1 Ymgasglwch a dewch ynghyd, genedl ddigywilydd,
2 cyn i chwi gael eich gyrru ymaith, a diflannu fel us, cyn i gynddaredd llid yr ARGLWYDD ddod arnoch, cyn i ddydd dicter yr ARGLWYDD ddod arnoch.
3 Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai gostyngedig y ddaear sy'n cadw ei ddeddfau; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch ostyngeiddrwydd; efallai y cewch guddfan yn nydd llid yr ARGLWYDD.
4 Bydd Gasa yn anghyfannedd ac Ascalon yn ddiffaith; gyrrir allan drigolion Asdod ganol dydd, a diwreiddir Ecron.
5 Gwae drigolion glan y m�r, cenedl y Cerethiaid! Y mae gair yr ARGLWYDD yn eich erbyn, O Ganaan, gwlad y Philistiaid: "Difethaf chwi heb adael trigiannydd ar �l."
6 A bydd glan y m�r yn borfa, yn fythod i fugeiliaid ac yn gorlannau i ddefaid.
7 Bydd glan y m�r yn eiddo i weddill tu375? Jwda; yno y porant, a gorwedd fin nos yn nhai Ascalon. Oherwydd bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn ymweld � hwy ac yn adfer eu llwyddiant.
8 "Clywais wawd Moab a gwatwaredd yr Ammoniaid, fel y bu iddynt wawdio fy mhobl a bygwth eu terfyn.
9 Am hynny, cyn wired �'m bod i'n fyw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "bydd Moab fel Sodom, a'r Ammoniaid fel Gomorra, yn dir danadl, yn bentwr o halen, yn ddiffaith am byth. Bydd y rhai a adawyd o'm pobl yn eu hanrheithio, a gweddill fy nghenedl yn meddiannu eu tir."
10 Dyma'r t�l am eu balchder, am iddynt wawdio a bygwth pobl ARGLWYDD y Lluoedd.
11 Bydd yr ARGLWYDD yn ofnadwy yn eu herbyn, oherwydd fe ddarostwng holl dduwiau'r ddaear hyd newyn, a bydd holl arfordir y cenhedloedd yn ymostwng iddo, pob un yn ei le ei hun.
12 Chwithau hefyd, Ethiopiaid, fe'ch lleddir �'m cleddyf.
13 Ac fe estyn ei law yn erbyn y gogledd, a dinistrio Asyria; fe wna Ninefe'n anialwch, yn sych fel diffeithwch.
14 Bydd diadelloedd yn gorwedd yn ei chanol, holl anifeiliaid y maes; bydd y pelican ac aderyn y bwn yn nythu yn ei thrawstiau; bydd y dylluan yn llefain yn ei ffenestr, a'r gigfran wrth y rhiniog, am fod y cedrwydd yn noeth.
15 Dyma'r ddinas fostfawr oedd yn byw mor ddiofal, ac yn dweud wrthi ei hun, "Myfi, nid oes neb ond myfi." Y fath ddiffeithwch ydyw, lloches i anifeiliaid gwylltion! Bydd pob un a � heibio iddi yn chwibanu ac yn codi dwrn arni.