1 "'Pan fydd rhywun yn dod � bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, bydded ei offrwm o beilliaid ag olew wedi ei dywallt drosto a thus wedi ei roi arno.
2 Y mae i fynd ag ef at feibion Aaron, yr offeiriaid; yna bydd offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r peilliaid a'r olew, ynghyd �'r holl thus, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
3 Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD.
4 "'Os byddi'n dod � bwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, dylai fod yn deisennau heb furum o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, neu'n fisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew.
5 Os bwydoffrwm wedi ei grasu ar radell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid heb furum wedi ei gymysgu ag olew;
6 tor ef yn ddarnau a thywallt olew drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.
7 Os bwydoffrwm wedi ei baratoi mewn padell fydd dy rodd, dylai fod o beilliaid wedi ei wneud ag olew.
8 Byddi'n cyflwyno i'r ARGLWYDD y bwydoffrwm wedi ei wneud o'r pethau hyn, ac yn dod ag ef at yr offeiriad; bydd yntau'n dod ag ef at yr allor.
9 Bydd ef yn cymryd o'r bwydoffrwm y gyfran goffa ac yn ei llosgi ar yr allor yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10 Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD.
11 "'Ni wneir � lefain unrhyw fwyd-offrwm a ddygwch i'r ARGLWYDD, oherwydd nid ydych i losgi unrhyw furum na m�l yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.
12 Gallwch eu cyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm blaenffrwyth, ond nid ydych i'w hoffrymu ar yr allor yn arogl peraidd.
13 Yr wyt i halltu � halen dy holl fwydoffrymau, a pheidio � chadw halen cyfamod dy Dduw o'th fwyd-offrymau; yr wyt i roi halen ar dy holl offrymau.
14 "'Os byddi'n dod � bwydoffrwm o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD, dylai fod yn fwydoffrwm o dywysennau o rawn newydd wedi eu gwasgu a'u crasu yn y t�n.
15 Rho olew a thus drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.
16 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r gyfran goffa o'r grawn ac o'r olew, ynghyd �'r holl thus, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.