Welsh

聖經新譯本

1 Chronicles

27

1 Dyma nifer meibion Israel, yn bennau-teuluoedd a chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd a'u swyddogion, oedd yn gwasanaethu'r brenin yn y gwahanol adrannau fis ar y tro trwy gydol y flwyddyn: pedair mil ar hugain ymhob adran.
1以色列的軍事組織以色列人各家族的首領、千夫長、百夫長和服事王的所有官長,都按著他們的數目分定班次,每年按月輪班,每班有二萬四千人。
2 Jasobeam fab Sabdiel oedd yn gofalu am yr adran gyntaf am y mis cyntaf, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.
2負責正月第一班的,是撒巴第業的兒子雅朔班,他那一班有二萬四千人。
3 Yr oedd ef o feibion Peres ac yn brif swyddog y llu am y mis cyntaf.
3他是法勒斯子孫中的首領,統管正月那一班所有的軍長。
4 Dodai yr Ahohiad oedd dros adran yr ail fis, ac yn ei adran ef a Micloth y pennaeth yr oedd pedair mil ar hugain.
4負責二月那一班的是亞哈希人朵代,他那一班還有副官密基羅,他那一班有二萬四千人。
5 Benaia fab Jehoiada yr archoffeiriad oedd trydydd swyddog y llu, am y trydydd mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
5三月第三班的軍長是大祭司耶何耶大的兒子比拿雅,他那一班有二萬四千人。
6 Y Benaia hwn oedd yr arwr ymhlith y Deg ar Hugain, ac ef oedd yn gofalu amdanynt. Amisabad ei fab oedd dros ei adran ef.
6這比拿雅是那三十位勇士中的一位,管理那三十人;他那一班還有他的兒子暗米薩拔。
7 Asahel brawd Joab oedd y pedwerydd, am y pedwerydd mis, a Sebadeia ei fab ar ei �l; yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
7四月第四班的軍長是約押的兄弟亞撒黑,接續他的是他的兒子西巴第雅;他那一班有二萬四千人。
8 Samuth yr Israhiad oedd y pumed swyddog, am y pumed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
8五月第五班的軍長是伊斯拉人珊合,他那一班有二萬四千人。
9 Ira fab Icces y Tecoiad oedd y chweched, am y chweched mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
9六月第六班的軍長是提哥亞人益吉的兒子以拉,他那一班有二萬四千人。
10 Heles y Peloniad, o feibion Effraim, oedd y seithfed, am y seithfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
10七月第七班的軍長是以法蓮子孫中比倫人希利斯,他那一班有二萬四千人。
11 Sibbechai yr Husathiad, un o'r Sarhiaid, oedd yr wythfed am yr wythfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.
11八月第八班的軍長是謝拉家族戶沙人西比該,他那一班有二萬四千人。
12 Abieser o Anathoth, un o'r Benjaminiaid, oedd y nawfed, am y nawfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
12九月第九班的軍長是便雅憫支派亞拿突人亞比以謝,他那一班有二萬四千人。
13 Maharai o Netoffa, un o'r Sarhiaid, oedd y degfed, am y degfed mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
13十月第十班的軍長是謝拉家族尼陀法人瑪哈萊,他那一班有二萬四千人。
14 Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim, oedd yr unfed ar ddeg, am yr unfed mis ar ddeg, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.
14十一月第十一班的軍長是以法蓮子孫中的比拉頓人比拿雅,他那一班有二萬四千人。
15 Heldai y Netoffathiad o Othniel oedd y deuddegfed, am y deuddegfed mis, ac yn ei adran ef yr oedd pedair mil ar hugain.
15十二月第十二班的軍長是俄陀聶家族尼陀法人黑玳,他那一班有二萬四千人。
16 Prif swyddogion llwythau Israel: Elieser fab Sichri dros y Reubeniaid; Seffatia fab Maacha dros y Simeoniaid;
