1 Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn; diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd, rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.
2 Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob, a gogoniant Israel yr un modd, er i'r anrheithwyr eu difetha a dinoethi eu canghennau.
3 Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch, a'r milwyr mewn ysgarlad, a'i gerbydau yn eu rhengoedd yn fflachio fel t�n, a'r gwu375?r meirch yn prancio.
4 Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd, a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored; fflachiant fel ffaglau, gwibiant fel mellt.
5 Gelwir y glewion i'r frwydr, baglant hwythau wrth ddod; brysiant at y mur, a pharatoir yr amddiffyn.
6 Agorir llifddorau'r afonydd, ac y mae'r plas mewn dychryn;
7 dygir y frenhines ymaith i gaethglud, a'i morynion yn galaru, yn cwyno fel colomennod ac yn curo dwyfron.
8 Y mae Ninefe fel llyn a'i ddyfroedd yn diflannu. "Aros! Aros!" meddant, ond nid yw neb yn troi'n �l.
9 Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur! Nid oes terfyn ar y trysor, nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.
10 Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi, pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian, y llwynau'n crynu, ac wyneb pawb yn gwelwi!
11 Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc, cynefin y llew a'r llewes, lle triga'r cenawon heb eu tarfu?
12 Darniodd y llew ddigon i'w genawon, a lladd ar gyfer ei lewesau; llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth, a'i loches �'i raib.
13 "Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Llosgaf dy ffau mewn mwg, ac ysa'r cleddyf dy genawon; torraf ymaith dy ysbail o'r tir, ac ni chlywir mwyach s�n am dy weithredoedd."