1 I Simeon y disgynnodd yr ail goelbren, i lwyth Simeon yn �l eu tylwythau; yr oedd eu hetifeddiaeth hwy yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
2 Cawsant yn etifeddiaeth: Beerseba, Seba, Molada,
3 Hasar�sual, Bala, Esem,
4 Eltolad, Bethul, Horma,
5 Siclag, Beth-marcaboth, Hasar�usa,
6 Beth-lebaoth a Saruhen: tair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
7 Ain, Rimmon, Ether ac Asan: pedair tref a'u pentrefi;
8 hefyd yr holl bentrefi o amgylch y trefi hyn, hyd at Baalath�beer, Ramath-negef. Dyma etifeddiaeth llwyth Simeon yn �l eu tylwythau.
9 Daeth peth o randir Jwda yn etifeddiaeth i Simeon, am fod rhan llwyth Jwda yn ormod iddynt; felly etifeddodd Simeon gyfran yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
10 Disgynnodd y trydydd coelbren i lwyth Sabulon yn �l eu tylwythau; yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth hwy'n ymestyn hyd Sarid,
11 ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd � Dabbeseth ac �'r nant gyferbyn � Jocneam.
12 Yr oedd y terfyn yn troi'n �l o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cisloth�tabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia.
13 Oddi yno �i yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Itta�casin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea.
14 Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel,
15 gan gynnwys Cattath, Nahalal, Simron, Idala a Bethlehem: deuddeg o drefi a'u pentrefi.
16 Dyma etifeddiaeth llwyth Sabulon yn �l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
17 I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn �l eu tylwythau.
18 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Jesreel, Cesuloth, Sunem,
19 Haffraim, Sihon, Anaharath,
20 Rabbith, Cision, Abes,
21 Remeth, En-gannim, En�hada a Beth-passes.
22 Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd � Tabor, Sahasima a Beth�semes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
23 Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn �l eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
24 Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn �l eu tylwythau.
25 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff,
26 Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd � Charmel a Sihor Libnath.
27 Yr oedd yn troi'n �l tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd � Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Beth�emec a Neiel, heibio i Cabwl,
28 Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr.
29 Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib,
30 Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi.
31 Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn �l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
32 I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn �l eu tylwythau.
33 i eu terfyn hwy o Heleff, o'r dderwen yn Saanannim heibio i Adami-neceb a Jabneel i Laccum, nes cyrraedd yr Iorddonen.
34 Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnoth�tabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd � Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain.
35 Eu dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth,
37 Cedes, Edrei, En-hasor,
38 Iron, Migdal�el, Horem, Beth-anath a Beth�semes: pedair ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
39 Dyma etifeddiaeth llwyth Nafftali yn �l eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
40 Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn �l eu tylwythau.
41 Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Sora, Estaol, Ir-semes,
42 Saalabbin, Ajalon, Ithla,
44 Eltece, Gibbethon, Baalath,
45 Jehud, Bene�berac, Gath-rimmon,
46 Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn � Jopa.
47 Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi � min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar �l eu tad.
48 Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn �l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
49 Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn �l ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun.
50 Yn unol � gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath�sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.
51 Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennau�teuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.