Breton: Gospels

Welsh

Numbers

15

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i chwi i fyw ynddi,
3 a phan fyddwch yn offrymu o'ch gwartheg neu o'ch defaid offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, boed yn boethoffrwm neu'n aberth cyffredin, boed yn offrwm i gyflawni adduned neu'n offrwm gwirfodd neu'n un a gyflwynir ar eich gwyliau penodedig,
4 yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod � bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu � chwarter hin o olew;
5 y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.
6 Os offrymir hwrdd, deuer � bwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu � thraean hin o olew,
7 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer � thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
8 Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,
9 yna deuer � bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu � hanner hin o olew,
10 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer � hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
11 Felly y gwneir � phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,
12 pa faint bynnag ohonynt y byddwch yn eu hoffrymu.
13 Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.'
14 "'Os bydd yn eich plith, dros eich cenedlaethau, ddieithriaid neu eraill yn dymuno offrymu offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, y maent i ddilyn yr hyn yr ydych chwi yn ei wneud.
15 Un ddeddf fydd i'r cynulliad ac i'r dieithryn yn eich plith, ac y mae'r ddeddf honno i'w chadw trwy eich cenedlaethau; yr ydych chwi a'r dieithryn yn un gerbron yr ARGLWYDD.
16 Un gyfraith ac un rheol fydd i chwi ac i'r dieithryn a fydd gyda chwi.'"
17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18 "Dywed wrth bobl Israel, 'Wedi ichwi ddod i mewn i'r wlad yr wyf yn eich arwain iddi,
19 a bwyta o gynnyrch y tir, yr ydych i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD.
20 Offrymwch deisen wedi ei gwneud o'r toes cyntaf y byddwch yn ei baratoi, a chyflwynwch hi'n offrwm o'r llawr dyrnu.
21 Yr ydych i offrymu i'r ARGLWYDD y cyntaf o'ch toes dros eich cenedlaethau.
22 "'Os byddwch, mewn camgymeriad, heb gadw'r holl orchmynion hyn a roddodd yr ARGLWYDD ichwi trwy Moses,
23 o'r dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD y gorchymyn ymlaen trwy'r cenedlaethau,
24 ac os gwnaethoch hyn yn anfwriadol, a'r cynulliad heb fod yn gwybod amdano, yna y mae'r holl gynulliad i offrymu bustach ifanc yn boethoffrwm, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, gyda'i fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm, a hefyd bwch gafr yn aberth dros bechod, yn unol �'r ddeddf.
25 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros gynulliad pobl Israel, ac fe faddeuir iddynt am mai mewn camgymeriad y gwnaethant hyn, ac am iddynt ddwyn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD a chyflwyno iddo aberth dros bechod.
26 Fe faddeuir i holl gynulliad pobl Israel ac i'r dieithryn sy'n byw yn eu plith, gan fod pawb yn gyfrifol am y camgymeriad.
27 "'Os bydd unigolyn yn pechu'n anfwriadol, y mae i offrymu gafr flwydd yn aberth dros bechod.
28 Bydd yr offeiriad yn gwneud cymod gerbron yr ARGLWYDD dros yr un a bechodd yn anfwriadol mewn camgymeriad, ac fe faddeuir iddo.
29 Pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth yn anfwriadol, yna yr un gyfraith a weithredir prun bynnag a yw'n frodor o Israel neu'n ddieithryn sy'n byw yn eu plith.
30 Ond pan fydd rhywun yn gweithredu'n rhyfygus, boed yn frodor neu'n ddieithryn, y mae'n cablu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
31 Am iddo ddiystyru gair yr ARGLWYDD a gwrthod cadw ei orchymyn, fe'i torrir ymaith yn llwyr a bydd yn dwyn ei gamwedd arno'i hun.'"
32 Pan oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, gwelsant ddyn yn casglu coed ar y Saboth,
33 ac wedi iddynt ddod ag ef at Moses ac Aaron a'r holl gynulliad,
34 rhoddwyd ef yn y ddalfa am nad oedd yn glir beth y dylid ei wneud ag ef.
35 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Rhodder y dyn i farwolaeth; y mae'r holl gynulliad i'w labyddio y tu allan i'r gwersyll."
36 Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, a bu farw.
37 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
38 "Dywed wrth bobl Israel am iddynt, dros eu cenedlaethau, wneud taselau ar odre eu gwisg, a chlymu ruban glas ar y tasel ym mhob congl.
39 Pan fyddwch yn edrych ar y tasel, fe gofiwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD, ac ni fyddwch yn puteinio trwy fynd ar �l y pethau y mae eich calonnau a'ch llygaid yn chwantu amdanynt.
40 Felly fe gofiwch gadw fy holl orchmynion, a byddwch yn sanctaidd i'ch Duw.
41 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth � chwi allan o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chwi; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."