16以色列各支派的領袖掌管以色列各支派的記在下面:流本支派的首領是細基利的兒子以利以謝;西緬支派的首領是瑪迦的兒子示法提雅;
17 Hasabeia fab Cemual dros y Lefiaid; Sadoc dros yr Aaroniaid;
17利未支派的首領是基母利的兒子哈沙比雅;亞倫子孫的首領是撒督;
18 Elihu, un o frodyr Dafydd, dros Jwda; Omri fab Michael dros Issachar;
18猶大支派的首領是大衛的哥哥以利戶;以薩迦支派的首領是米迦勒的兒子暗利;
19 Ismaia fab Obadeia dros Sabulon; Jerimoth fab Asriel dros Nafftali;
19西布倫支派的首領是俄巴第雅的兒子伊施瑪雅;拿弗他利支派的首領是亞斯列的兒子耶利摩;
20 Hosea fab Asaseia dros feibion Effraim; Joel fab Pedaia dros hanner llwyth Manasse;
20以法蓮支派的首領是阿撒細雅的兒子何細亞;瑪拿西半個支派的首領是毗大雅的兒子約珥;
21 Ido fab Sechareia dros hanner llwyth Manasse yn Gilead; Jaasiel fab Abner dros Benjamin;
21基列地瑪拿西那半個支派的首領是撒迦利亞的兒子易多;便雅憫支派的首領是押尼珥的兒子雅西業;
22 Asarel fab Jeroham dros Dan. Y rhain oedd swyddogion llwythau Israel.
22但支派的首領是耶羅罕的兒子亞薩列。以上這些人是以色列各支派的領袖。
23 Ni restrodd Dafydd y rhai ugain mlwydd oed a thanodd, am fod yr ARGLWYDD wedi addo gwneud Israel mor niferus � s�r y nefoedd.
23以色列人二十歲以下的,大衛都沒有登記他們的數目,因為耶和華曾經說過要增添以色列人的數目,好像天上的星那樣多。
24 Fe ddechreuodd Joab fab Serfia wneud cyfrifiad, ond nis gorffennodd. O achos hyn fe ddaeth llid ar Israel, a dyna pam na cheir y cyfanswm yng nghronicl y Brenin Dafydd.
24洗魯雅的兒子約押開始數點,但還沒有完成,為了這事耶和華的忿怒就臨到以色列人身上,所以以色列的人數沒有記在大衛王的年錄上。
25 Dros drysordai'r brenin: Asmafeth fab Abdiel; dros y trysordai yn y wlad, y dinasoedd, y pentrefi a'r caerau: Jehonathan fab Usseia;
25王室財政與產業的主管管理王的庫房的,是亞疊的兒子押斯馬威;管理郊野、城市、鄉村和望樓的倉庫的,是烏西雅的兒子約拿單;
26 dros y rhai oedd yn gweithio ar y tir: Esri fab Celub;
26管理耕田種地的,是基綠的兒子以斯利;
27 dros y gwinllannoedd: Simei y Ramathiad; dros gynnyrch y gwin-llannoedd yn y selerau gwin: Sabdi y Siffniad;
27管理葡萄園的,是拉瑪人示每;管理園裡酒庫的,是實弗米人撒巴底;
28 dros yr olewydd a'r sycamorwydd yn y Seffela: Baal-hanan y Gederiad; dros y selerau olew: Joas;
28管理高原橄欖樹和桑樹的,是基第利人巴力.哈南;管理油庫的,是約阿施;
29 dros yr ychen yn pori yn Saron: Sitrai y Saroniad; dros yr ychen yn y dyffrynnoedd: Saffat fab Adlai;
29管理在沙崙牧放的牛群的,是沙崙人施提賚;管理在山谷的牛群的,是亞第賚的兒子沙法;
30 dros y camelod: Obil yr Ismaeliad; dros yr asynnod: Jehdeia y Moronothiad; dros y defaid: Jasis yr Hageriad.
30管理駱駝的,是以實瑪利人阿比勒;管理驢群的,是米崙人耶希底亞;
31 Dyma'r swyddogion oedd yn gofalu am eiddo'r Brenin Dafydd.
31管理羊群的,是夏甲人雅悉。以上這些人都是給大衛王管理產業的官員。
32 Jehonathan, ewythr Dafydd, cyng-horwr ac ysgrifennydd deallus, a Jehiel fab Hachmoni oedd yn gofalu am feibion y brenin.
32大衛的重要臣僕大衛的叔父約拿單是一個謀士;這人很有智慧,又是一個經學家;哈摩尼的兒子耶歇是王眾子的老師。
33 Yr oedd Ahitoffel yn gynghorwr i'r brenin, a Husai yr Arciad yn gyfaill y brenin.
33亞希多弗也是王的謀士;亞基人戶篩是王的朋友;
34 Dilynwyd Ahitoffel gan Jehoiada fab Benaia, ac Abiathar. Joab oedd cadfridog byddin y brenin.
34亞希多弗以後,有比拿雅的兒子耶何耶大和亞比亞他,接續他作謀士;約押作王的元帥。