhul, Beth�sur, Gedor,
59 Maarath, Beth-anoth ac Eltecon: chwech o drefi a'u pentrefi.
60 Ciriath�baal, sef Ciriath-jearim, a Rabba: dwy dref a'u pentrefi.
61 Yn yr anialwch yr oedd Betharaba, Midin, Sechacha,
62 Nibsan, Dinas yr Halen ac En�gedi: chwech o drefi a'u pentrefi.
63 Ni allodd y Jwdeaid ddisodli'r Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem; felly y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Jwdeaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.